Hunan-ofal
Hunan-drugaredd yw’r agwedd sy’n sail i bob strategaeth arall i drechu iselder, a gellir ei ddiffinio’n syml fel rhoi sylw i anghenion corfforol, ysbrydol ac emosiynol pobl eraill, ac yn enwedig ein hunain. Os gallwn ddysgu trin ein hunain yn garedig a chynnal ein hunain drwy ein brwydrau, yna bydd popeth arall yn llawer haws!
Ai chi yw eich gelyn pennaf eich hun? Mae iselder heb ryw gymaint o ‘hunan-fwlio’ yn beth prin iawn. Mae iselder yn fwli, ac mae’n manteisio ac yn cadarnhau’r arfer o hunan-fwlio. I drechu iselder, rhaid i chi fynd i’r afael â’ch bwli mewnol! Mae hunan-drugaredd yn rhywbeth y gallwch ei ddysgu a’i ymarfer heb orfod ei ‘gredu’ i ddechrau - gallwn hyfforddi ein meddyliau i ddod â mwy o drugaredd i’n holl feddyliau a’n teimladau.
Sylweddoli
Yn gyntaf mae angen i chi sylweddoli faint o hunan-fwli y gallwch fod, oherwydd rydym yn gwneud hyn yn aml iawn heb sylweddoli hynny. Treuliwch ddiwrnod, neu wythnos hyd yn oed, yn ysgrifennu’r pethau rydych yn eu dweud wrth eich hun fel rhan o’ch sylwebaeth fewnol pan fyddwch yn teimlo’n isel. Ysgrifennwch y cyfan yn union fel rydych yn siarad â’ch hun, gyda'r geiriau rydych yn eu defnyddio – y galw enwau, yr hunan-feio, y feirniadaeth o bethau penodol rydych yn eu gwneud – popeth! Hefyd gwnewch nodyn o’r cywair rydych yn ei ddefnyddio â’ch hunan. Gallai fod yn ddiddorol clywed a ydych yn swnio’n debyg i rywun penodol o’ch gorffennol (rhiant neu athro beirniadol, er enghraifft).
Ysgrifennwch yr ymadroddion rydych yn eu defnyddio amlaf tuag at eich hun – mae rhai enghreifftiau cyffredin iawn yn cynnwys “truenus”, “diwerth”, “methiant”, neu maent yn aml yn rhoi pwyslais ar ryw fath o gymhariaeth negyddol o’ch hun â phawb arall.
Gwerthuso
Edrychwch yn awr ar yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu, a gofynnwch a fyddech chi byth yn siarad felly â rhywun arall sy’n bwysig i chi, yn enwedig os oedd yr unigolyn hwnnw’n teimlo’n isel - annhebygol! Efallai eich bod yn teimlo bod eich llais beirniadol yn ceisio eich ‘helpu’ - i’ch cadw’n ddiogel neu i’ch helpu i wella fel person - ond mae’n bwysig sylweddoli pa mor aneffeithiol yw gwneud hynny mewn ffordd mor llym, hunanfeirniadol. Byddai bod yn garedig a cheisio annog eich hun yn llawer mwy effeithiol.
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol
Edrychwch i weld a allwch chi newid y cywair a’r geiriau rydych yn eu defnyddio pan fyddwch yn siarad â’ch hun – meddyliwch sut y byddai rhywun arall yn siarad â chi pan fyddwch yn teimlo’n isel, rhywun sy’n hoff ohonoch, sy’n eich derbyn, ac sy’n garedig a thyner tuag atoch bob amser. Gallwch ei ymarfer drwy ei ysgrifennu. Gall deimlo’n rhyfedd ac annaturiol ar y dechrau, os ydych wedi arfer siarad â’ch hun mewn ffordd gas, a dyma’r math o beth fydd yn rhaid i chi ei drin fel ymarferiad academaidd i ddechrau.