Sut i siarad â’ch meddyg teulu am eich iechyd meddwl

 

mental health foundation
Darperir y wybodaeth isod gan yr Mental Health Foundation 
 

Meddyg teulu

Gall siarad gyda’ch meddyg teulu am eich iechyd meddwl eich hun fod yn anodd, ac felly rydym wedi cynhyrchu canllawiau ymarferol sy’n cynnwys manylion am beth i ddisgwyl o’ch apwyntiad a beth all eich meddyg teulu ei wneud.

Drwy ddefnyddio’r awgrymiadau a’r cyngor yn y canllawiau hyn, byddwch chi’n gallu siarad yn fwy hyderus gyda’ch meddyg teulu am eich iechyd meddwl.

 

A ydych chi angen gweld meddyg teulu?

Os ydych chi wedi sylwi ar newidiadau yn y ffordd yr ydych chi’n meddwl neu’n teimlo yn ystod yr ychydig wythnosau neu’r misoedd diwethaf a bod y newidiadau yn achosi gofid i chi, dylech chi ystyried mynd i weld eich meddyg teulu.

Mae rhai o’r symptomau a brofwyd fwyaf aml o lesiant meddwl gwael yn cynnwys:

- diffyg awydd bwyd

- teimlo’n isel neu’n gyson bryderus neu boenus 

- meddwl yn negyddol amdanoch eich hun

- tymer flin neu hwyliau drwg  

- gweld hi’n fwy anodd nag arfer i ganolbwyntio

- ddim yn mwynhau eich bywyd cymaint ag yr oeddech chi ar un adeg

- gweld bywyd o ddydd i ddydd yn anodd (er enghraifft, ddim yn teimlo fel ymolchi neu fwyta)

- cael trafferth cysgu, neu gysgu gormod

- gweld neu glywed pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld na’u clywed

Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl, mae’n bosibl na fyddwch chi wedi sylwi ar yr arwyddion, gan fod symptomau yn gallu datblygu dros amser.  Bydd un mewn chwech o bobl yn cael profiad o broblemau iechyd meddwl bob wythnos.

Symptomau o rai o broblemau iechyd meddwl cyffredin: 

- Straen

- Pryder

- Iselder

- OCD

- Deubegynol

 

Os ydych chi’n adnabod symptomau o unrhyw broblem iechyd meddwl gyffredin a’ch bod yn pryderu, neu os ydych chi’n teimlo nad yw rhywbeth yn iawn, ond na allwch chi ddweud yn iawn pam, rydym yn argymell eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu.

 

Gall fod yn hynod o anodd i siarad gyda rhywun nad ydych chi’n adnabod yn dda am eich iechyd meddwl, ond mae rhan fwyaf o bobl yn gweld bod siarad gyda’u meddyg teulu a’r help a’r cymorth y mae’n dderbyn ganddo, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’w bywydau.

 

‘Mae fy meddyg teulu wedi bod yn gwbl ryfeddol.  Mae wedi bod yn benderfynol i ddod o hyd i help imi o bobman posibl.  Ni fyddwn yma heddiw oni bai amdano fo.’ – Jackie

 

Os ydych chi’n siarad â’ch meddyg teulu am eich pryderon iechyd meddwl, gallan nhw:

- ofyn cwestiynau am eich teimladau a’ch meddyliau a all eich helpu chi i ddeall yn well beth sy’n digwydd i chi a pha gymorth sydd ar gael.

- cynnig meddyginiaeth i chi, ac os yw’n briodol a/neu therapïau siarad rhad ac am ddim

- cymeradwyo newidiadau syml yn eich ffordd o fyw a all wella eich iechyd meddwl

- eich gwahodd yn ôl am apwyntiad arall mewn ychydig wythnosau er mwyn gweld sut ydych chi’n ymdopi.  Gallan nhw eich atgyfeirio at arbenigwr os ydyn nhw’n meddwl y byddai hynny yn fwy defnyddiol

 

Samariaid

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus iawn am eich iechyd meddwl neu’ch bod yn ystyried lladd eich hun, dylech chi siarad gyda rhywun.  Gellwch chi gysylltu â meddygfa eich meddyg teulu a threfnu i siarad gyda rhywun yn syth, neu fel arall, mae’r Samariaid yn cynnig cymorth emosiynol, cwbl gyfrinachol 24 awr y dydd:

