Trais Rhywiol

 

 

Friends

 

Awdur:  Helen Munro, Adran Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor

 

Taflen Wybodaeth Trais Rhywiol - mae'r wybodaeth isod wedi cael ei grynhoi mewn dogfen fer fel y gellir ei lawr lwytho a'i rannu.  

 

Rhan 1 - Diffiniadau o Aflonyddu a Thrais Rhywiol

Beth yw trais rhywiol?

Y peth cyntaf sydd angen cofio gall unrhyw un o unrhyw oed, rhyw neu gefndir ddioddef o drais rhywiol. Diffinnir trais rhywiol yn y DU gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 sy’n rhestru 52 o droseddau rhywiol.
Mae’n derm, nad yw’n derm cyfreithiol, a ddefnyddir fel term ymbarél i gyfeirio at amrywiol droseddau rhywiol.

Ymosodiad rhywiol yw unrhyw fath o weithgarwch rhywiol nad ydych yn cydsynio iddo, yn amrywio o gyffwrdd yn amhriodol i dreisio. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd gyda dieithryn ac efallai na fydd unrhyw arwyddion gweledol yn cael eu gadael ar ôl. Gall fod yn eiriol, yn weledol, neu’n unrhyw beth sy’n gorfodi unigolyn i ymuno mewn gweithred rywiol ddi-groeso.

Mae ymddygiad fel cyffwrdd neu gusanu di-groeso ynghyd â ffurfiau eraill o ymosodiad rhywiol yn droseddau a allai, o gael eu cyfeirio at yr heddlu, olygu arestio rhywun a’u barnu yn euog o drosedd mewn llys barn.

 

Beth yw cydsyniad rhywiol?

Cydsyniad rhywiol (‘consent’) yw pan mae unigolyn yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch rhywiol. Mae hyn yn amod angenrheidiol ar gyfer pob math o weithgarwch rhywiol.

Nid yw bod mewn perthynas gyda rhywun, neu fod wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol o’r blaen, yn golygu cydsynio i gael rhyw.

Mae gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad yn erbyn y gyfraith. Ni ddylech fyth deimlo cywilydd am wrthod gweithgarwch rhywiol – mae gan bawb yr hawl i ddweud na.

 

Beth yw Aflonyddu?

Aflonyddu yw unrhyw ymddygiad di-groeso sy’n tramgwyddo neu’n brawychu unrhyw un neu sy’n achosi ofn neu ofid. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad corfforol, trais rhywiol, ymosodiad, malais geiriol neu ddi-eiriau, gorfodaeth a stelcio, ond nid yw wedi eu cyfyngu i’r rhain. Mewn rhai achosion, gall aflonyddu fod yn gysylltiedig â rhyw, hil, ethnigrwydd neu wreiddiau cenedlaethol, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd neu gredoau, oed, anabledd neu unrhyw nodweddion personol eraill.

 

Rhan 2 - Mythau Trais Rhywiol

Cyflwyniad

Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd siarad am drais rhywiol ac mae hynny’n cyfrannu at gymdeithas lle mae mythau a cham wybodaeth yn gyffredin.  Caiff mythau eu cynnal hefyd gan adroddiadau anwybodus neu anghytbwys ar y cyfryngau am achosion yn ymwneud â thrais rhywiol. 

Mae goroeswyr trais rhywiol hefyd yn gorfod ymdopi’n aml â theimladau o gywilydd, euogrwydd a beio’u hunain a all ei gwneud yn anodd iddynt siarad ag unrhyw un am eu profiadau.  Mae goroeswyr yn ofni y bydd eraill yn gweld bai arnynt neu na fyddant yn cael eu credu a gall mythau am drais rhywiol gadarnhau’r teimladau a’r ofnau hyn.    

 

Myth 1: Os na chafodd y dioddefwr anaf, doedd o ddim yn treisio / ymosodiad rhywiol

Nid yw treisio / ymosodiad rhywiol yn gadael olion gweladwy ar y corff bob amser

Gall rhai sy’n cyflawni’r troseddau ddefnyddio ffyrdd i godi ofn ar ddioddefwyr a’u gorfodi i weithredu fel maent hwy ei eisiau

Yn aml mae ar ddioddefwyr ofn gwirioneddol cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol a byddant yn aml yn cydweithredu â’r troseddwr i achub eu bywydau.    

Gall ymdeimlad y dioddefwr o fygythiad ddylanwadu ar eu hymddygiad, gan achosi iddynt ‘rewi’ yn aml.

 

Myth 2:  Mae pobl yn aml yn dweud celwydd eu bod wedi cael eu treisio oherwydd sbeit neu i gael sylw.

Mae sylw’r cyfryngau i honiadau ffug o dreisio yn gwneud i’r cyhoedd feddwl eu bod yn gyffredin, pryd nad ydynt mewn gwirionedd.

Mae honiadau ffug o dreisio yn brin, dim ond 4% o’r holl adroddiadau am y drosedd. 

Mae’r mwyafrif llethol o oroeswyr yn dewis peidio â rhoi gwybod am y peth i’r heddlu.

Gall honiadau ffug gael eu cyfuno a mathau eraill o droseddau trais rhywiol sy’n cael eu cofnodi yn y diwedd fel ‘dim trosedd’ e.e. lle na ellir adnabod y sawl a gyflawnodd y drosedd neu lle mae’r dioddefwr yn penderfynu nad ydynt eisiau dod ag achos yn erbyn y troseddwr.

 

Myth 3:  Mae pobl sy’n dioddef o drais rhywiol yn rhoi gwybod am y peth yn syth

Ni fydd 85% o oroeswyr yn adrodd am drais rhywiol ac mae yna rwystrau lluosog a sylweddol yn atal hynny.

Mae ymateb i drais rhywiol yn amrywiol iawn ac yn ddibynnol ar y goroeswr unigol. 

Mae ar lawer o oroeswyr angen amser i ddod i delerau a digwyddiad ac efallai y byddant eisiau magu hyder i roi gwybod amdano

Bydd llawer o oroeswyr yn dod ymlaen pan mae eraill yn gwneud hynny gan y byddant yn teimlo’n gryfach a mwy hyderus pan nad ydynt ar eu pennau eu hunain

Gall teimladau o gywilydd, dryswch ac ofn canlyniadau achosi oedi mewn rhoi gwybod am ddigwyddiadau. 

 

Myth 4:  Mae pobl fwy tebygol o gael eu treisio gan ddieithryn ar ôl iddi dywyllu

Caiff tua 90% o achosion o dreisio eu cyflawni gan ddynion y mae’r goroeswyr yn eu hadnabod, ac yn aml rywun y mae wedi ymddiried ynddynt neu hyd yn oed eu caru.

Caiff pobl eu treisio yn eu cartrefi, eu mannau gwaith a mannau eraill lle roeddynt yn teimlo’n ddiogel ynddynt cyn hynny.

Gall treiswyr fod yn ffrindiau, cydweithwyr, cleientiaid, cymdogion, aelodau o’r teulu, partneriaid neu gyn-bartneriaid.

Ni ddylai ofni trais reoli neu gyfyngu ar symudiadau merched.

 

Myth 5:  Dim ond merched / genethod ifanc ‘deniadol’ sy’n profi trais rhywiol

Mae pobl o bob oed ac ymddangosiad ac o bob dosbarth, diwylliant, gallu, rhyw, rhywioldeb, hil a chrefydd yn cael eu treisio.

Gweithred o drais a rheoli yw treisio; nid oes gan ba mor ‘ddeniadol’ yw dioddefwr fawr ddim i’w wneud a’r peth.

Nid oes unrhyw esgus dros drais rhywiol ac nid yw byth yn fai’r dioddefwr / goroeswr.

 

Myth 6:  Gall alcohol, cyffuriau neu straen droi pobl yn dreiswyr

Dydy cyffuriau ac alcohol, straen neu iselder fyth yn achos trais neu ymosodiad rhywiol.  Yr achos yw’r ymosodwr sy’n achosi’r drosedd, nid y cyffuriau ac/neu alcohol. Nid oes unrhyw esgusodion.

 

Myth 7:  Nid yw dynion yn dioddef trais rhywiol

  • Cyflawnir y rhan fwyaf o drais rhywiol gan ddynion yn erbyn merched a phlant ond mae dynion hefyd yn dioddef trais rhywiol a all gael ei gyflawni naill ai gan ferched neu ddynion eraill.
  • Caiff oddeutu 15% o achosion o dreisio yn y DU eu cyflawni yn erbyn dynion
  • Mae dynion sydd wedi goroesi trais rhywiol yn llai tebygol o roi gwybod amdano na merched, yn aml oherwydd teimladau o gywilydd.

 

Ydi o bob amser yn dreisgar?

