Mae’n Iawn i Ddweud Na – Alcohol yn y Brifysgol

Myf friends

Nid wy’n credu fod digon o bobl yn siarad am y pwysau o orfod yfed alcohol a mynd allan i yfed fel myfyriwr yn y brifysgol. Rydw i yn fy ail flwyddyn bellach ac rwy’n dal i deimlo’r pwysau o yfed a chymdeithasu’n wythnosol. Mae yfed yn grêt i gael cymdeithasu a thynnu ychydig o’r pwysau o gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Ond credaf nid ydym yn siarad digon am y teimlad diwrnod wedyn, neu hyd yn oed i mi, diwrnodau wedyn. Dwi’n profi ‘hangxiety’ ofnadwy ac mae’n pwyso arna’ i am ddyddiau gan effeithio ar fy hwyliau, ac wedi i mi adfer, mae’n rhaid gwneud yr un peth eto ac eto. Weithiau, dwi’n teimlo fel mai’r peth gorau i wneud yw yfed drosodd a drosodd gan fod alcohol yn ein gwneud yn ddideimlad ac fel bod popeth yn grêt; ond peidiwch adael iddo eich twyllo! 

 

Alcohol ac Antidepressants  

Fel rhywun sy’n cymryd ‘antidepressants’, rwy’n mynd yn hollol groes i’w defnydd wrth gymryd ‘depressant’ ru’n pryd.  Dwi’n lwcus, ‘dwi’n fwy ymwybodol o fy nghyfyngiadau a fy nherfynau a dysgu sut i ddweud na wrth alcohol o bryd i’w gilydd gan fod ei effaith yn sylweddol.  Ond weithiau nid yw hi mor hawdd â hynny, yn enwedig pan chi’n teimlo o dan straen. Mae alcohol  yn rhan fawr o gymdeithas brifysgol.  Mae digwyddiadau wythnosol sy’n cynnwys alcohol yn cael eu cynnal, ac mae gweld pawb yn mwynhau a chymdeithasu yn achosi FOMO (fear of missing out) enfawr, ac mae’n gylch diddiwedd.  Peidio mynd allan a theimlo allan o’r gymdeithas, neu fynd yn erbyn eich gwir deimladau a mynd allan.  A theimlo’n sâl beth bynnag hyd yn oed pryd chi’n gwybod yr effaith mae’n cael arnoch, ond yn dewis yfed beth bynnag.  

 

Dysgu Pryd i Ddweud Na  

Y peth gorau rydw i'n drio gwneud yw  dysgu  pryd i ddweud na. Dysgu sut i sylweddoli fod rhywbeth ddim o fudd i chi. Os ydych yn teimlo’n isel rhyw ddiwrnod, y peth diwethaf y dylech  wneud yw yfed alcohol, yn bendant byddwch yn teimlo’n waeth y diwrnod wedyn. Ceisiwch beidio gwrando ar y pwysau cyfoedion  o’ch cwmpas, dwi’n gwybod does dim drwg yn yr hyn mae eich ffrindiau’n ei wneud, yn sicr dim ond eisiau i chi joio y maen nhw. Ond mae’n rhaid i chi osod ‘boundaries’ eich hunain.  Er hynny, weithiau ni fyddent yn deall y ffordd y bydd alcohol yn gwneud i chi deimlo, ac felly dylech  siarad yn onest efo nhw. Agorwch fyny gan ddweud, “dwi ddim yn credu y dylwn yfed heno, bydd o’n effeithio ar fy iechyd meddwl a fyddai ddim yn teimlo’n dda” ac yn sicr os ydynt yn ffrind go iawn y bydda nhw’n deall yn iawn. 

 

Felly, os ydych chi’n gweld hi’n anodd cadw fyny ar nosweithiau allan, noson ‘peint tawel’ sy’n troi fewn i’r noson wyllta erioed - cofiwch fod hi’n hollol normal, i gael noson ddistaw i mewn ac i ddweud na wrth alcohol.  Sicrhewch eich bod yn mwynhau eich hunain, ond cofiwch fod angen gofalu am eich hunain hefyd.