Rhestr lyfrau sydd yn ymdrin â iechyd meddwl

Myf girl reading

Weithiau gall deall cyflyrau iechyd meddwl fod yn anodd, felly dyma restr o lyfrau Cymraeg (ffaith a ffuglen) mae myfyrwyr wedi argymell, sydd yn ymdrin â chyflyrau Iechyd Meddwl. Ewch ati i ddarllen! 

 

Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol, Mawrth 2019)

Nofel ddirdynnol am ferch yn ei harddegau sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia a’i brwydr hi â’r anhwylderau hynny. 

 

Maen nhw’n siarad amdana i – Meic Hughes (Gwasg y Bwthyn, Gorffennaf 2009)

Nofel lle mae’r prif gymeriad yn dioddef o sgitsoffernia. Drwy’r nofel, cawn fewnwelediad o’r cyflwr o safbwyntiau gwahanol gan gynnwys y prif gymeriad ei hun, ei deulu a’i gyd-weithwyr.

 

Wrth fy nagrau i – Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, Hydref 2007)

 Nofel raenus sydd yn ymdrin â iselder ar ôl geni plentyn. Mae’r nofel wedi’i lleoli mewn ward seiciatryddol yn yr Ysbyty ac sydd yn mentro i fyd y rhai sydd wedi cael eu gwrthod gan gymdeithas.

 

Rhyddhau’r Cranc – Malan Wilkinson (Y Lolfa, Mehefin 2018)

 Nofel o atgofion personol Malan Wilkinson o fyw gyda phroblemau salwch meddwl a arweiniodd iddi geisio hunanladdiad ond cafodd ei hachub gan ddieithryn a welodd hi ar fin neidio.

 

Byw yn fy Nghroen – gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa, Mehefin 2019)

Cyfrol sydd yn son am brofiadau 12 o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae’r cyfrannwyr yn trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder.

 

Gwirionedd – Elinor Wyn Reynolds (Gwasg y Bwthyn, Hydref 2019)

 Nofel sydd yn ymdrin â cholled wrth ddilyn y prif gymeriad drwy ei galar yn dilyn marwolaeth ei thad.

 

Am I Normal Yet - Holly Bourne (2015)

Mae’r llyfr yn ffocysu ar iechyd meddwl y prif gymeriad, mae hefyd yn trafod OCD a gorbryder. 

 
Beautiful Broken Things - Sara Barnard (2016)

Mae’r llyfr yma’n trafod anhwylder deubegwn, a’r canlyniad o gam-drin corfforol ac emosiynol yn y teulu.   


I Was Born For This - Alice Oseman (2018)

Un o fy hoff lyfrau, mae o'n hwyl ond hefyd yn trafod materion difrifol mewn ffordd wahanol - mae Jimmy yn rhan o fand poblogaidd ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl. 

 
Radio Silence - Alice Oseman (2016)

Mae’r llyfr yma’n ymdrin â gorbryder. 

 
How To Make Friends With The Dark - Kathleen Glasgow (2019)

Llyfr am alar ac arwahanrwydd wrth i Tiger ddysgu sut i ymdopi ar ôl marwolaeth ei mam 

 
Tu ôl i'r Awyr - Megan Angharad Hunter (2020) 

Llyfr yn y Gymraeg sydd wedi cael ei sgwennu ar gyfer pobl ifanc gan berson sy'n deall beth mae pobl ifanc yn teimlo. Mae’n ymdin â materion megis gorbryder ac iselder.  

 

The Chimp Paradox - Dr Steve Peters (2012)

Llyfr i helpu pobl stopio beirniadu ac i feddwl am eraill 

 

Emotional Intelligence, why it matters more than IQ - Daniel Goleman (1995)

Mae’r llyfr yma’n gallu helpu pobl sydd eisiau darllen pobl ac emosiynau yn well ar gyfer helpu eraill.

 

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am lyfrau eraill sydd yn ymdrin ag iechyd meddwl a lles, cysylltwch â ni gyda theitl y llyfr, enw’r awdur gyda brawddeg yn egluro pam rydych yn ei hoffi.