Adeiladu rhwydwaith yn y brifysgol

Dysgwch am gamau y gallwch eu cymryd i adeiladu rhwydwaith cymdeithasol yn y
brifysgol.
Gall meddu ar rwydwaith cymdeithasol eang eich helpu chi i ffynnu yn y brifysgol.
Dydy hyn ddim yn golygu bod yn rhaid i chi ddod o hyd i ddwsinau o ffrindiau agos,
ond gallai fod o gymorth cael ystod o bobl i gysylltu â nhw mewn gwahanol ffyrdd.
Bydd trefniadau cymdeithasol gwahanol yn gweithio ar gyfer myfyrwyr gwahanol.
Dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith.
Saith cam i adeiladu eich rhwydwaith
1. Nodwch fannau lle y gallwch chi gwrdd â phobl
Nodwch yr holl fannau (ar-lein ac wyneb yn wyneb) lle y gallwch chi gwrdd â phobl:
mewn dosbarthiadau, clybiau a chymdeithasau a fforymau ar-lein. Bydd yr opsiynau
cymdeithasol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich prifysgol a'ch amgylchiadau
personol. Defnyddiwch wefan eich prifysgol i ddod o hyd i'r opsiynau ar-lein ac
wyneb yn wyneb sydd ar gael i chi.
2. Meddyliwch am strategaethau er mwyn bwrw ati
Meddyliwch sut y gallwch chi ddefnyddio'r mannau ar-lein a lleoedd wyneb yn wyneb
hyn i gwrdd â phobl eraill. Os ydych chi'n hyderus yn gymdeithasol, efallai y byddwch
chi'n hapus i fynd i'r amgylcheddau hyn, gan wybod y byddwch chi'n gallu cychwyn
sgwrs. Os nad yw'r hyder hwn gennych chi, cynlluniwch ambell i strategaeth sy'n
briodol i bob amgylchedd i'ch rhoi ar ben ffordd.
3. Ystyriwch sut i barhau sgyrsiau
Meddyliwch am sut y gallwch chi barhau sgyrsiau, y tu hwnt i'r lleoedd hyn. Allech
chi nodi un neu ddau o bobl yn y dosbarth a gofyn iddyn nhw gwrdd am goffi neu
fynd am dro? Neu wneud cais ar fforwm i drefnu cwrdd? Neu awgrymu bod grŵp o
bobl o'r un anian yn ymgymryd â hobi gyda'i gilydd?
4. Cynlluniwch ar sail eich diddordebau
Fel arall, efallai y byddwch am ddechrau drwy nodi'r mathau o bethau sy'n ennyn
eich diddordeb, neu'r mathau o bobl yr hoffech gwrdd â nhw. Yna gallwch chi nodi
ble yn y brifysgol y gallech chi gwrdd â nhw. Oes clwb, cymdeithas neu fforwm ar-
lein lle y gallech chi gwrdd â phobl o'r un anian â chi?
5. Ystyriwch wahanol agweddau ar eich bywyd
Neu efallai yr hoffech chi feddwl am eich bywyd fel myfyriwr mewn segmentau a
chwilio am bobl ar gyfer pob segment. Er enghraifft:
● Pobl y gallwch chi astudio gyda nhw
● Pobl y gallwch chi wneud chwaraeon gyda nhw
● Pobl y gallwch chi gael hwyl gyda nhw
● Pobl a allai helpu eich gyrfa
6. Ysgrifennwch eich cynllun neu tynnwch lun ohono
Rydych chi'n fwy tebygol o roi cynllun ar waith os ydych chi wedi ei roi ar bapur.
Unwaith y byddwch chi'n ei weld yn ysgrifenedig, byddwch chi hefyd yn gallu gweld a
oes bylchau yr hoffech chi fynd i'r afael â nhw.
7. Rhowch eich cynllun ar waith yn gyflym
Cyn gynted ag y bydd eich cynllun wedi'i gwblhau, cymerwch un neu ddau o
syniadau a gweithredwch arnyn nhw cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i
feithrin eich hyder ac i ddechrau sefydlu eich rhwydwaith yn gyflym.
Pethau eraill i'w hystyried
Nid oes rhaid i'ch rhwydwaith gynnwys myfyrwyr yn unig. Byddwch yn fodlon ystyried
cynnwys staff y brifysgol (megis eich tiwtor) neu gydweithwyr yn rhan o'ch
rhwydwaith.
Peidiwch â chwilio am yr unigolyn perffaith neu'r grŵp perffaith o bobl. Cofiwch,
rydych chi'n adeiladu rhwydwaith, ddim yn chwilio am yr un unigolyn sy’n berffaith i
chi. Mae pobl sy'n hwyl i fod o'u cwmpas yn rhan ddefnyddiol o'ch rhwydwaith, hyd
yn oed os nad ydych chi eisiau eu gweld nhw bob dydd.
Crëwyd yr erthygl hon gan Student Minds, yn wreiddiol ar gyfer Student Space. Gweler yr erthygl hon yn Saesneg ar eu gwefan - https://www.studentminds.org.uk/