Mae yfed alcohol yn ran annatod o fywyd cymdeithasol i nifer o fyfyrwyr, ac yn cael ei gysylltu fel rhan o'r hwyl o fod yn y brifysgol. Ond os ydych yn poeni faint o alcohol rydych yn ei yfed, y sgil effeithiau ar eich iechyd meddwl a lles neu efo patrwm o or-yfed alcohol yn rheolaidd, gall y wybodaeth isod fod o gymorth. Yn gynyddol defnyddir y term Anhwylder Defnyddio Alcohol, oherwydd stereoteipio negyddol y term alcoholig. Mae'n bwysig cael cyngor meddygol proffesiynol os ydych yn poeni am eich defnydd o alcohol, ac yn ystyried torri lawr neu stopio yfed yn gyfan gwbl. Os oes batrwm o ddibyniaeth wedi bod am amser hir, mae'n bwysig derbyn cyngor a chefnogaeth ar sut i ddadwenwyno (neu 'detox') mewn modd diogel.