Mae anorecsia (neu anorecsia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol lle mae pobl o dan eu pwysau oherwydd nad ydynt yn bwyta na’n yfed digon. Maen nhw weithiau’n creu “rheolau” o gwmpas beth y maen nhw’n teimlo sy’n iawn i’w fwyta neu beidio, a hefyd o ran pryd a ble i fwyta. Gall anorecsia effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu gefndir. Yn ogystal â bwyta llai, maen nhw hefyd weithiau’n gor-wneud ymarfer corff, yn gwneud i’w hunain chwydu neu’n camddefnyddio tabledi lacsatif i gael gwared ar fwyd a fwytawyd. Gall rhai pobl ag anorecsia hefyd ddioddef o’r cyflwr glwth-fwyta (bwyta gormod o fwyd ar y tro) cyn gwagio’r stumog wedyn.
Gall pwysau a siâp fod yn ffactor mawr yn nheimladau hunanwerth y person sydd ag anorecsia. Gall hyn wneud iddynt wirio eu corff yn rheolaidd, neu fel arall, ceisio osgoi’r drych a’r glorian. Mae’r ffordd y mae pobl ag anorecsia’n gweld eu hunain yn aml yn groes i’r ffordd y mae eraill yn eu gweld - mae ganddynt ddelwedd wyrdroëdig (distorted) ohonynt eu hunain yn aml ac yn meddwl eu bod yn fwy nag y maen nhw. Mae arnynt ofn dwfn o fagu pwysau ac fel arfer yn herio’r syniad y dylent fagu mwy o bwysau.
Weithiau nid yw’r symptomau efallai’n cyfateb yn union i bopeth y mae meddyg yn ei wirio i gadarnhau anorecsia – er enghraifft efallai bod eu pwysau’n “normal” i’w hoed, rhywedd a’u datblygiad disgwyliedig. Gan ddibynnu ar yr union symptomau, gallent gael diagnosis o anorecsia annodweddiadol neu anhwylder bwyta penodedig o fath arall.
Gall anorecsia achosi problemau corfforol difrifol oherwydd effaith llwgu ar y corff. Gall arwain at golli cryfder cyhyrau a lleihau cryfder yr esgyrn. Gall stopio'r misglwyf mewn merched a ddechreuodd gael y misglwyf. Gallai eu hysfa i gael rhyw (libido) hefyd leihau. Gall y salwch effeithio ar berthynas y person â theulu a ffrindiau, gan wneud iddynt gilio; gall hefyd effeithio ar eu gwaith neu addysg. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, mae anorecsia’n gysylltiedig weithiau ag iselder, hunanwerth isel, goryfed alcohol a hunan-niwed. Yn aml iawn nid yw difrifoldeb canlyniadau corfforol ac emosiynol y cyflwr yn cael ei adnabod na’i gydnabod ac nid yw dioddefwyr yn gofyn am gymorth yn aml ychwaith - maen nhw’n ceisio cuddio eu hymddygiad oddi wrth deulu a ffrindiau ac weithiau ddim yn sylweddoli eu bod yn sâl.
Mae anorecsia mewn plant a phobl ifanc yn debyg i’r cyflwr mewn oedolion o ran ei nodweddion seicolegol. Ond gallai plant a phobl ifanc, yn ogystal â phwyso’n isel, hefyd fod yn fyrrach nag eraill o’r un oed, ac yn fwy araf i ddatblygu’n gorfforol.
Mae nifer o arwyddion anorecsia ond nid oes raid i rywun ddangos pob un i fod yn dioddef ohono. Nid yw’n amlwg bob tro bod gan rywun anhwylder bwyta – rhaid cofio mai salwch meddwl ydyw. Os ydych yn poeni o gwbl amdanoch eich hun neu rywun arall, hyd yn oed os dangosir ond rhai o’r arwyddion ar y dudalen hon, y peth gorau bob tro yw gofyn am gymorth cyn gynted â phosib i gael y siawns orau o wella’n llwyr. Y cam cyntaf fel arfer yw gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu.
Os yw rhywun yn dechrau cael anorecsia, mae rhywun yn aml yn sylwi ar newidiadau ymddygiad cyn y newidiadau corfforol. Mae’r arwyddion yn cynnwys:
Salwch meddwl yw anorecsia a byddwch efallai’n sylwi ar newid mewn teimladau, ynoch chi neu’r person yr ydych yn eu hadnabod, cyn i’r symptomau corfforol ddod yn amlwg. Gall arwyddion seicolegol gynnwys:
Mae llwgu’n effeithio ar holl organau’r corff, gan gynnwys yr ymennydd a meinwe’r cyhyrau. Mae pobl ag anorecsia nerfosa’n aml yn dangos arwyddion corfforol o lwgu, gan gynnwys:
Fel unrhyw anhwylder bwyta, gall anorecsia achosi effeithiau corfforol hirdymor sy’n gallu bod yn barhaol, gan gynnwys: