Mae bwlimia (neu bwlimia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol. Gall effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu gefndir. Mae pobl gyda bwlimia wedi eu dal yn gaeth mewn cylch o fwyta gormod o fwyd ar y tro (‘glwth-fwyta’) ac yna ceisio gwneud yn iawn am y ‘glwth-fwyta’ drwy chwydu, cymryd tabledi lacsatif neu ddiwretig, ymprydio neu orwneud ymarfer corff. Trin y cyflwr cyn gynted â phosib sy’n cynnig y siawns orau o wella’n llwyr ac yn gyflym o fwlimia.
Mae’n normal i bobl nad ydynt yn dioddef o anhwylder bwyta ddewis bwyta ychydig yn fwy neu ‘orfwyta’ ar adegau. Ni ddylid drysu rhwng hyn a ‘glwth-fwyta’. Mae glwth-fwyta’n aml yn ffordd o ymdopi ag emosiynau anodd; gall rhywun deimlo eu bod yn cael eu gyrru i lwth-fwyta os ydyn nhw’n teimlo dan straen, yn ypset neu’n flin, er enghraifft. Yn ystod glwth-fwyta, nid yw pobl gyda bwlimia’n teimlo bod ganddynt reolaeth o faint neu ba mor gyflym y maen nhw’n bwyta. Mae rhai hefyd yn dweud eu bod yn teimlo’n hollol ddigyswllt o’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Gall y bwydydd a fwyteir yn ystod glwth-fwyta gynnwys rhai y byddai’r person fel arfer yn eu hosgoi.
Mae glwth-fwyta’n aml yn drallodus iawn i’r person, sydd wedi eu dal yn gaeth mewn cylch o lwth-fwyta a gwagio’r stumog. Mae pobl gyda bwlimia’n rhoi pwyslais cryf ar eu pwysau a’u siâp ac yn gweld eu hunain yn llawer mwy nag y maen nhw.
Gall y cylch glwth-fwyta / gwagio’r stumog sy’n gysylltiedig â bwlimia amharu’n ddrwg ar fywyd pob dydd a chreu trafferthion perthynas a chymdeithasol. Gall bwlimia greu cymhlethdodau corfforol difrifol hefyd – gall chwydu’n aml arwain at broblemau dannedd a gall pobl fynd i bob math o drafferth i wneud i’w hunain chwydu gan achosi niwed iddynt eu hunain. Gall tabledi lacsatif gael effaith ddifrifol ar y galon a’r system treulio bwyd. Gall pobl gyda bwlimia hefyd brofi symptomau fel gorflino, stumog wedi chwyddo, teimlo’n rhwym, poen bol, misglwyf anghyson neu draed a dwylo wedi chwyddo.
Fodd bynnag, oherwydd bod dioddefwyr yn aml gyda phwysau “normal” ac yn cuddio eu salwch oddi wrth eraill, gall fod yn anodd iawn sylwi arno o’r tu allan. Ac mae pobl gyda bwlimia’n aml yn gyndyn iawn o ofyn am help. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, bydd rhywun sydd o gwmpas person gyda bwlimia’n sylwi ar newid hwyliau a theimladau cyn gweld newid corfforol yn aml. Gall y dioddefwr hefyd orfeddwl a bod yn ddirgel am fwyd a theimlo’n ddihyder am fwyta o gwmpas pobl eraill. Mae hunan-werth isel, hwyliau anghyson, bod yn bigog a theimlo cywilydd, yn euog a gorbryderus, yn enwedig ar ôl glwth-fwyta, hefyd yn gyffredin.
Os nad yw symptomau person yn cyfateb yn union i’r holl feini prawf a ddefnyddir i roi diagnosis o fwlimia – er enghraifft os nad yw’r glwth-fwyta / gwagio’r stumog yn digwydd mor aml ag y byddid yn ei ddisgwyl – gallai diagnosis o anhwylder bwyta penodedig o fath arall (OFSED) fod yn berthnasol iddynt. Mae OFSED yr un mor ddifrifol ag unrhyw anhwylder bwyta arall ac mae’r un mor bwysig bod dioddefwyr yn derbyn triniaeth mor gyflym â phosib ar ei gyfer.
Os yw rhywun yn dechrau cael bwlimia, mae rhywun yn aml yn sylwi ar newidiadau ymddygiad cyn y newidiadau corfforol. Mae’r arwyddion yn cynnwys:
Gall bwlimia wneud difrod mawr i’r corff. Mae effeithiau hirdymor bwlimia’n cynnwys:
Heb ei drin, gall bwlimia nerfosa achosi niwed hirdymor i’r corff a gall hyd yn oed fod yn farwol. Fodd bynnag, gyda’r driniaeth iawn mae’n bosib gwrthdroi llawer o effeithiau corfforol bwlimia neu eu hatal rhag gwaethygu, a gellir trin anhwylderau bwyta a gwella’n llwyr ohonynt.
Mae nifer o wahanol resymau dros ddatblygu bwlimia a gall amryw o ffactorau gyfrannu ato. Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd ei hun, a dylai triniaeth drafod y meddyliau a’r teimladau sydd wrth wraidd yr ymddygiad.
Gall bwlimia effeithio ar bobl o bob oed er ei fod yn aml yn datblygu yn ystod yr arddegau cynnar neu ymhlith oedolion ifanc. Mae hefyd yn bosib i rywun symud rhwng gwahanol ddiagnoses os yw eu symptomau’n newid ac mae gwahanol anhwylderau bwyta’n gorgyffwrdd yn aml. Gall bwlimia ddatblygu o anhwylder bwyta arall, neu gall y symptomau newid i fod yn debycach i symptomau anhwylder bwyta arall. Os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu rywun arall, hyd yn oed os oes ond rhai o’r arwyddion yn bresennol, dylech ofyn am gymorth yn syth i gael y siawns orau o wella’n llwyr. Y cam cyntaf fel arfer yw gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu.