Anhwylder Glwth-fwyta

binge

Mae anhwylder ‘glwth-fwyta’ (Binge Eating Disorder) yn salwch meddwl difrifol pan fydd pobl yn bwyta gormodedd o fwyd heb deimlo eu bod mewn rheolaeth o hynny. Gall effeithio ar rywun o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu gefndir ac awgryma’r dystiolaeth ei fod yn fwy cyffredin nag anhwylderau bwyta eraill. 

Mae pobl ag anhwylder ‘glwth-fwyta’ yn bwyta gormodedd o fwyd dros gyfnod byr ac mewn pyliau. Yn wahanol i bobl gyda bwlimia, nid ydyn nhw fel arfer yn chwydu, er enghraifft, i wagu’r stumog o’r bwyd, er y gallent weithiau ymprydio rhwng y pyliau o lwth-fwyta. Nid dewis bwyta gormodedd o fwyd ar y tro yw BED, ac nid yw’r bobl sy’n dioddef o’r cyflwr yn ‘gorfwyta’ - mae glwth-fwyta ymhell o fod yn bleserus ac yn brofiad annifyr iawn sy’n aml yn golygu bwyta llawer mwy o fwyd nag y byddai rhywun eisiau ei fwyta. Gall pobl gael trafferth stopio bwyta yn ystod pwl o lwth-fwyta, hyd yn oed pe byddent eisiau. Mae rhai ag anhwylder glwth-fwyta wedi disgrifio teimlo’n hollol ddigyswllt o’r hyn y maen nhw’n ei wneud wrth lwth-fwyta, neu’n methu â chofio wedyn beth a fwytasant hyd yn oed. 

Gall nodweddion pwl o lwth-fwyta gynnwys bwyta’n llawer cynt na sy’n normal, bwyta tan eich bod yn anghyffyrddus o lawn, bwyta gormodedd o fwyd a chithau ddim awydd bwyd, bwyta ar ben eich hun oherwydd yr embaras o fwyta’r holl, a theimladau o ffieidd-dra, cywilydd neu euogrwydd yn ystod neu wedyn. Mae rhywun sy’n profi o leiaf un o’r pyliau trallodus hyn o lwth-fwyta bob wythnos, am dri mis o leiaf, yn debygol o gael diagnosis o anhwylder glwth-fwyta. Gall glwth-fwyta gael ei gynllunio fel ‘defod’ a’r person yn prynu bwydydd glwth-fwyta ‘arbennig’, neu gall fod yn fwy mympwyol. Gall pobl fynd i drafferth aruthrol i gael gafael ar fwyd – er enghraifft drwy fwyta bwyd a daflwyd neu sy’n perthyn i rywun arall. Fel arfer mae glwth-fwyta’n digwydd yn breifat er bod y person efallai’n bwyta prydau bwyd arferol ar wahân i’w glwth-fwyta. Gall pobl ag anhwylder glwth-fwyta hefyd fwyta diet cyfyng iawn neu greu rheolau o gwmpas bwyd, gan hefyd arwain at lwth-fwyta oherwydd bod eisiau bwyd a theimladau o amddifadedd. Yn aml iawn mae pobl yn teimlo’n euog a ffiaidd am eu diffyg rheolaeth yn ystod ac ar ôl glwth-fwyta, sy’n gallu atgyfnerthu’r cylch o emosiynau negyddol, bwyta llai a glwth-fwyta eto. 


Mae llawer iawn o bethau sy’n gallu creu ysfa yn rhywun i lwth-fwyta. Gallai gynnwys teimladau llethol neu anodd, er enghraifft teimlo’n isel, diflas, blin, ypset neu’n orbryderus. Gall pobl hefyd lwth-fwyta os ydynt yn teimlo’n hapus neu’n llawn cyffro. Weithiau gall pyliau o lwth-fwyta fod wedi’i gynllunio neu’n fwy o arferiad na rhywbeth sy’n dilyn ysfa sydyn, a gall hyn hefyd fod am nifer o resymau fel diffyg teimlad (emosiynau wedi rhewi), i ymdopi â theimladau annifyr neu os yw’r cyfle’n codi pan fydd rhywun ar ben ei hun.

 

Symptomau Anhwylder Glwth-fwyta

Mae anhwylder glwth-fwyta effeithio ar fywyd person mewn amryw o ffyrdd. Yn aml iawn (er nid bob tro), gall yr anhwylder arwain at fagu pwysau, ac o ran iechyd mae hefyd yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, diabetes math 2 a chlefyd y galon. Mae hefyd yn effeithio ar hwyliau pobl yn aml; mae anhwylder glwth-fwyta’n gysylltiedig â hunan-werth isel a diffyg hyder, iselder a gorbryderu. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, mae pobl eraill yn fwy tebygol o sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad a theimladau cyn sylwi ar unrhyw symptomau corfforol. 

Er y gall anhwylder glwth-fwyta effeithio ar unrhyw un, mae’n tueddu i fod yn fwy cyffredin mewn oedolion na phobl iau, gan ddechrau yn yr ugeiniau neu’n hŷn yn aml. Gall ddatblygu o, neu i fod yn gyflwr bwyta arall. Un o effeithiau posib glwth-fwyta yw bod y person yn mynd dros eu pwysau neu’n ordew. Mae bod yn ordew’n gysylltiedig â risgiau iechyd difrifol gan effeithio ar sawl rhan o fywyd unigolyn. Mae’n bwysig cofio nad yw diagnosis o anhwylder glwth-fwyta wedi’i gyfyngu i bobl sydd dros eu pwysau; mae’n bosib dioddef o’r anhwylder a bod yn bwysau corfforol iach. 

Er nad yw gordewdra’n anhwylder bwyta, mae Beat yn teimlo’n gryf am sicrhau ein bod yn deall ei gymhlethdod. Mae Beat wedi trefnu ymgyrchoedd wedi eu hanelu at golli pwysau a’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio gordewdra: Public Health, Not Public Shaming

Mae arwyddion anhwylder glwth-fwyta’n amrywio ond os nad yw’r symptomau’n cyfateb yn union i bopeth y mae meddyg yn gwirio amdano i roi diagnosis o anhwylder glwth-fwyta – e.e. os nad yw person yn glwth-fwyta’n aml – gallai diagnosis o anhwylder bwyta o fath arall penodedig (OSFED) fod yn berthnasol. Mae OFSED yr un mor ddifrifol ag unrhyw anhwylder bwyta arall ac mae’n bwysig bod dioddefwyr yn derbyn triniaeth mor gyflym â phosib i gael y siawns orau o wella’n llwyr. 


Mae’n normal i bawb gael cysur mewn bwyd ac nid oes angen poeni os nad yw’n digwydd yn aml ac yn digwydd heb i chi deimlo allan o reolaeth, yn ofidus neu’n euog. Y gwahaniaeth rhwng hynny a glwth-fwyta yw pa mor aml, natur a’r agwedd emosiynol ar y glwth-fwyta. Ystyrir gorfwyta emosiynol i fod yn ymddygiad bwyta nid anhwylder bwyta. Fodd bynnag, os teimlwch mai bwyd yw eich prif ffordd o ymdopi â’ch teimladau, mae’n bwysig gofyn am help. 

Isod disgrifir mwy o arwyddion glwth-fwyta ond nid oes raid i rywun ddangos pob un i fod yn dioddef o’r cyflwr. Nid yw’n amlwg bob tro bod gan rywun anhwylder bwyta – rhaid cofio mai salwch meddwl ydyw. Os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu rywun arall, hyd yn oed os oes ond rhai o’r arwyddion hyn yn bresennol, dylech ofyn am gymorth yn syth. Y cam cyntaf fel arfer yw gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu. 

 

Dyma rai o’r arwyddion mwy cyffredin o anhwylder glwth-fwyta: 

Arwyddion Ymddygiad

Os yw person yn dechrau cael anhwylder glwth-fwyta, mae rhywun yn aml yn sylwi ar newidiadau ymddygiad cyn y newidiadau corfforol. Mae’r arwyddion yn cynnwys: 

  • Prynu llawer iawn o fwyd 
  • Trefnu eu bywyd o gwmpas pyliau o lwth-fwyta 
  • Gor-hel bwyd 
  • Bwyta’n gyflym iawn 
  • Bwyta heb fod eisiau bwyd 
  • Bwyta hyd nes bod yn anghyffyrddus o lawn 
  • Osgoi bwyta o gwmpas pobl eraill 
  • Ynysu a chilio’n gymdeithasol
  • Yn biwis / pigog 
  • Hwyliau amrywiol 
  • Rhoi eu cynlluniau addysg a chyflogaeth yn y fantol 

