Meddyginiaethau iechyd meddwl: mythau a ffeithiau

 

blurt
Darperir y wybodaeth isod gan Blurt 
 

 

Mae meddyginiaethau iechyd meddwl yn sicr yn destun emosiynol gyda thybiaethau gwrthgyferbyniol yn dod o bob cyfeiriad.  Mae rhai tybiaethau yn seiliedig ar brofiad personol, a rhai ar ymchwil.  Fodd bynnag, mae rhai hefyd yn seiliedig ar fythau a gwybodaeth ffug.  Nid yn unig y gall fod yn anodd gwahanu’r mythau oddi wrth ffeithiau, ond gall gwybodaeth ffug gyfrannu yn uniongyrchol at stigma.

 

Ychdig o wybodaeth am feddyginiaeth iechyd meddwl 

Bydd y math a’r dogn o feddyginiaeth sydd wedi’i rhagnodi ar gyfer ein hiechyd meddwl yn dibynnu ar ein diagnosis, ein symptomau, ein hanes, unrhyw feddyginiaethau eraill yr ydym yn eu cymryd yn rheolaidd, cyflyrau iechyd eraill sydd gennym, ein dymuniadau personol (cyn belled â’n bod yn ddigon iach i wneud penderfyniadau drosom ein hunain) ac unrhyw amgylchiadau bywyd eraill sy’n digwydd.

Yn gyffredinol, maen nhw’n syrthio i bedwar categori; gwrth-iselyddion, gwrthseicotigau, tabledi cysgu a thawelyddion, a sefydlogyddion hwyliau.

Mae meddyginiaethau gwahanol o fewn pob categori.  Wrth ddysgu am feddyginiaethau, mae’n bwysig cofio y bydd pob un ohonom yn adweithio yn wahanol i’r feddyginiaeth – nid yn unig y gall adweithio amrywio rhwng meddyginiaethau, ond ambell waith gallan nhw amrywio rhwng brandiau.

Os oes gennym ni ar unrhyw bryd gwestiynau neu bryderon am y feddyginiaeth yr ydym yn ei chymryd, mae’n bwysig siarad â gweithiwr proffesiynol amdanyn nhw.  Ambell waith, gall gymryd rhywfaint o amser yn profi a methu i gyrraedd y pwynt pan mae ein meddyginiaeth yn llwyddo.

 

MYTH: Mae cymryd meddyginiaeth yn gyflym ac yn hawdd 

Camsyniad cyffredin am feddyginiaeth iechyd meddwl yw os ydym yn ei chymryd, rydym ni’n teimlo’n ‘well’.  Yn aml, mae hyn yn tarddu o brofiad y mae llawer ohonom yn y gorffennol wedi’i gael gyda phethau fel gwrthfiotigau pan mae gennym ni salwch bacterol, ac rydym yn cymryd cwrs o wrthfiotigau, ac rydym yn teimlo’n well mewn 7 i 10 diwrnod.

Yn anffodus, nid yw meddyginiaethau iechyd meddwl fel arfer yn iachâd.  Yn aml, maen nhw’n helpu i leihau rhai o’n symptomau, ond gall fod angen inni gael rhyw gymaint o therapi yn ychwanegol at y feddyginiaeth yr ydym yn ei chymryd.

Gall meddyginiaeth helpu i leihau ein symptomau ddigon inni allu ymgymryd ag unrhyw therapi yr ydym ni’n ei dderbyn mewn ffordd ystyrlon.

 

MYTH: Unwaith yr ydych chi'n dechrau cymryd meddyginiaeth, mae'n rhaid i chi fod arno trwy'ch bywyd 

Mae hyn yn amrywio.  Gall rhai pobl fod angen cymryd eu meddygyniaeth am gyfnod amhenodol.  Gall eraill fod ei hangen am gyfnod penodol o amser – am nifer o fisoedd at ychydig flynyddoedd.

Nid yw rhai meddygyniaethau, fel bensodiasepinau a rhai tabledi cysgu yn cael eu cymeradwyo ar gyfer defnydd hirdymor.

 

MYTH: Mae'r feddyginiaeth yn gweithio yn syth 

Mae rhai meddyginiaethau iechyd meddwl, fel bensodiasepinau a thabledi cysgu yn rhai sy’n gweithio’n gyflym. Fel arfer, mae bensodiasepinau yn cymryd rhwng 30 a 90 munud i weithio.  Fel arfer, mae tabledi cysgu yn cymryd 30 munud hyd at awr.

