Mae'r wybodaeth hon ar gyfer ffrindiau a theulu rhywun sydd wedi cael diagnosis sgitsoffrenia.
Os oes gan rywun yn agos atoch sgitsoffrenia, gall fod yn anodd gwybod sut i helpu, ond mae llawer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt.
Gofynnwch pa help fyddai'n ddefnyddiol iddyn nhw. Gallai hyn gynnwys helpu gyda phethau bob dydd fel siopa neu waith tŷ, mynd â nhw i apwyntiadau neu eu hatgoffa i gymryd eu meddyginiaeth os ydynt yn cael trafferth cofio ar eu pen eu hunain.
Gweler ein tudalen ar sut i helpu rhywun ag anhwylder sgitsoaffeithiol, sy'n debyg i sgitsoffrenia, am gyngor mwy ymarferol.
Mae’n bosibl na fydd pobl sy’n profi sgitsoffrenia yn sylweddoli eu bod yn sâl nes eu bod yn cael triniaeth. Gall fod yn anodd perswadio rhywun i weld meddyg os nad yw'n dymuno gwneud hynny, neu os nad yw'n meddwl bod unrhyw beth o'i le.
Mae ein gwybodaeth ar gefnogi rhywun arall i geisio cymorth gyda phroblem iechyd meddwl yn cynnwys rhai awgrymiadau ar bethau y gallech roi cynnig arnynt.
Efallai y byddwch chi'n teimlo'n ansicr beth i'w ddweud neu ei wneud pan fydd rhywun yn gweld neu'n credu rhywbeth nad ydych chi'n ei weld – ond mae'n bwysig cofio bod eu profiadau'n teimlo'n real iddyn nhw.
Gall fod o gymorth os ydych chi'n canolbwyntio ar sut maen nhw'n teimlo, yn hytrach na siarad am yr hyn sy'n real neu'n wir.
Yn hytrach na gwadu eu profiad gall fod o gymorth i ddweud rhywbeth fel:
"Mae hynny'n swnio'n frawychus iawn, a oes rhywun y galli di drafod y peth gyda nhw?".
"Os bydd rhywun yn troi rownd ac yn dweud nad yw'n real, mae'n gwneud i chi deimlo'n fwy unig nag erioed."
Gall fod yn anodd gweld rhywun sy'n agos atoch yn profi sgitsoffrenia. Efallai y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd meddwl yn glir, cael trafferth deall beth sy’n real, rhoi’r gorau i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu osgoi gweld pobl.
Ceisiwch sylwi ar bethau cadarnhaol hefyd. Gall helpu i osod nodau bach, realistig i anelu atynt yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allant ei wneud. Mae hefyd yn bwysig cofio bod colli diddordeb a chymhelliant yn rhan o gael sgitsoffrenia ac nad yw’n rhywbeth y mae'r person yn dewis ei wneud.
Gallai fod o gymorth i ddysgu am y symptomau y gallan nhw fod yn eu profi a'r strategaethau ymdopi a allai fod yn ddefnyddiol iddynt. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen straeon personol neu siarad ag eraill yn yr un sefyllfa. Gweler ein tudalen cysylltiadau defnyddiol am sefydliadau a all helpu gyda hyn.
Os ydych yn gofalu am rywun â sgitsoffrenia, dylech allu siarad â'u meddyg, tîm gofal neu weithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'u gofal.
Hyd yn oed os nad yw rhywun eisiau i fanylion meddygol gael eu rhannu gyda chi, dylai fod yn bosibl i chi ofyn am gyngor a gwybodaeth. Dylent hefyd drafod eich anghenion fel gofalwr gyda chi.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi feddwl pa gwestiynau yr hoffech eu gofyn yn benodol. Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) restr ar gyfer aelodau o'r teulu a gofalwyr o gwestiynau defnyddiol i'w gofyn i feddygon am sgitsoffrenia.
Pan fydd eich ffrind neu berthynas yn teimlo’n dda, gall fod yn ddefnyddiol trafod gyda nhw sut y gallwch chi helpu os bydd argyfwng yn digwydd, neu os ydyw ar ddechrau pwl arall. Fe allech chi:
Gall hyn eu helpu i osgoi argyfyngau neu eu rheoli'n wahanol yn y dyfodol lle bo modd. Wrth gael y sgyrsiau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn meddwl faint y gallwch chi ymdopi ag ef a cheisiwch gynnig dim ond y cymorth y teimlwch y gallwch ei roi. Mae'n bwysig gofalu amdanoch chi'ch hun hefyd.
Am ragor o wybodaeth gweler ein tudalennau ar gynllunio ar gyfer argyfwng, helpu rhywun arall i gael cymorth, eiriolaeth a phenderfyniadau ymlaen llaw.
“Unig, dryslyd, ynysig, ofnus, rhagfarn yn eu herbyn. Dyna sut mae aelodau'r teulu'n teimlo."
Gall fod yn ofidus pan fydd rhywun yr ydych yn agos ato yn profi symptomau sgitsoffrenia. Mae'n bwysig buddsoddi egni i ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol cael cefnogaeth i ymdopi â'ch teimladau, naill ai trwy gefnogaeth cyfoedion, lle gallwch drafod â phobl eraill â phrofiadau tebyg, neu therapi siarad a chwnsela. Gall y cymorth hwn fod ar gael mewn grŵp Mind lleol neu grwpiau gofalwyr eraill, megis Carers UK.