Clust i wrando - sut i fod o gymorth i rywun sydd yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl.
Mae fy mrawd wedi bod yn delio ag iselder dros y cyfnod clo, ac mi ‘dwi wedi bod yn cwestiynu fy hun sut allai wneud mwy i’w helpu. Yn ystod y cyfnod clo dwi wedi bod yn ei annog i ddod allan efo fi am dro neu jog bach a cheisio cadw cwmni iddo a’i gadw’n brysur bob eiliad o’r dydd. Ond, wrth wneud hyn i gyd dwi dal i gwestiynu be arall y galla i'w wneud gan nad ydw i o reidrwydd yn arbenigwr ar iechyd meddwl a methu rhoi cymorth arbenigol ar sut i ddelio gydag iselder.
Un o’r diwrnodau erbyn diwedd y cyfnod clo ges i ‘breakdown’ efo Mam am hyn i gyd. Roedd gweld fy mrawd fel yr oedd, cwbl i’r gwrthwyneb i’w gymeriad arferol yn brifo. Gwybod hefyd nad oeddwn yn gallu ei helpu a gwneud pethau yn well. Pan siaradais i gyda Mam am hyn dywedodd hi wrtha i fy mod i’n neud digon fel ydw i, yn gwrando ar beth sydd ganddo i’w ddweud ac yn gwmni da iddo. Dyna pryd sylweddolais fod rhoi clust i fy mrawd a gwrando ar y pethau sydd ganddo i’w ddweud yw’r peth mwyaf pwysig y galla i'w wneud. Wrth wneud hyn roeddwn i yn rhoi cyfle iddo rannu ei deimladau i mi yn lle cadw popeth iddo fo ei hun. Ac ar fy rhan i, i wrando ar y pethau sydd ganddo fo i’w ddweud a gwneud hyn mewn ffordd lle mae o yn gyfforddus a ddim yn ofni cael ei feirniadu nag ei fychanu. Wrth wrando hefyd dwi’n gwneud yn siŵr bo fi’n pwysleisio bod hi’n hollol naturiol iddo deimlo fel mae o sydd yna’n gwneud iddo agor fyny hyd yn oed fwy.
Ers hynny dwi wedi sylwi nad oes rhaid i mi fod yn arbenigwr iechyd meddwl i fod yng nghefn i fy mrawd. Mae’r ffaith fy mod i yn ystyriol ac yn amyneddgar (sydd yn gallu bod yn hynod o anodd weithiau, mae’n rhaid dweud) yn ddigon ac mae’n bwysig i mi barhau i fod fel hyn yn enwedig gweld faint o les mae’n gwneud iddo fo i gael rhywun i siarad gyda.
Mae’n bwysig ystyried wrth edrych ar y berthynas fi a fy mrawd mae perthynas teuluol ond hefyd ein bod yn ffrindiau. Ydan, rydym ni yn siarad am iechyd meddwl fy mrawd a’i deimladau ond mae gyda ni’r cydbwysedd yna o siarad am bethau eraill fel teulu, hobïau, cyfryngau ac yn y blaen! Mae siarad am bethau fel hyn fel petai yn rhoi awyr iach i’r meddwl wrth beidio siarad am ei iselder a phethau eraill ac felly mae’n tynnu’r ffocws yna oddi ar ei iechyd meddwl.
Felly, o’r hyn rydw i wedi ei ddysgu yw mai’n bwysig gwrando ar unrhyw un boed yn ffrind neu aelod o’r teulu pan maent yn agor fyny i chi am ei iechyd meddwl, hyd yn oed os ydach chi’n teimlo fel fi- ddim wedi ei addysgu digon ar y pwnc neu yn teimlo fel nad ydach yn gallu ei helpu. Wrth fod yna iddyn nhw gael siarad â chi mae’n gwneud iddyn nhw deimlo nad ydynt ar ben ei hun sydd yn hollol bwysig. Mae bod yn ddealladwy i broblemau pobl eraill wrth yddynt agor fyny yn mynd yn bell i’r unigolyn hynny. Mae’r pethau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r unigolyn, cydnabod yr anawsterau maent yn eu hwynebu a bod yn amyneddgar a heb os, bod yn barod i wrando a chefnogi drwy'r amser.