Blog: Fy mrwydr i a phroblemau iechyd meddwl

Watering plant

Fi wastad wedi cadw fy mhrofiadau gydag ymladd iechyd meddwl yn breifat, ond fi’n teimlo bod nawr yn amser da i rannu fy stori ac efallai bydd o fudd i rywun wrth dangos dydyn nhw ddim ar ben eu hun. Fi wastad wedi ceisio ymddangos fel person positif i bawb arall achos sai ishe strwa’r mood ‘da teimladau fi a fi wastad wedi ei weld yn anodd agor lan a siarad yn agored am sut fi’n wirioneddol yn teimlo. Mae neud y post yma yn hollol terrifying ond gobeithio bydd e o gymorth i rywun! 

 

Pyliau dyddiol o banig  

Wrth edrych nôl ar fy mhlentyndod, sdim byd mawr yn sefyll mas i fi o ran iechyd meddwl, roeddwn i wastad yn ferch fach hyderus, dwli ar berfformio, yn bubbly ac uchel fy nghloch. Odd symud i ysgol uwchradd yn fach o sioc i fod yn onest, symud o ddosbarth ac ysgol weddol fach i ysgol (oedd ar y pryd) yn enfawr i mi. O ni byth wedi cael problemau wrth gwrdd â phobl newydd yn y gorffennol ond nawr o ni’n teimlo’n nerfus – fel o ni fethu bod fy wir hun a throais i fod yn unigolyn weddol dawel yn y dosbarth. Penderfynais symud dosbarth ym mlwyddyn 8, ond oedd hyn ddim mor rhwydd ag oedd e’n swnio.  

Gyda hyd yn oed fwy o bobl newydd i gwrdd â, daeth pethau’n anodd eto gorfod gorfodi fy hun i wneud ffrindiau newydd efo pobl o ni erioed wedi siarad â, diolch byth bod nhw yn bobl lyfli a ni dal i fod yn ffrindiau heddiw! Fast forward i flwyddyn 10 wrth i ni ddechrau gwaith TGAU, dechreuais gael ‘panic attacks’ yn ddyddiol, oedd dim syniad ‘da fi pam o ni’n cael y rhain ond bydde ni’n cael teimlad ofnadwy o bryder yn fy stumog a’r munud nesa bydde’n ni methu anadlu’n gywir. Parhaodd hyn am fwyafrif o’r diwrnodau ysgol trwy gydol flwyddyn 10. Wrth i mi golli fwy o wersi oherwydd i mi adael y dosbarth i ddelio efo’r panic attacks byddai’r pryder yn gwaethygu wrth i mi orfod dal i fyny efo’r gwaith yn ogystal â phawb yn gofyn i mi beth oedd y rheswm tu ôl iddynt, beth fi ishe iddyn nhw neud ayyb achosodd hyn i mi lefan lot! Achos ar y pryd oedd dim syniad ‘da fi beth oedd yn ei achosi a beth fi fod neud i ddelio efo nhw’n iawn. Yn ffodus oedd ‘da fi ffrindiau a chwpwl o athrawon hollol amazing oedd yn ddigon parod i fy helpu a rhoi cymorth i mi. 

 

Yr ‘side effects’ corfforol  

I lawer mae problemau iechyd meddwl yn afiechyd meddyliol, ‘sneb yn meddwl am yr ‘side effects’ corfforol; chwysu, crynu, teimlo’n sâl, teimlo’n oer ac yna poeth, ‘dizziness’ a de-realization i enwi rhai. Unwaith o ni’n cerdded y coridor yn ceisio rheoli fy anadlu ond yn methu, cyn i fi gwybod dim o ni ar y llawr wedi llewygu, codais i weld fy ffrind a rhai athrawon yn fy amgylchyni. Oedd hwn mor frawychus i mi achos oedd dim cliw ‘da fi beth oedd wedi digwydd a pam. 

Fi’n cofio mynd i aros yn Aberaeron am gwpwl o ddyddiau efo’r teulu a ffrindiau a chael ‘mini breakdown’ o ryw fath allan yn gyhoeddus, fi’n cofio esbonio i mam o ni jyst yn teimlo mor wag trwy’r amser a ddiemosiwn ond yn llawn emosiwn trwy’r amser, o ni mor confused a ddim yn gwneud llawer o sense, o ni’n teimlo fel fi’n gwylio fy mywyd yn digwydd a bod fi ddim actually ‘na. Ar ôl y sgwrs anodd ‘na, penderfynodd Mam mai’r peth gore bydde i ffonio’r GP. Wedi sawl ymweliad i’r doctor cefais fy nghyfeirio at y gwasanaeth CAMHS. 

