Be ‘di normal?

Pum flynedd yn ôl, ro’ni yn meddwl nad oeddwn yn teimlo yn ‘normal’ Ond ar yr adeg wrth edrych o’n cwmpas a gweld fy ffrindiau wastad yn hapus ac yn joio tra ro’ni mewn lle andros o tywyll, dyna pam yr oeddwn yn cymharu fy mywyd gyda’u bywydau nhw gan feddwl nad oeddwn yn normal.  

Dwi’n deall fwy ar fywyd erbyn heddiw - yn enwedig wrth ddiodda’ gyda fy iechyd meddwl a helpu fy hun ymdopi, mae gen i feddwl agored iawn tuag at bywyd - felly, dwi’n gweld bod bopeth yn digwydd yn wahanol i bawb, ac yn cael effaith gwahanol ar bawb. Felly dosnam ffordd normal i fyw bywyd, nes i orffen ysgol a ro’ni yn pendroni dros fynd i’r brifysgol a’i pheidio gyda phawb eraill yn mynd ac yna penderfyny gwneud prentisiaeth efo’r Urdd, cyn wedyn dewis dod i’r Brifysgol. Does dim rhaid dilyn y ‘crowd’ a byw bywyd mewn ‘trefn’, ewch gyda beth sy’n eich gwneud yn hapus, mana wahanol ffyrdd i fyw bywyd. A ma’ hynny yr union ru’n peth efo’ch iechyd meddwl , ma pawb yn diodda’ neu’n ymdopi yn wahanol, a mae hynny yn oce. 

Mae bywyd yn gallu bod yn ofnadwy o brysur weithiau a phan mae gan rhywun gant a mil o bethau i wneud, gall ein meddyliau ni fynd yn hollol wirion bost. Wastad pan fy mod i’n brysur, ma’n mhen i’n troi gyda’r holl bethau i gyd, a ma’ hynny yn hollol hollol normal!! Mae stryglo yn hollol normal ar adegau, nid yw neb yn gallu mynd drwy bywyd heb dderbyn cymorth bob hyn a hyn. A normal iawn iawn ydy hynny! Mae bod yn annibynnol yn wych ond mae cael barn rhywun arall ar bethau yn help mawr.

O fewn bywyd mae gan bawb eu rŵtîn, a phan mae rhywbeth yn mynd o’i le neu’n wahanol i’r rŵtîn dyna pryd mae pethau yn dechrau chwalu. Rydym fel pobl yn disgwyl i’n hunain weithio fel robots a bod yn iawn drwy’r adag, felly os yr ydym yn teimlo yn wahanol i’r arfer, rydym yn meddwl ei fod hi’n ddiwedd byd.  

Credaf bod dal stigma enfawr o fewn ysgolion, prifysgolion a’r gweithle am iechyd meddwl. Mi fydda mwy o addysg i blant a phobl ifanc am iechyd meddwl a sut i ymdopi a gofalu am eu hunain, yn helpu gwella eu dealltwriaeth, ac efallai wedyn y byddent yn dygymod yn well a problemau iechyd meddwl.  O siarad o brofiad mi fydda’ fo yn sicr wedi fy helpu i.  Dylsa diwrnodau iechyd meddwl fodoli o fewn cwmnïau er mwyn helpu unigolion cael amser i ymlacio ac ail chargio eu batris (fel manwn ddeud), sa hynny yn helpu llawer iawn o bobl. Bydd hyn yn helpu normaleiddio iechyd meddwl o fewn gweithle.  

Fy ngobaith yw bod y sgwrs am iechyd meddwl yn dod yn hollol ‘normal’ gan bobl, yn enwedig o fewn ysgolion a phrifysgolion! Mae hi wir yn bwysig siarad am eich iechyd meddwl, ac yn bwysicach oll, yn ystod adegau heriol fel adeg arholiadau. Mae sgwrs fer yn gwneud gwahaniaeth. A dyna sydd angen, i bobl ddeall effaith iechyd meddwl a gwneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun sydd yn dioddef er mwyn gwneud iddynt deimlo yn ‘normal’. Ro’ni yn lwcus gan fy mod gen i bobl i droi at am sgwrs, ond nid yw pawb yn lwcus fel fi.