 

Arwyddion Seicolegol

Salwch meddwl yw anhwylder glwth-fwyta a gallech sylwi ar newid mewn teimladau, ynoch chi neu’r person arall, cyn i’r symptomau corfforol ddod yn amlwg. Gall arwyddion seicolegol gynnwys: 

  • Treulio llawer neu’r rhan fwyaf o’u hamser yn meddwl am fwyd. 
  • Teimlad o fod allan o reolaeth o gwmpas bwyd, neu golli rheolaeth dros fwyta 
  • Teimlo’n orbryderus a llawn tensiwn, yn enwedig wrth fwyta o flaen eraill 
  • Hunan-hyder a hunan-werth isel 
  • Teimlo cywilydd ac euogrwydd ar ôl glwth-fwyta 
  • Mathau eraill o salwch meddwl fel iselder neu orbryderu 

 

Arwyddion Corfforol

Mae nifer o ganlyniadau corfforol sy’n gysylltiedig ag anhwylder glwth-fwyta: 

  • Wedi blino o hyd 
  • Trafferth cysgu 
  • Magu pwysau 
  • Stumog wedi chwyddo 
  • Yn rhwym 
  • Poen bol 
  • Problemau stumog eraill 
  • Croen gwael 

 

Effeithiau Hirdymor

Fel unrhyw anhwylder bwyta, gall glwth-fwyta achosi effeithiau corfforol hirdymor sy’n gallu bod yn barhaol. Gall y rhain gynnwys: 

  • Gordewdra 
  • Pwysedd gwaed uchel 
  • Colesterol uchel 
  • Clefyd y galon 
  • Diabetes math 2 
  • Trafferth cael plant, anffrwythlondeb
  • Poen cymalau a chefn 
  • Difrod i’r oesoffagws a’r stumog 
  • Arthritis 
  • Clefyd coden y bustl 
  • Apnoea cysgu

Yn fwyaf difrifol, gall glwth-fwyta fod yn farwol os nad yw’n cael ei drin mewn pryd. Fodd bynnag mae’n bosib gwrthdroi llawer o effeithiau corfforol glwth-fwyta neu eu hatal rhag gwaethygu, a gellir trin anhwylderau bwyta a gwella’n llwyr ohonynt. 

 

Sut beth yw dioddef o Anhwylder Glwth-fwyta?

Mae fel swîts yn dod ymlaen yn eich meddwl a’r unig beth y gallwch ei wneud yw bwyta hyd nes na allwch fwyta mwy. Mae’n frawychus oherwydd mae’r ‘chi go iawn’ yn dal i fod yn eich pen ond heb unrhyw bŵer dros yr hyn sy’n digwydd ac rydych wedi troi’n rhywbeth arall. 
...Roedd fy mywyd dan ormes bwyta a bwyd. Roedd yn rhaid i mi gynllunio fy niwrnod cyfan o gwmpas pryd y gallwn reoli fy mwyta; byddwn yn canslo cynlluniau ac osgoi pethau oedd yn cynnwys bwyd. Roeddwn yn hollol ddigalon ac yn mynd yn wannach o hyd drwy beidio â bwyta’n iawn.  

Nid oedd yn rhywbeth y gallwn siarad amdano na’i rannu â ffrindiau gan ofni y byddai pobl yn beirniadu fy niffyg ewyllys. Roedd yr euogrwydd a’r cywilydd yn gylch dieflig gan waethygu fy iechyd meddwl a’r gwerth a roddwn ar fy nghorff. Oherwydd fy hyder a fy hunan-werth isel roeddwn yn dieithrio mwy o deulu a ffrindiau. Ni allwn byth egluro pa mor drallodus oedd glwth-fwyta a’i fod ar fy meddwl drwy’r amser. Byddai pobl yn mynd yn rhwystredig oherwydd na allwn ‘siarad’ am fy mhroblemau ond nid nad oeddwn eisiau siarad oedd o - ni allwn ddisgrifio pa mor ddirboenus oedd y teimlad. 

 

Darparwyd y wybodaeth yma gan Beat Eating Disorders: 

https://www.beateatingdisorders.org.uk/get-information-and-support/about-eating-disorders/types/bulimia/