Ni ellir ystyried yr holl droseddau sy'n gysylltiedig â hynny yn rhai treisgar yn yr ystyr draddodiadol.

Gall stelcian, er enghraifft (a ddiffinnir yn aml fel sylw obsesiynol gan unigolyn tuag at unigolyn arall), yn aml gael ei gynnal o bellter, megis dilyn a chadw golwg gyson ar rywun ac aflonyddu arno/arni drwy anfon pethau fel negeseuon e-bost.

Ein syniad traddodiadol ni o 'drais' yw bod rhaid iddo fod yn rhywbeth corfforol sy'n achosi anaf, ond mewn llawer achos o drais rhywiol nid oes unrhyw gyswllt agos uniongyrchol rhwng y sawl sy’n cyflawni’r drosedd a'r dioddefwr/goroeswr. 

Gall stelcian, er enghraifft (a ddiffinnir yn aml fel sylw obsesiynol gan unigolyn tuag at unigolyn arall), gael ei gynnal o bellter, megis dilyn a chadw golwg gyson ar rywun ac aflonyddu arno/arni drwy anfon pethau fel negeseuon e-bost, negeseuon testun a llythyrau.

Mae stelcian ac aflonyddu rhywiol, er enghraifft, ymysg yr enghreifftiau mwyaf bygythiol o drais rhywiol gan fod y dioddefwr yn aml yn gwbl analluog i reoli eu sefyllfa bersonol eu hunain.  Dywed dioddefwyr stelcian eu bod yn teimlo'n anniogel ym mhob agwedd ar eu bywydau, bob munud o'r dydd.

 

Rhan 3:  Pam fod cyn lleied yn adrodd i’r heddlu am drais rhywiol?

Dim ond 15% o ddigwyddiadau o drais rhywiol yr adroddir i’r heddlu, sy'n golygu bod canran enfawr  ddim yn cael eu datgelu.

Mae yna gred gyffredin o hyd mewn cymdeithas y byddai unrhyw un sydd 'wirioneddol' wedi dioddef trais rhywiol yn sicr o fynd at yr heddlu.  Mae angen i ni ddeall nad oes gan y rhesymau pam nad yw pobl yn rhoi gwybod i'r heddlu am drais rhywiol unrhyw beth o gwbl i'w wneud â ph'un a ddigwyddodd y peth ai peidio.  Mae yna lawer o resymau pam na adroddir achosion o'r fath:   

 

Rheswm 1:  Ofn nad fydd neb yn eu credu

Mae llawer o oroeswyr yn ofni na fyddant yn cael eu credu, yn arbennig os yw'r un a gyflawnodd y drosedd yn hŷn ac yn fwy grymus neu uchel ei barch yn y gymuned. 

Teimla llawer y bydd rhoi gwybod am dreisio neu ymosodiad rhywiol yn achosi iddynt gael eu hystyried yn gelwyddog, neu hyd yn oed yn 'slwt' mewn rhai achosion. 

Caiff yr ofnau hyn eu dwysau gan achosion yn y cyfryngau lle mae pobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau rhywiol ond na ddaethpwyd ag achosion cyfreithiol yn eu herbyn, neu na chafwyd euogfarn.

Mae’r cyfryngau yn aml yn rhoi sylw mawr i achosion o gam gyhuddo pobl o drais rhywiol gan wneud i’r cyhoedd gredu bod nifer fawr o achosion o ddweud celwydd yn gysylltiedig a’r troseddau hyn.  Mewn gwirionedd dim on 4% o honiadau o drais rhywiol sy’n rhai ffug ac nid yw hynny'n uwch nag unrhyw fath arall o drosedd.

Meddyliwch am achosion o dreisio y wedi'u gweld ar y cyfryngau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Yn unrhyw rai o'r achosion hynny, wnaethoch chi erioed feddwl wrthych eich hun - "Beth os yw'r dioddefwr yn dweud celwydd?"

Mae'r ymateb cyffredin hwn i honiadau o drais rhywiol yn ganlyniad y ffordd y caiff adroddiadau am achosion o'r fath eu hystumio gan y cyfryngau.  Anaml yr ydym yn poeni a yw rhai a amheuir o lofruddiaeth yn cael eu cyhuddo ar gam, neu y gall siopwr fod yn dweud celwydd pam mae'n rhoi gwybod fod rhywun wedi torri mewn i’w siop a dwyn.

