8 peth i wneud i dawelu’r meddwl
Mae’n hawdd cael eich llethu gan holl heriau bywyd ar brydiau ac felly dyma 8 peth y gallech ei wneud i drio tawelu eich meddwl.
-
Ymwybyddiaeth ofalgar - ioga, myfyrio, ymarferion anadlu ac ymlaciol.
-
Tacluso - tacluso desg, tacluso ystafell wely, golchi llestri, dileu hen ffeiliau neu apiau.
-
Darllen ac ysgrifennu - cadw dyddiadur, ysgrifennu blog, ysgrifennu CV, darllen cylchgronau, nofelau neu lyfrau ffeithiol.
-
Cerddoriaeth - gwrando ar gerddoriaeth, canu, chwarae offerynnau cerdd, gwrando ar y radio.
-
Creu - arlunio, peintio, creu llyfr lloffion, collage, gwnïo, citiau crefft neu uwchgylchu
-
Dysgu - dysgu iaith newydd, rhoi cynnig ar rysáit coginio, gwneud posau, cwis ar-lein.
-
Ymarfer corff - cerdded, gwersi fideo ar YouTube, rhedeg.
-
Siarad - Facetime neu Skype gyda ffrind, trefnu noson deuluol, gwirfoddoli, defnyddio apiau gyda chymuned ar-lein.