Beth yw rôl therapi?
Mae seicotherapi yn defnyddio niferoedd o strategaethau gwahanol i helpu unigolion i addasu a delio gyda’i meddyliau, gweithredoedd ac emosiynau sydd yn gwneud niwed i’w salwch meddwl. Therapi yw'r ffordd gorau i ddod dros hyn wrth gyfathrebu gyda therapydd. Mae 28% o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi mynd at seicotherapi am gyngor.
Pwrpas seicotherapi yw dangos cefnogaeth trwy gyfnodau caled, egluro'r meddyliau mai’r unigolyn yn ei gael er mwyn dod i ddelio gyda nhw ac i roi anogaeth i’r unigolyn. Wrth wneud hyn i gyd, mae therapi yn arwain at wellhad dealltwriaeth yr unigolyn ohonyn nhw ei hunan fel person. Mae hyn yn arwain at newid mewn agwedd yr unigolyn wrth osod goliau personol a gwella ymddygiad.
Yn ogystal â hyn, mae seicotherapi yn gallu dadorchuddio gorffennol yr unigolyn ac esbonio sut bod y profiadau negyddol a gafon nhw yn y gorffennol wedi cael effaith arnynt mewn ffordd negyddol ac yn esboniad o pam maent yn dioddef nawr. Wrth wneud hyn hefyd, mae’n gallu newid ymddygiad yr unigolyn a gwneud iddynt sylwi pethau cyn ymateb. Mae therapi yn gallu helpu i gyfleu mwy o foddhad mewn i fywydau unigolion wrth i therapi gynyddu hyder ac anwybyddu unrhyw feddylfryd negyddol neu feirniadol.
Mae yna sawl gwahanol fathau o therapi ond mae’r prif fathau ohonynt wedi cael ei chategoreiddio wrth i’r dulliau cyflwyno amrywio i bob un wrth gynnig sesiynau unigol, therapi mewn grŵp, canllawiau sydd ar gael ar-lein neu dasgau i’w gwblhau.
Mae cyfrifoldeb mawr gan y therapydd wrth iddynt orfod sefydlu ffiniau'r sesiwn therapi. I wneud hyn mae’n bwysig iddynt ddarparu'r claf gydag amgylchedd cyfforddus, ac i wneud yn siŵr ei bod yn teimlo ei bod mewn sefyllfa ofalgar. Mae’n bwysig gyda hyn hefyd bod y claf yn gwybod bod y therapydd i’w drystio ac nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei ail-adrodd ymhellach. Mae’r berthynas rhwng y claf a’r therapydd yn hynod o bwysig hefyd. Wrth i’r berthynas rhwng y claf a’r therapydd dyfu yn ystod sesiynau, mae dealltwriaeth y therapydd tuag at anghenion y claf yn tyfu ac yn arwain at driniaeth lwyddiannus. Yn olaf, mae’n bwysig i’r therapydd fod yn ddilys, yn ddiamheuol a ddim yn feirniadol o gwbl. Mae ymateb y claf yn dibynnu ar weithredoedd y therapydd. Mae’n bwysig i’r claf agor fyny yn ystod sesiynau therapi ond hefyd yn gyfathrach tu allan i sesiynau therapi yn ogystal.
Mae therapydd da yn cael effaith mawr ar fywydau cleifion. Maent yn dysgu sgiliau gwybyddol ag emosiynol newydd i gleifion sydd yn ei helpu am weddill ei hoes. Maent yn helpu cleifion i ddod dros ddigwyddiadau sydd wedi ei heffeithio ac yn eu harwain at berthnasau gwell ac yn trawsnewid eu bywydau i’r gorau.