 

Rheswm 2:  Ofni gwarth neu i faterion personol gael eu datgelu

Gan fod holl natur trais rhywiol yn ymwneud ag agweddau hynod bersonol ar fywyd rhywun, mae ar lawer o oroeswyr ofn cael eu gwawdio ac agweddau personol ar eu bywydau gael eu datgelu gerbron y byd.  Er enghraifft, mewn rhai achosion uchel eu proffil, mae tystiolaeth newydd wedi ei  hystyried a oedd yn edrych ar fywyd rhywiol blaenorol y dioddefwr.  Beth mae hyn yn ei amlygu yw pa mor anodd ydy achos troseddol i ddioddefwr trosedd rywiol.  Mae enghreifftiau uchel eu proffil yn rhoi neges i oroeswyr, y gallai agweddau hynod bersonol o’u bywyd preifat gael eu harchwilio fel rhan o achos llys a'u defnyddio efallai i daflu anfri arnynt fel tyst.

 

Rheswm 3:  Yr Ymosodwr Hysbys

Caiff tua 90% o achosion o drais rhywiol eu cyflawni gan rywun y mae'r goroeswr yn ei adnabod ac mae achosion o dreisio gan ddieithryn yn eithriadol o brin mewn gwirionedd.

Yn aml, drwy roi gwybod am drais rhywiol a gyflawnwyd gan aelod o grŵp o ffrindiau, mae goroeswyr yn ofni y byddant yn cael eu dieithrio os na fyddant yn cael eu credu. Mae hynny'n wir yn aml yn achos myfyrwyr prifysgol, o ystyried y cymunedau y maent yn byw a gweithio ynddynt. 

Wrth geisio penderfynu p'un ai i adrodd am achos ai peidio, bydd goroeswyr yn ystyried eraill sy'n rhannu fflat â hwy neu bobl eraill ar eu cwrs neu yn eu clwb neu gymdeithas. Bydd arnynt ofn dial posib, ofn i gyfeillion agos beidio â'u credu ac ystyried effaith y cyfan ar eu gwaith academaidd a'u bywyd cartref a chymdeithasol.

Mae'n gyffredin iawn hefyd i ddioddefwyr trais rhywiol beidio â bod eisiau i'r sawl a gyflawnodd y drosedd gael eu harestio neu fynd i drwbl, yn arbennig os oes ganddynt deulu a phlant. Oherwydd bod treisio'n cael ei ystyried yn drosedd mor enbyd mewn cymdeithas, ceir ymdeimlad ymysg rhai goroeswyr fod i rywun gael ei gyhuddo'n gyhoeddus o fod yn dreisiwr yn waeth mewn gwirionedd na chael eu treisio eu hunain.  Mae'n anodd deall y ffordd hon o feddwl efallai, ond dywed gweithwyr sy'n cefnogi dioddefwyr trais rhywiol eu bod yn dod ar draws hyn dro ar ôl tro.

 

Rheswm 4:  Y Diwylliant o Feio'r Dioddefwr

Mae goroeswyr yn aml yn teimlo cywilydd dwfn oherwydd trais rhywiol ac oherwydd bod cymdeithas, a'r wasg yn arbennig, yn aml gyda syniadau negyddol ac ystrydebol (stereotypical) ynghylch troseddau rhywiol. Gall hyn arwain goroeswyr i gredu eu bod ar fai oherwydd yr hyn ddigwyddodd iddynt.  Mae'r fideo byr hwn yn mynd i fwy o fanylion ynghylch y diwylliant o feio dioddefwyr a sut mae'n effeithio ar oroeswyr trais rhywiol:  https://youtu.be/_ACTMY6e_Wk

 

Rhesymau eraill dros beidio â rhoi gwybod am droseddau rhywiol

  • Ofni gwarth neu i deulu ddod i wybod.
  • Ofni i’r sawl a gyflawnodd y drosedd ddial arnynt os byddant yn dod i wybod y gwnaed cwyn amdanynt, yn arbennig os na chant eu harestio a’u cosbi.
  • Ofn i deulu fod mewn perygl os adroddir am drais rhywiol
  • Gall y dioddefwr fod yn ansicr p’un a oedd y weithred rywiol yn drais rhywiol ai peidio
  • Diffyg ffydd yng ngallu’r system gyfiawnder i gosbi’n briodol y sawl a gyflawnodd y drosedd.
  • Cyflawnir ymosodiad rhywiol yn aml gan rywun y mae’r dioddefwr yn ei adnabod a’i garu ac nad ydynt eisiau rhoi gwybod amdano/amdani, yn arbennig os ydynt yn ddibynnol arnynt.

