Mae pobl yn hunan-niweidio am bob math o resymau, ond yn aml mae oherwydd bod teimladau fel dicter, tristwch ac ofn wedi mynd yn rhy boenus i ymdopi â nhw.
Weithiau mae pobl yn hunan-niweidio oherwydd pwysau a straen o bethau fel perthnasoedd, problemau teuluol, ysgol, pryderon rhywiol neu fel ffordd o ddelio â sefyllfaoedd erchyll fel cam-drin neu farwolaeth rhywun agos.
Mae’r rhesymau pam mae pobl yn hunan-niweidio yn amrywio o berson i berson ac ni fydd yr un peth i bawb. Gallai rhai o’r rhesymau gynnwys:
Nid oes un rheswm yn fwy dilys na'r llall. Mae pawb sy'n hunan-niweidio yn mynd trwy frwydr eu hunain.