- Ffoniwch 116 123 yn rhad ac am ddim

- Anfonwch e-bost at jo@samaritans.org.uk

 

Dod o hyd i’r meddyg teulu gorau ar eich cyfer chi

Gallwch chi newid eich meddyg teulu pryd bynnag yr ydych chi eisiau.  Efallai y byddwch yn dymuno ystyried newid meddyg teulu oherwydd y rhesymau canlynol:

- Gall fod yn fwy cyfleus i ddod o hyd i feddygfa sy’n cynnig gwasanaethau cwnsela arbenigol neu wasanaethau iechyd meddwl.  Gallwch chi ffonio’r feddygfa i ofyn beth a gynigir ganddyn nhw neu dderbyn gwybodaeth am wasanaethau yn wefan NHS Choices.

- Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael perthynas wael gyda’ch meddygfa neu nad ydych chi’i dod ymlaen yn dda gyda’ch meddyg teulu, efallai eich bod yn dymuno chwilio am feddygfeydd eraill yn eich ardal sy’n cynnig gwasanaeth gwell neu fwy cyfeillgar.    Mae gwefan NHS Choices yn Lloegr yn rhestru adolygiadau cwsmeriaid ac yn darparu sgôr arolwg cleifion ar gyfer pob meddygfa.  Rhoddir ‘Gwobr Meddygfa o Ansawdd’ yn unig i’r meddygfeydd gorau un yn Lloegr, tra bod yn rhaid i bob meddygfa feddu ar ‘Achrediad Meddygfa’.

Gallwch chi ofyn i’r derbynnydd a oes yna feddyg teulu gyda diddordeb arbenigol mewn iechyd meddwl a gofyn am gael ei weld.  Mae’n bosibl cael gweld meddyg teulu gwrywaidd neu fenywaidd.   Nid oes angen i chi ddweud wrth y derbynnydd pam yr ydych chi’n gwneud yr apwyntiad.  Gallwch chi ddweud bod yn well gennych chi beidio â dweud.

Mae pa mor hir y bydd angen i chi ddisgwyl i gael apwyntiad i weld meddyg teulu yn amrywio a bydd yn dibynnu ar ba mor brysur yw’r feddygfa.  Os ydych chi angen cael eich gweld ar frys, yna efallai y gallwch chi drefnu apwyntiad brys drwy dderbynfa’r feddygfa.  Os byddai’n well gennych chi weld rhywun penodol, yna efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes bydd apwyntiad gyda’r unigolyn hwnnw ar gael.

 

Paratoi ar gyfer eich apwyntiad

Cyn yr apwyntiad, gall fod yn ddefnyddiol i ysgrifennu beth yr hoffech chi siarad amdano er mwyn sicrhau nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth.  Treuliwch ychydig o amser cyn yr apwyntiad i ysgrifennu rhestr o bethau yr ydych chi’n dymuno eu trafod.

Ysgrifennwch unrhyw symptomau am sut yr ydych chi’n teimlo  a sut y gall eich hwyliau fod yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Ysgrifennwch wybodaeth bersonol allweddol, gan gynnwys digwyddiadau a oedd yn peri dychryn yn eich gorffennol ac unrhyw ddigwyddiadau dirdynnol mawr yn y presennol.

Lluniwch restr o’ch gwybodaeth feddygol, gan gynnwys cyflyrau corfforol neu iechyd meddwl eraill ac enwau a dognau’r feddyginiaeth, remedïau llysieuol neu ychwanegiadau yr ydych chi’n eu cymryd.

Mae croeso i chi fynd ag aelod o’ch teulu neu ffrind i’ch apwyntiad ar gyfer cefnogaeth a bydd hyn yn eich helpu chi i deimlo’n fwy ymlaciol.

Ysgrifennwch restr o gwestiynau i’w gofyn.  Gall y rhain gynnwys:

- pa fath o broblem iechyd meddwl a all fod gennyf?

- pa na allaf oresgyn fy mhroblem iechyd meddwl fy hun?

- sut ydych chi’n trin y math o salwch meddwl sydd gen i?

- a fydd cwnsela neu seicotherapi yn helpu?

- a oes yna feddyginiaethau a all helpu?

- pa mor hir fydd y driniaeth yn para?

- beth allaf i wneud er mwyn helpu fy hun?

- a oes gennych chi unrhyw daflenni neu ddeunydd argraffedig arall y gallaf eu darllen?

