Cefnogaeth iechyd meddwl os ydych yn perthyn i'r gymuned LHDTC+
Cymorth iechyd meddwl os ydych yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws neu cwiar / cwestiynu (LHDTC+)
Mae materion a gwybodaeth sy’n ymwneud a’r gymuned LHDTC+ yn eang, ac felly yn yr adran yma rydym wedi tynnu adnoddau at ei gilydd o sawl ffynhonnell gan gynnwys y GIG, Anna Freud a Stonewall gan gadw ffocws penodol ar iechyd meddwl. Rydym yn ceisio datblygu a gwella ein hadnoddau yn barhaus. Os oes unrhyw fylchau mewn gwybodaeth neu os yr hoffech rannu eich profiadau, cysylltwch â ni trwy e-bostio: myf.cymru@bangor.ac.uk.
Cyflwyniad
Gall problemau iechyd meddwl fel iselder neu hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un ohonom, ond maent yn fwy cyffredin ymhlith pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar (LHDTC+).
Gall hyn fod yn gysylltiedig â phrofiad pobl LHDTC+ o wahaniaethu, homoffobia neu drawsffobia, bwlio, ynysu cymdeithasol, neu wrthodiad oherwydd eu rhywioldeb. Mae gwefan Anna Freud yn adrodd bod ymchwil wedi dangos bod pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar (LHDTC+) dros ddwy waith a hanner yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl na’r rhai sy’n nodi eu bod yn heterorywiol. Nid yw bod yn LHDTC+ yn golygu y bydd gan berson ifanc broblem iechyd meddwl - nid oes gan y mwyafrif o bobl ifanc LHDTC+, ac mae llawer yn teimlo y gallant ymdopi â bywyd dydd i ddydd. Fodd bynnag, gall uniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTC+ arwain at heriau unigryw yn eich harddegau ac fel oedolyn gan gynnwys ofnau ynghylch dod allan, pryderon ynghylch cael eich derbyn gan ffrindiau a theulu, ac effaith rhagfarn a gwahaniaethu (https://www.annafreud.org/on-my-mind/lgbtqi-mental-health/).
Mae'n bwysig cofio y gall cydnabod eich hunaniaeth LHDTC+ hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich lles. Gallai olygu bod gennych chi:
- mwy o hyder
- gwell perthnasoedd gyda'ch ffrindiau a'ch teulu
- ymdeimlad o gymuned a pherthyn
- rhyddid hunanfynegiant a hunan-dderbyn
- mwy o wytnwch.
Sut all therapi helpu?
Efallai na fydd yn hawdd, ond cael cymorth gyda materion yr ydych yn cael trafferth delio â nhw yw un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud.
Gall siarad â therapydd sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda phobl LHDTC+ helpu gyda materion fel:
- anhawster derbyn eich cyfeiriadedd rhywiol
- ymdopi ag ymatebion pobl eraill i'ch rhywioldeb
- teimlo nad yw eich corff yn adlewyrchu eich gwir ryw (dysfforia rhyw)
- hunan-barch isel
- hunan-niweidio
- meddyliau hunanladdol
- trawsnewid
- iselder
- ymdopi â bwlio a gwahaniaethu
- dicter, ynysu neu gael eich gwrthod gan deulu, ffrindiau neu'ch cymuned
- ofn trais
Darllenwch am y mathau gwahanol o therapi siarad â sut y gallent helpu.
Pryd i gael cymorth
Peidiwch â dioddef yn dawel. Dylech gael cymorth cyn gynted ag y teimlwch fod ei angen arnoch. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth, ni waeth pa mor fawr neu fach y gallai eich problemau ymddangos. Gallech elwa o therapi siarad os ydych:
- teimlo'n flinedig neu ddiffyg egni
- teimlo'n ddagreuol
- caewch eich hun i ffwrdd oddi wrth bobl
- ddim eisiau gwneud pethau roeddech chi'n arfer eu mwynhau mwyach
- defnyddio alcohol neu gyffuriau i'ch helpu i ymdopi â'ch teimladau
- niweidio eich hun neu feddwl am hunan-niweidio
- meddwl am hunanladdiad
Lle i gael cymorth
Manylion sefydliadau sy'n darparu cymorth
Podlediad Sgwrs?
Fideo sy'n trafod rhywioldeb a iechyd meddwl