Gyda rhan fwyaf o feddyginiaethau iechyd meddwl eraill, mae’n cymryd ychydig hirach fel arfer inni deimlo unrhyw fudd.

Er bod gwrthseicotigau yn gallu lleihau pryder o fewn oriau, gallan nhw gymryd sawl diwrnod neu wythnosau i leihau symptomau eraill yr ydym yn eu dioddef.

Fel arfer mae angen cymryd gwrthiselyddion am ychydig o wythnosau cyn inni deimlo unrhyw fudd; ar ôl 4 wythnos dylem ni yn bendant ddechrau teimlo rhyw fudd.

Mae’r cyffur gwrth-bryder pregabalin, a sefydlogyddion hwyliau fel lithiwm neu lamotrigine yn gallu cymryd o leiaf ychydig wythnosau i weithio.

 

HANNER-MYTH: Ni allwch chi gymryd meddyginiaeth of ydych chi'n feichiog 

Mae’r myth hwn yn gymhleth ac nid oes ateb syml.

Nid yw’n ddoeth cymryd rhai meddyginiaethau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cyffuriau gwrthgonfylsiwn (e.e. lamotrigine), bensodiasepinau, a lithiwm. Gall eraill fod yn llai o risg; ambell waith, mae hyn oherwydd nad oes digon o ddata i brofi yn bendant a ydyn nhw’n cael effaith ar blentyn sydd heb ei eni ai peidio.  

Mae’n hollbwysig siarad gyda gweithiwr proffesiynol meddygol am eich meddyginiaethau os ydym ni’n cynllunio beichiogrwydd, neu os ydym ni’n feichiog. Gall meddyginiaethau fod yn risg i’n plentyn sydd heb ei eni, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn parhau yn iach.  Yn aml, mae’n fater o gydbwyso’r risgiau – a fyddai parhau â’n meddyginiaeth fod yn fwy neu lai o risg i’n babi na fyddai’r risg o’u stopio i’n hiechyd meddwl.  Mae hwn yn benderfyniad i’r unigolyn.  Dylai ein gweithiwr iechyd proffesiynol allu ein helpu ni i benderfynu a ddylid parhau gyda’n meddyginiaeth/meddyginiaethau presennol, eu newid i un/rai gwahanol, newid ein dogn/dognau, a/neu beidio â chymryd y feddyginiaeth yn gyfan gwbl.

Ni ddylem ni stopio cymryd ein meddyginiaeth ein hunain ac fel arfer byddwn ni angen dod oddi arnyn nhw yn raddol.

Mae stopio cymryd ein meddyginiaeth heb ei leihau yn araf yn gallu bod yn beryglus.  Mae ein hiechyd ni mor bwysig ag iechyd ein babi.

 

MYTH: Mae pobl sy'n cymryd meddyginiaeth yn wan 

Nid yw’r ffaith ein bod yn cymryd meddyginiaeth neu beidio yn arwydd o’n cryfder. Mae penderfynu cymryd meddyginiaeth yn aml yn benderfyniad anodd, ac i rai ohonom, nid ein penderfyniad ni ydyw o gwbl.

Nid yw meddyginiaeth yn arwydd ein bod ni’n ‘rhoi fyny’ a ‘chymryd y dewis hawsaf’.  Mae’n offeryn arall inni yn ein pecyn ymdopi ag iechyd meddwl.

 

MYTH: Nid yw pobl sy'n cymryd meddyginiaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl wirioneddol el hangen 

Nid yw’n arferiad gan feddygon o ragnodi meddyginiaethau i bobl sydd ddim eu hangen.

Er y gall meddyginiaethau iechyd meddwl bod yn achubiaeth ac arbed bywydau, mae anfanteision iddyn nhw.  Bydd y rhan fwyaf ohonom yn profi o leiaf un sgil-effaith, a gall rhai ohonyn nhw gael effeithiau canlyniadol mewn mannau eraill o’n bywydau.

Ar wahân i hynny, gall cael gafael ar ein meddyginiaeth fod yn ychydig o drafferth ac mae’n ychwanegu tasg arall at fywyd yr ydym ni eisoes yn brwydro ag ef.  Ni fyddem ni’n ymdopi â hyn os na fydd angen gwneud hynny.

Mae’n bwysig cofio nad ydym yn debygol o wybod hanes llawn unrhyw un.  Efallai ein bod yn adnabod unigolyn hapus, uchel ei gloch, cymdeithasol, llawn bwrlwm.  Ar y tu allan, gall ymddangos nad oes unrhyw ffordd y byddai angen unrhyw feddyginiaeth ar gyfer ei iechyd meddwl.  Ond, gall fod cuddio nosweithiau digwsg, pryderon a hunanamheuaeth niweidiol.  Gall prin fod yn ymdopi â’r cyfan, ac yn ofni y bydd ei ddelwedd yn llithro ar unrhyw adeg.  

Gall meddyginiaeth ganiatáu inni ymdopi a gweithredu.  Mae’n hawdd barnu pobl fel ‘nad ydyn nhw angen meddyginiaeth’ pan ydym yn gweld fersiwn ‘iachach’ ohonyn nhw ar feddyginiaeth.  Ond pe bai pobl yn ein gweld yn ystod yr amseroedd pan nad ydym ar feddyginiaeth ac yn sâl dros ben, yna gallan nhw sylweddoli pa mor fawr yw’r angen.

 

MYTH: Cuddio'r broblem mae meddyginiaeth, nid yw'n ymdrin a hi go iawn 

Mae hyn yn dibynnu beth yw ein problem.  Os yw ein problem yn gyfan gwbl oherwydd amgylchiad, er enghraifft, os ydym yn teimlo’n isel oherwydd bod ein baddon yn gollwng dŵr sydd wedi achosi i nenfwd y lolfa ddymchwel, nid yw meddyginiaeth wedyn am ddatrys ein problem.

Nid yw meddyginiaeth yn ‘datrys’ problemau amgylchiadol sydd gennym ni, ond gall wella rhai o’n symptomau, gan ein helpu ni i ymdopi.

Gall Gwrth-iselyddion helpu i wella ein lefelau serotonin, gan godi ein hysbryd ddigon i ymdrin ag unrhyw broblemau bywyd.  Gall cyffuriau lleihau gorbryder dawelu ein pryderon ddigon fel ein bod yn gallu gadael y tŷ a derbyn cefnogaeth.  Mae Gwrthseicotigau yn gallu lleihau ein symptomau, efallai ein harwain ni at bwynt lle’r ydym yn gallu darganfod gweithgareddau yr ydym yn eu mwynhau unwaith eto.  Gall Sefydlogyddion hwyliau ein hatal rhag teimlo mor fyrbwyll a’n helpu ni at bwynt lle’r ydym yn gallu ymdrin â’r ddyled y gwnaethom fynd iddi tra’r oeddem yn orffwyll.

Nid yw meddyginiaeth yn ymdrin yn uniongyrchol â’n problemau, ac nid yw ychwaith yn eu cuddio.  Mae’n ein caniatáu ni i gyrraedd pwynt lle’r ydym yn gallu ymdopi a dysgu ffyrdd o’u rheoli.

 

MYTH: Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth, bydd yn dinistrio eich ysfa rywiol

Ambell waith, gall fod yn anodd dweud a yw ein meddyginiaeth, ein salwch neu ffactor allanol yn achosi unrhyw broblemau yr ydym yn eu cael gyda’n hysfa rywiol.  Mae gan nifer o feddyginiaethau iechyd meddwl sgil-effaith posibl o ‘ysfa rywiol isel’, ond ni fydd pawb yn cael profiad o’r sgil-effaith hon.  Gall ysfa rywiol isel hefyd fod yn symptom o rai mathau o salwch meddwl.  Fel arall, gall hyn gael ei achosi gan ffactorau amgylcheddol, fel problemau mewn perthynas, rhywbeth y gall problemau iechyd meddwl gyfrannu ato.

Mae cael ysfa rywiol isel yn broblem wirioneddol gyffredin.  Os ydym ni yn ei weld yn ofidus neu’i fod yn cael effaith ar ein perthynas/perthnasoedd, yna mae hi bob amser yn werth siarad â gweithiwr proffesiynol iechyd er mwyn cael cyngor.