- pa wefannau ydych chi’n eu hargymell?

Yn ychwanegol at y cwestiynau yr ydych chi wedi’u paratoi, mae croeso i chi ofyn cwestiynau i’ch meddyg teulu os nad ydych chi’n deall unrhyw beth.

Nid ydych chi ar eich pen eich hun

Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.  Mae 30% o apwyntiadau meddyg teulu yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a phroblemau llesiant a bydd un mewn chwech o bobl yn cael profiad o broblem iechyd meddwl bob wythnos.  Gall ymdrin â phroblemau yn gynharach helpu i atal y rhain rhag gwaethygu yn ddiweddarach.

Yn ystod eich apwyntiad

Mae apwyntiad cyffredin gyda meddyg teulu yn para oddeutu 10 munud, ac mae llawer o feddygon teulu a chleifion yn teimlo nad yw hyn yn ddigon o amser i gyfathrebu popeth y maen nhw ei angen.  Gallwch chi fwcio ‘apwyntiad dwbl’ os ydych chi’n teimlo eich bod chi angen mwy o amser i drafod beth sydd ar eich meddwl. 

Yn ystod eich apwyntiad, mae’n bwysig bod mor agored a gonest ag sy’n bosibl gyda’r meddyg teulu.  Byddan nhw’n gofyn cwestiynau i chi er mwyn cael darlun llawn o’ch iechyd, ac felly cofiwch rannu’r holl fanylion ynglŷn â sut yr ydych chi’n teimlo neu sut mae’r symptomau yn effeithio arnoch chi.  Defnyddiwch y nodiadau yr ydych chi wedi’u paratoi fel canllawiau os yw hyn yn ddefnyddiol.

Gall bod yn onest am eich teimladau fod yn heriol, yn arbennig felly wrth rywun nad ydych chi’n ei adnabod. Fodd bynnag, mae meddygon wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â materion sensitif mewn ffordd broffesiynol a chefnogol, ac felly nid oes angen i chi fod â chywilydd.  Mae popeth yr ydych chi’n ddweud wrthym yn gyfreithiol gyfrinachol, os nad ydych chi’n poeni eich bod yn gallu bod yn beryglus i chi eich hun neu i bobl eraill.

 

Awgrym

Yn ystod y sgwrs, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a chyfeirio ar y nodiadau yr ydych chi wedi’u paratoi ymlaen llaw. Mae hi bob amser werth gofyn pam mae triniaeth benodol yn cael ei chynnig, ac a oes pethau eraill a allai eich helpu chi a beth ydych chi’n meddwl a fydd yn eich helpu chi.

Gall y meddyg teulu wneud diagnosis a gall awgrymu rhai dewisiadau o ran triniaeth i chi, fel rhagnodi meddyginiaeth, atgyfeirio at wasanaeth therapi siarad, atgyfeirio at dîm iechyd meddwl arbenigol neu ddarparu cyngor ynglŷn â chynnal eich llesiant cyffredinol.

Os rhoddir unrhyw feddyginiaeth i chi, dylai eich meddyg teulu ddweud wrthych chi sut y disgwylir iddi helpu a rhoi gwybod i chi am unrhyw sgil-effeithiau a all ddigwydd.  Gallwch fod angen gofyn i’r meddyg teulu ailadrodd beth a ddywedodd wrthych chi, neu am ragor o wybodaeth a chymorth gyda sut yr ydych chi’n teimlo neu ysgrifennu unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall.  Os yw’r meddyg teulu yn awgrymu meddyginiaeth yn unig, mae croeso i chi ofyn pa ddewisiadau triniaeth eraill a all fod ar gael, fel therapïau siarad, ymarfer corff neu ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.

Bydd nodyn o’r hyn a drafodwyd yn yr apwyntiad yn cael ei wneud a’i gofnodi ar eich ffeil feddygol.  Bydd hwn yn cael ei gadw’n gyfrinachol, ond gallwch chi hefyd ddymuno cofnodi beth a ddywedwyd ar ôl yr apwyntiad.  Gallwch chi wybod pa gamau yr hoffech chi eu cymryd nesaf ar ôl trafod gyda’ch meddyg teulu neu gallwch chi fod angen rhywfaint o amser i feddwl drosto.  Gallwch chi roi gwybod i’ch meddyg teulu beth yr ydych chi’n cynllunio i’w wneud yn ddiweddarach.

 

Camau nesaf

Gallwch chi drefnu apwyntiad dilynol gyda’ch meddyg teulu er mwyn trafod sut mae pethau wedi datblygu neu er mwyn adolygu eich triniaeth.

Os yw’r meddyg teulu wedi rhagnodi meddyginiaeth, dylai hyn gael ei ddilyn gyda gwiriadau rheolaidd er mwyn gweld a yw’n helpu.  Os oes yna unrhyw broblemau gyda’r driniaeth, neu os ydych chi’n teimlo’n waeth, yna dylech chi weld eich meddyg teulu eto i’w drafod.  Gallwch chi fod angen cael eich atgyfeirio at arbenigwr o dan y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd er mwyn chwilio am help pellach neu help mwy profiadol.

Os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl, dylai eich meddyg teulu barhau i edrych ar ôl eich anghenion gofal cyffredinol, gan gynnwys iechyd corfforol.  Dylen nhw gysylltu â gweithio’n agos ochr yn ochr â’r gwasanaethau iechyd meddwl.

Os oeddech chi o dan y dull rhaglen ofal (DRhO) ac wedi cael eich rhyddhau, yna bydd eich meddyg teulu yn parhau i ddarparu am eich gofal a bod yn gyfrifol am oruchwylio eich anghenion iechyd.

Os oes gennych chi salwch meddwl difrifol, fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, dylech chi gael gwiriad iechyd corfforol blynyddol gan eich meddyg teulu.  Mae pobl gyda diagnosis o broblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaol mewn mwy o risg o amrediad o salwch a chyflyrau corfforol.  Gall gwiriad iechyd gynnwys cymryd eich pwysau gwaed, cymryd eich pwls, cynnal prawf dŵr neu waed neu wirio eich pwysau.

 

Derbyn ail farn

Os ydych chi’n anhapus neu os ydych chi’n dymuno cadarnhau bod y cyngor neu’r cymorth a roddwyd i chi yn gywir, gallwch chi ofyn am ail farn gan feddyg teulu arall neu arbenigwr.  Eich hawl chi yw gweld meddyg teulu, sydd yn eich barn chi yn gymwys i ymdrin â’ch achos.  Gallwch chi hefyd wneud apwyntiad gyda meddyg teulu arall yn y feddygfa, neu newid meddygfa yn gyfan gwbl os yw eich meddyg teulu yn gwrthod trefnu ail farn ar eich cyfer.

Ambell waith mae gweld meddyg gwahanol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

“Pan euthum yn sâl am y tro cyntaf, euthum i weld y meddyg teulu yr oeddwn i wedi cofrestru gydag ef, ac roedd o’n da i ddim ac yn anghydymdeimladol.  Cefais gyngor gan ffrind i weld meddyg teulu arall yn fy meddygfa.  Wel, am wahaniaeth.  O’r dechrau’n deg, gwrandawodd, dangosodd empathi a rhoddodd amser a chymorth i mi yr oeddwn eu hangen pan oeddwn yn ofnus ac yn ddryslyd ac fe’m cyfeiriwyd at y gwasanaeth iechyd meddwl cywir.’ - Edith

 

Cwynion

Os ydych chi’n anghytuno â’r ffordd y mae eich meddyg teulu yn dymuno trin eich problem iechyd, neu os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan eich meddygfa, efallai y byddwch chi’n dymuno gwneud cwyn.

Gallwch chi wneud cwyn yn uniongyrchol i’r meddyg teulu neu i reolwyr y feddygfa, neu wneud cwyn ysgrifenedig drwy weithdrefn gwynion y feddygfa a ddylai fod ar gael yn hawdd ar wefan y feddygfa neu yn y dderbynfa.  Os yw’r broblem yn parhau heb ei datrys, gallwch chi gwyno wrth Fwrdd Comisiynu’r GIG (Lloegr, anfonwch e-bost at contactus@nhs.net neu ffoniwch 0300 311 22 33).

O dan Gyfansoddiad y GIG, mae gennych chi hawl i gael cydnabod eich cwyn ysgrifenedig ffurfiol o fewn tri diwrnod gwaith a chael ymchwiliad priodol i’r gŵyn.  Hefyd, gallwch chi fynd â’ch cwyn at Ombwdsmon Annibynnol Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd y trafodwyd eich cwyn gan y GIG.