Mae myf.cymru wedi sefydlu Rhwydwaith o Therapyddion ac Ymarferwyr Cymraeg, gyda'r nod o gefnogi a darparu hyfforddiant i ymarferwyr iechyd meddwl sy'n siarad Cymraeg o fewn sefydliadau addysg bellach ac uwch ledled Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cyfarfod yn fisol ac maent yn cael cyfle i:
Dyma enghreifftiau o'r math o bynciau sydd wedi cael eu trafod yn ystod y sesiynau hyfforddiant: anhwylderau bwyta, cefnogi myfyrwyr efo anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD) a llawer mwy. Mae pob sesiwn trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael ei hwyluso gan ymarferydd hyfforddedig addas sydd ag arbenigedd yn y maes / pwnc. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, neu fod yn rhan o’r rhwydwaith, cysylltwch ag Endaf Evans, Gwasanaethau Lles, Prifysgol Bangor - endaf.evans@bangor.ac.uk