 

MYTH: Mae pobl sydd angen meddyginiaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl yn beryglus

Yn ôl Arolwg Troseddau Prydeinig, 1% o ddioddefwyr yn unig sy’n credu bod digwyddiad treisgar wedi digwydd oherwydd bod gan y troseddwr salwch meddwl.  O’i gyferbynnu, darganfu astudiaeth yn Sweden fod y rhai hynny gyda salwch meddwl bron 4.9 gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr dynladdiad na’r rhai hynny heb salwch meddwl.

Nid yw cymryd meddyginiaeth ar gyfer ein hiechyd meddwl yn ein gwneud ni yn beryglus.  Efallai fod gennym ni feddyliau dychrynllyd, ond nid yw hynny’n golygu y byddwn ni’n eu gweithredu. Ar adegau, gallem fod yn beryglus inni ein hunain, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ein bod yn beryglus i bobl eraill.  Dim ond salwch meddwl yw hynny, salwch ydi hwn, ac nid yw’n ein gwneud ni yn awtomatig yn beryglus ac nid yw derbyn diagnosis yn bendant yn ein gwneud ni yn unigolyn drwg.

 

MYTH: Mae meddyginiaeth iechyd meddwl yn gaethiwus 

Mae hyn yn dibynnu ar y feddyginiaeth yr ydym yn ei chymryd. Mae rhai meddyginiaethau, fel bensodiasepinau, yn gallu bod yn gaethiwus a dylai gweithiwr proffesiynol meddygol eu monitro yn ofalus.

Nid yw meddyginiaethau eraill yn gaethiwus, ond gallwn ni gael effeithiau rhoi’r gorau iddyn nhw pan ydym yn peidio â’u cymryd. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn aml yn peidio â chymryd meddyginiaeth yn raddol ac ni ddylem byth peidio â’i chymryd heb dderbyn canllawiau meddygol.

 

MYTH: ‘Tabledi hapus" yw gwrth-iselyddion 

Nid yw Gwrth-iselyddion yn ein gwneud yn hapus yn awtomatig.

Gallan nhw helpu i leihau symptomau iselder drwy gynyddu’r lefel o serotonin yn ein hymennydd.

Niwrodrawsyrrydd yw Serotonin sy’n effeithio ar ein hysbryd, ein hemosiynau a’n cwsg.  Mae’r cynnydd mewn serotonin o wrth-iselyddion wedi’i gynllunio i wneud iawn am y lefelau isel o serotonin y mae iselder yn ei achosi.

Nid ydyn nhw’n ychwanegu llwyth o serotonin ychwanegol os oes gan ein hymennydd ddigon ohono yn barod.

Gall gwrth-iselyddion ein galluogi i weithredu.  Mae gallu gweithredu yn golygu y gallwn ni ddechrau byw eto, gyda’r phethau sy’n ein gwneud yn hapus.

Nid yw’r feddyginiaeth ynddi’i hun yn ein gwneud yn hapus, dim ond ein helpu ni i weithredu.

 

MYTH: Mae meddyginiaeth yn fferru pobl ac yn eu troi yn sombiod 

Ambell waith, gall ein salwch meddwl wneud inni deimlo fel petaem wedi fferu ac yn debyg i sombi, p’un a ydym yn cymryd y feddyginiaeth ai peidio.  Pan ydym yn dechrau cymryd meddyginiaeth, gall ein gwneud yn gysglyd neu ychydig yn ‘benysgafn’ ond bydd y sgil-effeithiau hyn ambell waith yn diflannu ymhen amser.

Pan mae ymarferwyr yn rhagnodi meddyginiaeth, nid ein troi yn sombïod yw’r nod.  Eu nod yw ein helpu i gael yr ansawdd bywyd gorau.  Os nad ydym ni’n hoffi’r effaith/effeithiau y mae ein meddyginiaeth yn ei chael arnom, mae’n bwysig siarad â’ch rhagnodwr amdani.  Gall fod angen addasu ein dogn neu addasu’r feddyginiaeth.

 

MYTH: Mae pawb ar wrth-iselyddion y dyddiau hyn; mae'n wirioneddol ffasiynol 

Yn aml, mae hyn yn cysylltu’n ôl â’r syniad nad yw pobl wirioneddol angen eu meddyginiaeth, a bod gwrth-iselyddion yn ‘dabledi hapus’.