Wrth edrych yn ôl ar fy TGAU a sgwrsio efo’r teulu dwi’n cofio gwneud amserlen adolygu ar gyfer y misoedd cyn ac yn ystod fy arholiadau. Rhywbeth oedd yn help mawr i mi yn y cyfnod yma oedd cael routine, dwi dal i ddibynnu ar hyn heddiw i ryw raddau. Ond roedd y math yma o routine yn un weddol wenwynig wrth edrych yn ôl, yn y pen draw fe ddes i yn fach o control freak ac yn obsessed efo routine penodol - o ni’n hynod o strict ar yr amseroedd ac os nad oedden ni’n dibennu popeth ar fy ‘to do list’ ac yn cadw i’r amseroedd yna o ni’n torri lawr, llefan a chael masif freak out. Trwy amser yr arholiadau TGAU bydden ni yn cau fy hun bant yn fy ystafell ac yn gweithio trwy’r dydd ac yn braidd yn gweld fy nheulu. 

 

O ni’n gwybod bod rhaid i rywbeth newid  

Medi 2017, dechreuais yn y chweched, o ni’n gweld CAHMS yn wythnosol, cymryd meddyginiaeth ond o ni dal yn teimlo mor isel ac fel oedd dim personoliaeth ‘da fi. Fe wnes i gadw hwn i gyd wrth fy ffrindiau agos am tua blwyddyn, dim ond fy nheulu ac ambell i athrawes oedd yn gwybod yn iawn beth oedd yn mynd ymlaen. Yn amlwg oedd pethau da yn digwydd ac o ni’n teimlo’n hapus, ond byddai’r iselder a phryder gwastad yn darganfod ffordd i gropian yn ôl mewn. O amgylch y cyfnod yma o ni fethu gweld am ba mor hir bydden ni’n gallu delio efo hyn, o ni’n gwybod bod rhaid i rywbeth newid.  

Ar ôl nifer o sesiynau wythnosol yn ychwanegol i’r sesiynau CBT, roeddwn i yn barod i wynebu bywyd heb gymorth CAMHS. Edrych yn ôl ar fy mhrofiad yno, fi’n gweld sut wnaeth e fy helpu hyd oed nad oedd e’n teimlo fel oedd unrhyw beth yn ddefnyddiol ar yr amser. Er oedd pob sesiwn mor anodd ac yn flinedig yn feddyliol fi’n falch es i i bob un, dwi hefyd mor ddiolchgar fy mod i wedi gallu cael y math yma o gymorth. 

Wedi i mi orffen derbyn cymorth o CAMHS penderfynais roedd yn rhaid i bethau newid a rhaid cael rhywfaint o reolaeth dros fy iechyd meddwl a sut mae’n fy effeithio fy mywyd pob dydd. Ond dwi mor falch i ddweud fe es i drwy’r holl flynyddoedd anodd yna yn yr ysgol a dal i lwyddo i gael fy nerbyn i’r brifysgol a chael canlyniadau Lefel A da. 

 

Penderfyniadau anodd er mwyn fy lles a iechyd meddwl fy hun  

Ar ôl cael Haf hollol amazing gyda ffrindiau a theulu roedd e’n amser i mi ddechrau fy nghwrs nyrsio iechyd meddwl yn y brifysgol. Penderfynais ar y cwrs yma oherwydd dwi wedi profi a gweld yr effaith mae iechyd meddwl yn cael ar blant a phobl ifanc yn enwedig felly roedden ni eisiau helpu, a thrwy fy mhrofiadau fy hun a’r hyfforddiant cywir roedd hyn yn bosib. O ni’n hollol terrified i ddechrau i fod yn onest oedd dim syniad ‘da fi beth i ddisgwyl, yn anffodus ni aeth pethau mor dda a hoffwn iddyn nhw i fod. O ni’n mwynhau’r cwrs a dysgu am yr ardal benodol yma o nyrsio ond o ni’n teimlo’n mor unig drwy’r amser, fel oedd dim ffrindiau ‘go iawn’ ‘da fi ac o ni methu bod fy wir hun, welais i fy iechyd meddwl yn dirywio unwaith eto, yr iselder a phryder yn gwaethygu.  

Dwi’n cofio dod 'nôl adre un penwythnos a cherdded mewn at fy chwaer a dechrau llefen achos o ni ddim yn gwybod beth i neud, o ni’n meddwl bydde pawb yn siomedig ‘da fi a dyna pryd penderfynom ar gyfer lles ac iechyd meddwl fy hun bydde ni’n gadael y cwrs. Hwn oedd un o’r penderfyniadau mwyaf anodd dwi byth wedi gorfod neud, o ni rili ishe llwyddo a gwneud yn dda ond fi’n gwybod bod fi wedi gwneud y peth gorau ar gyfer fi fy hun, sdim ots beth mae pawb arall yn meddwl, mae mor bwysig ein bod yn rhoi ein hanghenion ni’n gyntaf. Erbyn heddiw dwi mewn lle gwell, dal i gael ‘down’ days ond yn ymdopi’n well ac yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs newydd yn y brifysgol agosach i adre.