Nid oes llawer o bobl sy’n mwynhau siarad am farwolaeth, ac mae llawer yn teimlo’n anghyfforddus bod gyda rhywun sydd wedi profi profedigaeth, hyd yn oed os ydynt yn ffrind da neu gydweithiwr agos. Rydym eisiau helpu, ond yn ofni dweud y peth anghywir. Weithiau mi all hynny wneud inni osgoi cysylltu â hwy, a chyn hir mi fydd yn teimlo’n rhy hwyr i ddweud dim byd.
Ochr yn ochr â’n hansicrwydd ynglŷn â sut y dylem adweithio i brofedigaeth, mae’r ffaith bod pobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn llai tebygol o lawer o gael help gan ffrindiau a theulu, ac ychydig iawn o wasanaethau cymorth i rai mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad sydd ar gael yn y wlad.
Rydym yn gobeithio y bydd yr arweiniad byr hwn yn gwneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus i estyn llaw at rywun sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad.
Tybir mai colli anwylyn drwy hunanladdiad yw un o’r profiadau mwyaf anodd ac unig y gall neb ei brofi.
Gall pob math o alar a cholled achosi tristwch, dicter, pryder neu ddiffrwythdra, ond mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd wedi profi profedigaeth drwy hunanladdiad yn cael teimladau dwys o gywilydd, cyfrifoldeb ac euogrwydd o’u cymharu â phobl mewn profedigaeth drwy farwolaethau sydyn eraill.
Mae cryn stigma ynghlwm wrth hunanladdiad a phroblemau iechyd meddwl. Mae pobl sydd wedi colli rhywun drwy hunanladdiad yn aml yn disgrifio sut mae eu ffrindiau’n eu hosgoi, neu’n gwneud sylwadau beirniadol a negyddol am y sawl sydd wedi marw, sy’n gallu bod yn boenus iawn.
Mi all fod yn syndod bod y sawl a fu farw wedi bod yn meddwl am hunanladdiad, neu fod ganddynt hanes o deimlo’n isel. Hyd yn oed os oedd yr unigolyn wedi sôn am hunanladdiad, mae’r farwolaeth ei hun yn debygol o fod wedi bod yn ddychrynllyd.
Yn aml ar ôl hunanladdiad bydd diddordeb mawr ymhlith pobl yn y gymuned leol a’r cyfryngau. Gall hyn ei gwneud yn anodd iawn i alaru’n breifat.
"Roeddwn yn teimlo nad oedd neb eisiau gwybod."
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, o geisio cymryd eu bywyd eu hunain, ac o hunanladdiad.
Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn cael anhawster ymdopi yn eu gwaith neu addysg. Mae sawl rheswm posibl am hyn. Gall ffactorau a all fod wedi cyfrannu at benderfyniad yr unigolyn i farw drwy hunanladdiad, fel problemau ariannol, incwm isel, ansefydlogrwydd mewn gwaith neu berthynas, neu ddiffyg help, fod yn wir hefyd yn achos y sawl sydd wedi’i gadael ar ôl, yn enwedig pan fydd baich galar ar ben hynny i gyd. Gall amgylchiadau eraill bywyd wneud i bobl deimlo’n fwy agored i niwed.
Credir fod profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn effeithio ar tua hanner y boblogaeth gyffredinol. Gall hunanladdiad gael effaith sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r teulu agos. Mae astudiaethau’n awgrymu bod rhwng 10 a 60 o bobl yn cael eu heffeithio gan bob hunanladdiad. Penderfyniad pawb yw penderfynu a ydynt yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys yn y rhif hwnnw. Nid yw dyfnder perthynas yn amlwg bob amser, ac nid yw cael eich effeithio’n wahanol yn golygu llai o effaith. Mae pobl yn aml yn uniaethu â hunanladdiad oherwydd rhywbeth roedd ganddynt yn gyffredin â’r sawl a fu farw, fel cefndir tebyg neu’r un cysylltiad â lle arbennig. Gall rhieni uniaethu â hunanladdiad os oes ganddynt blentyn sydd yr un oed. Gall rhywun gael ei ysgwyd gan hunanladdiad hen ffrind nad ydynt wedi’i weld ers degawdau, ffrind ar-lein nad ydynt erioed wedi cwrdd â hwy, neu ddieithryn.
Gall hunanladdiad amlygu agweddau cudd ar fywyd unigolyn fel hanes o hunan-niweidio neu ymdrechion i ladd eu hunain yn y gorffennol, problemau yn y gwaith neu ysgol, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, problemau ariannol, perthnasoedd anhapus, neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth heb gyngor meddygol. Gall y rhain ddod i’r amlwg drwy berthnasau eraill neu ffrindiau’r ymadawedig, yn ystod cwest, a gall hynny gael sylw yn y wasg.
