Os ydych angen cymorth ar frys
Os ydych yn meddwl am hunanladdiad ac yn teimlo yn anniogel neu wedi niweidio eich hun yn ddifrifol:
- Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
- Ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2 - ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a chroesewir galwadau yn Gymraeg.
- Os ydych y tu allan i'r DU, ffoniwch 112 ar gyfer Gwasanaethau Brys.
Os na allwch wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu.
Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych yn gwastraffu amser neb.