Paratoi am fywyd ar ôl graddio: Beth i wneud nesaf?

 

graudation cap and scroll

 

Mae'r broses o adael cartref am y tro cyntaf a symud i'r brifysgol yn cael ei ystyried fel y profiad mwyaf brawychus mae pobl ifanc yn wynebu yn eu hoedolaeth gynnar. Yn 2022, roedd bron i 3 miliwn o fyfyrwyr ifanc yn dysgu ar draws Prydain, gyda 150,000 ohonynt yn mynychu’r brifysgol yng Nghymru. O ganlyniad felly mae adnoddau, cyllid a sylw i les ac iechyd meddwl wedi eu seilio ar rheini o fewn strwythurau prifysgol. 


Yn ddiweddar, mae cydnabyddiaeth am y straen a phwysau sydd ar fyfyrwyr graddedig wrth adael y brifysgol wedi cynyddu a'r diffyg adnoddau i hwyluso’r broses gan ddiogelu eu lles ac iechyd meddwl. Mae'r diffyg pontio rhwng bywyd prifysgol a gwaith ôl-raddedig yn frawychus. Yn wahanol i fynd i'r brifysgol does dim llawlyfrau, canllawiau na llwybrau gosod. Yn ogystal, mae myfyrwyr graddedig ifanc heddiw yn wynebu sefyllfa economaidd ansefydlog. Yn amrywio o adael addysg uwchradd wedi’u gogwyddo gan y pandemig covid, i argyfwng costau byw, argyfyngau tai lluosog a rhenti ledled dinasoedd mawr, i farchnad swyddi lle mae mwy o raddedigion nag erioed o'r blaen. 


Wrth ddangos y gwerthfawrogiad diwylliannol cynyddol o les ôl-raddedig, cyhoeddodd Student Minds, elusen iechyd meddwl, eu hadroddiad cyntaf ar les ac iechyd meddwl yn seiliedig ar raddedigion. Ystadegyn cysurus yw bod bron i 90% o raddedigion mewn cyflogaeth amser llawn y flwyddyn ar ôl iddynt raddio, fodd bynnag dim ond 55% oedd mewn cyflogaeth fedrus.


Yn y sefyllfa heriol hon lle mae datblygiadau i fywyd gweithio, y cynnydd mewn gweithio o bell a globaleiddio'r farchnad swyddi yn gwneud i’r posibiliadau cyflogaeth ôl-raddedig ymddangos yn ddiddiwedd ac yn llethol. Mae graddedigion o dan nifer sylweddol o bwysau i benderfynu; Beth i wneud nesaf?

Yn seiliedig ar y sefyllfa yma, dyma 3 thip wedi ei awgrymu gan raddedigion Prifysgol Aberystwyth am sut i hwyluso’r broses o feddwl am, beth i wneud ar ôl graddio?

 

1. Mynychu Gwasanaethau Prifysgol
Er na fyddech chi’n gorfforol yn y brifysgol, fyddech chi dal i fod yn rhan o’r gymuned a’r rhwydwaith cymorth sydd ar gael. Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn eich prifysgol medru darparu cyfoeth o adnoddau ac arbenigaeth am beth i wneud ar ôl graddio. Gallai hyn bod trwy gael sgwrs anffurfiol am eich sgiliau, rhoi cymorth wrth greu CV, darganfod profiad gwaith neu gynllunio llwybr gyrfa. Mae bron i bob prifysgol ar draws y wlad yn cynnig gwasanaeth gyrfa i'w graddedigion e.e.. Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu gwasanaeth gyrfaoedd am fywyd i gyn-fyfyrwyr gan gadw mewn cysylltiad â’r gymuned.

 

2. Defnyddio Adnoddau ar-lein 
Nid yw hi’n aml mae cyngor am les a rheoli straen yn argymell defnydd o gyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar lein. Ond, mae meddwl am grad schemes, cychwyn chwilio am swyddi neu hyd yn oed creu CV medru bod yn ofnus ac weithiau mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Er hynny, mae 'na nifer o wasanaethau ar gael ar lein i hwyluso’r broses, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth ar ben eich hunain.   
Isod mae rhestr o wefannau sy’n arbennig o dda ar gyfer ffeindio swyddi yn benodol i ol-raddedigion. Mae llawer ohonynt yn awgrymu swyddi, gyrfaoedd ac mae rhai yn danfon awgrymiadau swydd bersonol i chi yn dibynnu ar eich sgiliau a chymwysterau.

Bright network: Danfon awgrymiadau ac lincs i swyddi yn addas i’ch sgiliau. 
LinkedIn: Mae creu linkedIn yn ffordd dda i gael syniad o ba fath o bethau sydd ar gael, pwy sy’n gweithio yn y maes a pa fath o brofiad sydd ganddynt.  
Swyddle Cymru: Coladu swyddi sydd yn benodol trwy gyfrwng y Gymraeg.

 


3. Peidiwch â brysio 
Efallai y byddwch yn teimlo o dan bwysau gan ffrindiau, teulu, a hyd yn oed y gymdeithas i wneud penderfyniad parhaol am eich dyfodol nawr. Mae'n hawdd iawn cymharu'ch hun â'ch cyfoedion a theimlo'n annigonol. Ond cofio i ymbwyllo. Mae astudiaethau'n rhagweld y bydd gan bobl ifanc heddiw, ar gyfartaledd, 12-15 o swyddi yn ystod eu bywydau. Mae'r pwysau i ddewis un llwybr mewn bywyd a chadw ato yn afrealistig ac yn anghyraeddadwy ac nid oes angen rhuthro mewn i faes na swydd nad yr ydych chi’n angerddol dros. Cofia mai gennych chi'r asiantaeth a'r pŵer i wneud unrhyw beth rydych chi eisiau ac nid yw cymryd amser i feddwl am hynny yn fethiant.
 

 

Bethan Bushell, Myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth