Effaith straen ar fywyd prifysgol
Er fod mynd i'r Brifysgol yn bennod newydd cyffrous i sawl un ohonom ni, mae hefyd yn gyfnod lle gall pwysau gwaith eich gorlethu ar brydiau. Dyma flog gonest gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor am effaith straen ar ei bywyd Prifysgol a sut aeth hi ati i chwilio am gymorth.
Yn bersonol i fi, mae bywyd prifysgol jyst yn ‘all go’ o’r diwrnod cyntaf, yn enwedig yn yr ail flwyddyn lle mae pethe yn mynd bach fwy siriys a phwysau gwaith yn fwy ac yn hitio ti. Do - mi ges i rybudd bod yr ail flwyddyn yn anodd ac am fod yn un drom ond do ni ddim yn disgwyl i mi deimlo yn anhapus yn y lle roeddwn i yn mwynhau byw a bod. Roeddwn i mor anhapus wnes i hyd yn oed ystyried gollwng allan o’r brifysgol tymor cyntaf- do ni wir ddim yn y meddylfryd gorau.
Wrth edrych nôl ar fy ddwy flynedd gyntaf ym Mangor, fyse chi’n meddwl fy mod i’n ddau berson gwahanol. Yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn i wrth fy modd yn cymdeithasu, yn anaml fyswn i yn colli noson allan (heblaw os oedd arholiad y diwrnod wedyn, dyddiad cau aseiniad? Pfft doedd hwnna ddim yn atal fi rhag mynd) nes i rili joio fy mlwyddyn gyntaf! Aeth pethau bach yn wahanol yn fy ail flwyddyn. Roedd y gwahaniaeth rhwng y pwysau gwaith yn fy nghwrs i'r flwyddyn gyntaf i’r ail yn gam mawr ac roedd hyn yn syth o’r wythnos gyntaf o ddarlithoedd. Fel dywedais i yn flaenorol, man ‘all go’ am flwyddyn o fis medi tan yr haf.
Dwi’n siŵr bod llawer o ffactorau eraill wedi chwarae rhan ar hyn ond y peth mwyaf oedd y pwysau gwaith a wnaeth arwain at yr holl straen roeddwn i yn ei deimlo dros fy nghyfnod yn yr ail flwyddyn. Do’ ni ddim yn cymdeithasu gymaint i gymharu â fy mlwyddyn gyntaf ac roedd lot yn deud bo fi di mynd yn ‘boring’ sydd yn ddigon teg, mi o ni’n cytuno gyda nhw. Es i mewn i fy nghragen, doedd gennai ddim yr ysfa yna a oedd yn gwneud i fi eisiau cymdeithasu a bod rownd pobl a wnaeth arwain ataf i golli cysylltiad agos gyda llawer o bobl a oedd yn ffrindiau gorau i mi llynedd. Wrth golli’r cysylltiad yna gyda ffrindiau roedd yn anoddach i fi agor fyny a siarad am y ffordd o ni’n teimlo. O ni jyst yn neud dim gyda neb ac yn gweld o’n eithaf ‘draining’ bod rownd pobl yn aml.
Un o’r pethau dwi’n difaru peidio ei wneud y diwrnod cyntaf nôl yn y brifysgol mis Medi oedd ymchwilio am gymorth oedd ar gael i helpu gyda’r holl straen a sut o ni’n teimlo. Mi oeddwn i yn anymwybodol o’r cymorth oedd ar gael gan y brifysgol tan i fy nhiwtor esbonio i mi pan es i ei gweld yn yr ail dymor. Pan mae’n dod i hysbysebu cymorth gydag iechyd meddwl aballu, nifer bach o hynny sydd yn cael ei weld mewn prifysgolion sydd yn anghywir o ystyried pa mor gyffredin a phwysig yw iechyd meddwl yn enwedig yng nghyfnod y brifysgol. Mi fyswn i yn argymell i bawb ymchwilio i’r gwasanaethau mae’r brifysgol yn ei gynnig er mwyn bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael rhag ofn i chi deimlo ar unrhyw bwynt yn eich cyfnod yn y brifysgol eich bod angen cefnogaeth.
Mae gen i bellach fwy o wybodaeth am hyn i gyd ac yn barod pan fyddai yn mynd mewn i fy mlwyddyn olaf ym mis medi gan mod i’n ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael os fyddai yn yr un meddylfryd a oeddwn i yn fy ail flwyddyn a sut i ddelio gyda hyn. Mae’n ddigon hawdd teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun wrth fynd i’r brifysgol gan ei fod yn gyfnod newydd ac yn un annibynnol, ond mae’n bwysig i chi gofio nad ydi hyn yn wir ac mae pobl yna i chi gael siarad gyda neu fynd at i dderbyn unrhyw fath o gymorth.