Blwyddyn gyntaf Cara yn y brifysgol
Dyma blog gan Cara sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Mae hi’n trafod ei phrofiadau a pa weithgareddau sydd allan yna i wneud ffrindiau a mwynhau dy hun.
Roedd symud i Abertawe yn brofiad gwbl wahanol imi. Gwnes i symud o fyw yn ardal wledig i symud i ardal ar lan y môr. Roedd ffeindio fy ffordd o gwmpas y ddinas yn cymryd llawer mwy o amser na hyn roeddwn yn gobeithio ond mi roedd yn antur! Roedd mynd i’r brifysgol yn rhywbeth annatod oherwydd rwyf erioed wedi bod yn angerddol am yr iaith Gymraeg a’i gadw’n fyw. Felly nid oedd ddwywaith amdani mai Cymraeg roeddwn am astudio yn y brifysgol.
Mae Abertawe wedi dod yn ail gartref i mi wrth imi greu ffrindiau oes a chael y profiad o fyw yn annibynnol. Rwy’n meddwl bod prifysgol Abertawe yn brifysgol anhygoel i astudio ynddi, yn enwedig oherwydd yr amrywiaethau o gymdeithasau sydd ar gael.
Mae fy modiwlau ar gyfer y ddau semester wedi bod yn ddiddorol iawn ac wedi caniatáu imi brofi pethau newydd, gan gynnig cyfleoedd cwbl newydd na fyddwn wedi eu cael yn unman arall. Rwy’n gyffrous iawn am y modiwlau rwyf wedi dewis eu hastudio'r flwyddyn nesaf!
Fe fues yn rhan o sawl gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan gynnwys y GymGym sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau rydw i’n gwerthfawrogi’n fawr. Mae’r holl ddigwyddiadau a theithiau fel Rhyngol wedi bod yn rhai o uchafbwyntiau fy mlwyddyn ac rydw i mor ddiolchgar bod y gymdeithas wedi bod mor groesawgar i mi o’r diwrnod cyntaf.
Mae’r adran Gymraeg yn Abertawe yn adran glos ac yn ddiweddar fe wnaeth yr adran trefnu digwyddiad o’r enw Gŵyl y Gymraeg. Rhoddodd hyn cyfle i bawb yn yr adran dod at ei gilydd ar ddiwedd y tymor er mwyn dal lan gyda’i gilydd ar ôl yr holl arholiadau ac asesiadau. Roedd y cacennau yn fendigedig!!
Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gychwyn yr ail flwyddyn! Yn ddiweddar dewisais fy modiwlau a wnaeth fy nghyffroi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Dwi’n siŵr mi fydd yr ail flwyddyn yn flwyddyn newydd a chyffroes wrth inni groesawi mwy o fyfyrwyr i astudio Cymraeg â ni ym Mhrifysgol Abertawe.