Gall hunanladdiad fod yn ymateb i unrhyw gyfuniad o amgylchiadau anodd, gan gynnwys perthynas yn chwalu, colli swydd, a phryderon ariannol. Efallai na fydd dim rhesymau sylfaenol. Credir fod gan lawer o bobl sy’n lladd eu hunain iselder a oedd neu nad oedd yn hysbys neu salwch meddwl arall, a gall nifer o ffactorau gyfrannu at ddatblygiad problemau iechyd meddwl.
Mae teimlo’n euog neu eisiau atebion yn adweithiau cyffredin, a gall rhoi lle i’r sawl sydd mewn profedigaeth i siarad am yr hunanladdiad eu helpu i ddygymod. Gall olygu gorfod gwrando ar yr un peth dro ar ôl tro, ond gall hyn fod yn therapiwtig i’r sawl sy’n galaru. Nid yw’n briodol fel arfer i ddyfalu ynghylch bai, ac nid yw hunanladdiad yn golygu nad oedd y sawl a gymerodd eu bywyd yn caru nad yn malio am y rhai a adawyd ar ôl.
Mae pobl sy’n lladd eu hunain yn aml yn ceisio rhoi diwedd ar boen emosiynol maent yn ei deimlo y tu mewn iddynt ac sydd mor fawr a real â phoen corfforol. Yn aml nid ydynt eisiau marw o reidrwydd, ond eisiau rhoi diwedd ar y teimladau annioddefol. Drwy gadw hyn mewn cof, mae’n bwysig peidio â beirniadu’r sawl sydd wedi marw.
Nid oes terfyn amser ar alar, ac nid yw treigl amser yn datgan sut y dylai rhywun deimlo. Mae galar yn mynd a dod mewn tonnau yn dilyn llwybr pendant, felly gall ailadrodd y syniad bod ‘Amser yn gwella’ fod yn gamarweiniol, gall ddiystyru teimladau a gwneud i bobl deimlo’n waeth. Gall pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad deimlo dan bwysau i ‘symud ymlaen’, sydd wedyn yn eu gorfodi i guddio’u teimladau. Mae rhai pobl yn disgrifio galar fel bod mewn twll du, neu fethu gris. Nid yw byth yn diflannu ond mae bywyd yn canfod ffordd i addasu.
Mae galar yn rhywbeth unigol nad yw o reidrwydd yn cyd-fynd â phersonoliaeth arferol rhywun. Gall hwyliau rhywun newid yn sydyn iawn ac mi all newid yn sydyn iawn rhwng eisiau bod ar eu pen eu hunain a bod eisiau cwmni.
Efallai nad oes neb arall wedi cynnig help iddynt, neu nid ydynt yn gwybod lle i chwilio am help. Byddwch yn garedig ac estynnwch law fel eu bod yn gwybod eich bod yn meddwl amdanynt os byddant eich angen.
Bydd pobl yn parhau i fyw â’u galar am wythnosau, misoedd a blynyddoedd.
Efallai y byddwch yn teimlo’n amharod i gysylltu, gan feddwl “Nid wyf yn ffrind mor agos â hynny”, “Nid wyf wedi ei weld ers blynyddoedd,” “Ni fyddaf yn deall y sefyllfa” neu “Mae ganddi bobl eraill i’w helpu.” Weithiau daw’r help sy’n cael ei werthfawrogi fwyaf o’r cyfeiriad mwyaf annisgwyl.
Peidiwch â meddwl eich bod yn llai o help i ffrind sy’n galaru am nad oeddech yn adnabod y sawl sydd wedi marw. Er bod pobl sy’n galaru am yr un person yn aml yn ceisio helpu ei gilydd, gall profedigaeth hefyd greu rhaniadau o fewn teuluoedd a rhwng ffrindiau.
Mae’n naturiol i deimlo’n anghyfforddus neu i boeni am bechu rhywun, ond bydd cadw’n dawel neu anwybyddu rhywun ar ôl eu profedigaeth wneud iddynt deimlo’n waeth. Yn aml mae’n well dweud rhywbeth na dweud dim. Bydd treulio amser â’r sawl sydd wedi cael profedigaeth yn rhoi syniadau i chi o’r hyn allai eu helpu.
Yn union fel y mae gwahanol ffyrdd o alaru, mae’n well gan bobl i chi gysylltu â hwy mewn rhai ffyrdd yn fwy na’i gilydd ar ôl colled. Gall cael negeseuon testun rheolaidd fod yn haws i’w rheoli na galwadau ffôn. Efallai y byddent yn gwerthfawrogi pe baech yn galw i’w gweld, neu efallai y byddai hynny’n anghyfleus, Mae’n werth gofyn iddynt beth sydd orau ganddynt hwy.