 

Rhan 4:  Sut i ymateb i ddatgeliad o drais rhywiol

Yn aml mae goroeswyr eisiau dweud wrth rywun fel y gallant gael y gefnogaeth briodol ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ymateb cyntaf y sawl fydd yn derbyn y datgeliad fydd rhoi'r goroeswr mewn cysylltiad â gwasanaethau cefnogi arbenigol,

Yn aml mae goroeswyr eisiau dweud wrth rywun fel y gallant gael y gefnogaeth briodol ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ymateb cyntaf y sawl fydd yn derbyn y datgeliad fydd rhoi’r goroeswr mewn cysylltiad a gwasanaethau cefnogi arbenigol, megis eu Canolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhywiol leol - ceir manylion eich canolfan leol ar wefan GIG 111 Cymru: https://111.wales.nhs.uk/Rapeandsexualassault/

Gall goroeswyr ddatgelu trais rhywiol oherwydd eu bod eisiau i’r sawl a gyflawnodd y drosedd gael ei atal rhag gwneud yr un peth i rywun arall.  Efallai y dymunant eu gweld yn wynebu’r gyfraith am eu trosedd.  Weithiau’r cyfan mae’r goroeswr ei eisiau yw herio’r ymddygiad a rhoi neges glir i’r sawl a aflonyddodd arnynt nad yw eu gweithredoedd yn dderbyniol. 

Mae derbyn datgeliad yn rhoi cyfle i ddechrau ymyriad adeiladol a chefnogol.  

 

Beth allai wneud i helpu?

Gallwch chi wneud sawl peth i helpu unigolion i ymdopi a dod o hyd i help:


1. Sicrhewch bob amser fod y person yn ddiogel.

2. Byddwch yn gefnogol wrth gyfeirio at wasanaethau lles y brifysgol neu asiantaethau allanol. Os oes angen sylw meddygol brys, awgrymwch fod yr unigolyn yn cysylltu â'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol leol.

3. Er nad oes un ffordd "gywir" o ymateb i rywun yr ymosodwyd arno'n rhywiol, gall y canlynol fod o gymorth i ddioddefwyr:

  • Credwch yr unigolyn
  • Peidiwch â mynd i banig / cynhyrfu   
  • Gwrandewch – anogwch yr unigolyn i gymryd pa bynnag amser sydd ei angen.
  • Parchwch yr iaith y defnyddir i nodi beth sydd wedi digwydd
  • Deall y gall unigolion o gefndiroedd gwahanol fynegi neu brofi ymateb i ymosodiad mewn gwahanol ffyrdd
  • Dilyswch brofiadau neu’r ymatebion
  • Atgoffwch nad ydy’r goroeswr ar fai
  • Eu helpu i adnabod pobl maent yn eu adnabod y gallent ymddiried ynddynt
  • Gadewch iddynt wneud eu penderfyniadau eu hun
  • Anogwch i gael sylw meddygol a chwnsela.

 

Mae'n bwysig cofio y gall y ffordd rydym yn ymateb pan wneir datgeliad wrthym fod yn eithriadol boenus a niweidiol i oroeswr.  Dyma esiamplau o ymatebion negyddol mae rhai goroeswyr wedi eu derbyn:

  • "Wyt ti'n siŵr i ti gael dy dreisio?"
  • "Faint oeddet ti wedi'i gael i'w yfed?"
  • "Dwi yn adnabod y myfyriwr hwnnw.  Mae ganddo blant ac mae ei wraig hefyd yn fyfyriwr yma, mae'n wirioneddol neis."
  • "Dydi anfon lluniau ohonot ti dy hun yn noeth at rywun arall byth yn syniad da."
  • "Dwi erioed wedi cael cwynion am y person yma o'r blaen."
  • "Jest anwybydda fo.  Mi wneith o roi'r gorau iddi yn y diwedd a symud ymlaen at rywun arall.”
  • "Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am flwyddyn a dyma'r tro cyntaf i ti ddweud wrth rywun?"

Trwy beidio â chynhyrfu, gwrando'n ofalus a pheidio â bod yn feirniadol fe wnewch wahaniaeth cadarnhaol i'r unigolyn.  Bydd eu sicrhau eich bod yn eu credu yn bwysig iawn i wneud iddynt deimlo eu bod yn cael cefnogaeth.