Sut i astudio
Mae ffordd pawb o ‘stydio yn wahanol ac felly dyma 10 tip i chi drio wrth fynd ati i neud eich gwaith gan Heledd myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth. Rhowch gynning arnynt a gweld be sydd yn gweithio orau ar eich cyfer chi!
-
Un ffordd dda o gael trefn ar adolygu yw gwneud rhestr ‘beth sydd angen ei wneud’ ac o hynny gweithio drwy ‘beth sydd angen cael ei wneud’.
-
Defnyddiwch ddigon o liw wrth wneud nodiadau – mae amrywiaeth yn bwysig!
-
Post-it notes er mwyn nodi'r pethau pwysicaf.
-
Cardiau Fflach pob tro yn ddefnyddiol ar gyfer profi eich hun.
-
Gwneud map meddwl o’r pethau pwysicaf.
-
Posteri er mwyn ceisio rhoi'r holl wybodaeth ar un daflen a gwneud y nodiadau yn fwy deniadol!
-
Yfwch ddigon er mwyn eich cadw i fynd!
-
Mae cael torriad pob tro yn help – ond dim gormod ohonynt!
-
Gwnewch amserlen – ffordd dda o drefnu eich diwrnod!
-
Gofynnwch i ffrind/aelod o deulu eich profi!