Anhwylder Pryder Cymdeithasol
Mae delio gydag anhwylder pryder cymdeithasol wrth fod yn y brifysgol yn cael effaith mawr ar fywyd bob dydd unigolyn. Anhwylder pryder cymdeithasol yw pan mae unigolyn yn teimlo ofnau o feirniadaeth eraill wrth wneud rhywbeth mewn sefyllfa gyhoeddus neu wneud rhywbeth sydd yn codi embaras mewn sefyllfa gymdeithasol. Wrth siarad o bersbectif unigolyn mewn prifysgol, mae llawer o bobl sydd yn dioddef o anhwylder pryder cymdeithasol methu mynd i ddarlithoedd ac yn aml yn ei cholli sydd yna yn cael effaith ar ei pherfformiadau yn eu cwrs. Mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn digwydd yn y brifysgol wrth orfod mynychu seminarau a darlithoedd gyda niferoedd o ddieithriaid eraill neu orfod gwneud cyflwyniad llafar fel rhan o asesiad modiwl sydd yn sbarduno'r teimlad o anhwylder pryder cymdeithasol.
Mae unigolion sydd yn dioddef o anhwylder pryder cymdeithasol yn dueddol o boeni am eraill yn ei beirniadu mewn ffordd negyddol. Maent yn meddwl gormod am sefyllfaoedd sydd wedi digwydd yn y gorffennol a sut yr oeddent wedi ymateb yn y sefyllfaoedd yna. Mae anhwylder pryder cymdeithasol yn achosi i’r unigolyn gorfeddwl ag ymarfer sefyllfaoedd cyn iddynt ddigwydd sydd yna yn gwneud pethau yn waeth wrth arwain at ymddygiad gwahanol a rhyfedd. Oherwydd hyn mae’r unigolyn yna yn casglu tystiolaeth sydd yn cefnogi eu hofnau, sydd yna’n gwneud y sefyllfa yn waeth a chryfhau eu credoau negyddol sydd ddim yn wir. Mae hyn o ganlyniad bod sefyllfaoedd anodd yn aml yn codi o ganlyniad pryder yr unigolyn neu y gorfeddwl maent yn eu gwneud cyn dod at y sefyllfa.
Gall anhwylder pryder cymdeithasol gwneud niwed mawr i unigolion sydd yn dioddef o’r anhwylder. Mae’r anhwylder yma yn aml yn arwain i’r unigolyn ynysu eu hun o eraill ac yn arwain at iselder hefyd. Mae’n cael effaith mawr at berthnasau cymdeithasol a chael effaith negatif ar berfformiad unigolion mewn gwaith, ysgol a phrifysgolion.
Mae yna sawl driniaeth i unigolion sydd yn dioddef o anhwylder pryder cymdeithasol. Yn gyntaf mae therapi ymddygiad gwybyddol sydd yn gwneud i’r unigolyn gydnabod a newid ei hymddygiadau negyddol a'u meddylfryd negyddol. Yn ail mae opsiwn o gael therapi mewn grŵp. Mae hyn yn annog ac yn rhoi cyfle i unigolion rannu ei phrofiadau a phroblemau mewn ffordd sydd hefyd yn gwneud iddynt ymarfer ymddygiad cymdeithasol. Triniaeth arall ar gyfer anhwylder pryder cymdeithasol yw hunangymorth sef datganiadau, ymarfer cyn digwyddiadau cymdeithasol a defnyddio fideo adborth i wrthbrofi rhagdybiaethau negyddol.
Os ydych chi yn dioddef o anhwylder pryder cymdeithasol, mae’n bwysig atgoffa eich hun bod yr anhwylder yma yn un tymor hir ac mae’n bwysig i gymryd un cam ar y tro. Mae dod dros anhwylder fel hyn sydd yn gysylltiedig â sefyllfaoedd dydd i ddydd yn anodd ond gydag amser ac ymarfer fe ddaw bethau yn rhwyddach.