Gall meddwl am gysylltu â phobl neu ddychwelyd galwadau a negeseuon deimlo’n llethol weithiau i rywun sydd mewn galar. Gall cur pen oherwydd tensiwn a diffyg cwsg ei gwneud yn anodd i edrych ar sgrin cyfrifiadur neu ffôn. Mae teimlo’n euog am beidio cydnabod negeseuon yn faich ychwanegol i rywun sy’n galaru. Gadewch iddynt wybod nad ydych yn disgwyl iddynt ddychwelyd galwadau, ac efallai y gallwch ddod i gytundeb fel eu bod yn cysylltu â chi bob ychydig o wythnosau. Os ydych chi’n rhan o grŵp o ffrindiau, gallech ofyn i un person fod yn gyfrifol am ddweud bod negeseuon wedi’i derbyn a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
“Gwnewch alwad a dywedwch fy mod yno bob amser os ydych eisiau mynd allan, neu eisiau siarad, neu ddim ond eisiau rhywun i afael yn eich llaw.”
“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig rhoi’r cyfle iddynt i siarad â rhywun, heb wneud iddynt deimlo bod yn rhaid iddynt siarad â chi os nad ydynt yn teimlo fel gwneud, a bod hynny’n iawn! Mae’n fater o gydbwyso.”
Ceisiwch roi gofod i’r sawl sydd mewn galar i agor eu calonnau os ydynt yn dymuno, ond ar yr un pryd byddwch yn sensitif os nad ydynt am fynd ymhellach. Gellir helpu’r sgwrs drwy ddefnyddio cwestiynau gweithredol fel:- Beth yw eich hoff atgof o [enw’r sawl sydd wedi marw]? - Disgrifiwch adeg pan oedd [enw’r sawl sydd wedi marw] wedi gwneud i chi chwerthin?
Mae help gyda phethau o ddydd i ddydd yn aml yn cael ei werthfawrogi. Yn hytrach na gofyn “A oes yna rywbeth alla i ei wneud?” ceisiwch wneud awgrymiadau penodol. Gall help gyda gofal plant, mynd â’r ci am dro, coginio, gwaith papur, ateb galwadau ffôn neu fynd gyda rhywun i apwyntiadau gael ei werthfawrogi.
Gall gymryd amser hir i brosesu marwolaeth fel hon. Rhowch amser a gofod iddynt i deimlo beth bynnag mae angen iddynt ei deimlo am gyhyd ag y bydd ei angen. Hefyd gadewch iddynt chwilio am eiriau neu ailadrodd eu hunain yn hytrach na cheisio eu ‘symud ymlaen’.
Gwrandewch yn hytrach na chynnig atebion
Mae galar yn gyflwr o emosiynau i’w helpu, yn hytrach na phroblem i’w datrys, Wrth gynnig cydymdeimlad mae’n well peidio â thybio bod cysuron bychain yn helpu, fel “o leiaf nid chi oedd yr un a ddaeth o hyd iddo …”
Mae llawer o bobl yn gwneud y camgymeriad o feddwl y dylent osgoi sôn am y sawl sydd wedi marw rhag ofn iddynt wneud y galar yn waeth. Nid ydych yn debygol o fod yn eu ‘hatgoffa’ o’u colled gan y byddant yn byw â hynny bob dydd. I rywun mewn profedigaeth, gall deimlo bod y sawl sydd wedi marw wedi ei ddileu o gof pobl eraill, neu eu bod yn cael eu cysylltu â thristwch, poen a sut y buont farw yn unig. Gall y cyfle i rannu stori hapus neu ddigrif fod yn gysur mawr.
Mae adegau penodol o’r flwyddyn, fel penblwyddi, gwyliau cyhoeddus a phen blwyddi priodas yn gallu bod yn anodd i rywun sydd wedi cael profedigaeth. Bydd gwneud nodyn yn eich dyddiadur yn eich atgoffa i gysylltu â hwy ar yr adegau hyn.
Efallai na fydd rhai ffrindiau’n gwybod am y farwolaeth, felly meddyliwch sut yr ydych am roi’r newyddion iddynt, a chytunwch ar yr hyn rydych am ei rannu, a gyda phwy. Cymerwch yn ganiataol y bydd pobl a fydd yn clywed gennych eisiau siarad, neu ofyn cwestiynau, a cheisiwch fod ar gael. Byddwch yn arbennig o sensitif tuag at bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, neu sydd wedi profi profedigaeth o’r blaen, yn enwedig drwy hunanladdiad, a chofiwch efallai na fyddwch yn gwybod pwy sydd wedi’u heffeithio felly. Byddwch yn ofalus beth ydych chi’n ei rannu ar-lein. Mae’n well gan rai pobl beidio clywed am farwolaeth ffrind ar gyfryngau cymdeithasol. Os yw’n ymddangos bod clywed y newyddion ar-lein wedi achosi trallod i rywun, dylech eu trin yn yr un ffordd ag y byddech wyneb yn wyneb.
Gall y wasg roi sylw i’r hunanladdiad at adeg y farwolaeth ac yn y cwest, a all fod wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach, felly byddwch yn barod i helpu rhywun os byddwch yn gweld sylw yn y cyfryngau. Os ydych chi’n teimlo bod manylion diangen wedi’u cynnwys am y lleoliad, y dull, cynnwys nodyn hunanladdiad, neu ddyfalu am y rhesymau, yna gallech ystyried rhoi gwybod i’r Samariaid, gan ei bod yn bosibl bod y sylw’n mynd yn groes i’r canllawiau.
Wrth gyfeirio at hunanladdiad, defnyddiwch dermau fel “wedi marw drwy hunanladdiad” neu “wedi cymryd ei fywyd ei hun.” Mae’r ymadrodd cyffredin “cyflawni hunanladdiad” yn dyddio o’r cyfnod pan oedd hunanladdiad yn drosedd. Ewch ati i herio’n gwrtais y bobl sy’n cwyno bod hunanladdiadau cyhoeddus yn amharu arnynt. Ceisiwch beidio â chefnogi portreadau yn y cyfryngau, rhai ffuglennol neu real, sy’n hyrwyddo neu’n gwneud i hunanladdiad ymddangos yn gyfareddol.
“Byddwch yn feddwl agored a gweld sut mae’r unigolyn yn teimlo.”
Gall cwestiynau am yr union leoliad, y dulliau a ddefnyddiwyd, neu gynnwys nodyn ymddangos fel arwydd o chwilfrydedd morbid yn hytrach na chydymdeimlad. Gall hefyd roi’r teimlad bob pobl eraill yn mân siarad am yr hunanladdiad. Gadewch i’r sawl sy’n galaru awgrymu wrthych a fyddai’n eu helpu i drafod y manylion.
Gallai awgrymu esboniadau am yr hunanladdiad wneud iddynt deimlo eu bod hwy ar fai, yn enwedig os oes sylw’n cael ei roi i ffraeo neu anghytuno a fu yn y gorffennol rhyngddynt â’r sawl sydd wedi marw. Mae perygl hefyd y gallai hynny or-symleiddio’r hyn sy’n achosi hunanladdiad, a rhoi’r argraff bod hunanladdiad yn anochel. Ar y cyfan, ceisiwch osgoi unrhyw dybiaethau. Byddwch yn ofalus i beidio annog bai drwy ddweud pethau “Dwi’n siŵr eich bod yn teimlo mor euog”.
Ar ôl anhrefn hunanladdiad, mae llawr o bobl mewn profedigaeth yn chwilio am gysur yn y pethau cyfarwydd. Gallwch eu helpu i gadw elfen o normalrwydd drwy gyfathrebu yn yr un ffordd ag yr ydych yn arfer ei wneud. Os na allwch ddelio â sgwrs am hunanladdiad, peidiwch â gohirio’r peth neu wneud esgusodion rhag gweld y sawl sydd mewn profedigaeth, sy’n dangos yn amlwg iddynt eich bod yn eu hosgoi. Cydnabyddwch eu teimladau, ond dywedwch eich bod yn teimlo allan o’ch dyfnder, ac awgrymwch yn garedig eu bod yn siarad â rhywun proffesiynol. Efallai y byddant yn gwerthfawrogi cael help i chwilio am gymorth, er enghraifft, cwnselydd profedigaeth, er enghraifft.
Parchwch sut bynnag mae’r person mewn profedigaeth yn dewis labelu eu perthynas â ffrind neu gydweithiwr sydd wedi marw. Gall cyn bartneriaid neu hen gariadon ei chael yn anodd yn aml i alaru’n agored, yn enwedig os ydynt hwy, neu os oedd y sawl a fu farw, mewn perthynas arall. Efallai nad oedd rhai yn cymeradwyo’r berthynas, fel perthnasoedd o’r un rhyw neu draws-ddiwylliant, neu anffyddlondeb, a all fod wedi digwydd yn y dirgel. Rhaid iddynt hwy benderfynu a ydynt am egluro’r berthynas, a gall holi am fwy o fanylion ymddangos yn fusneslyd.
Cadwch y sylw ar y sawl sydd mewn profedigaeth a cheisiwch beidio dod yn ôl dro ar ôl tro at eich teimladau eich hun am yr hunanladdiad. Oni bai eich bod wedi cael colled eich hun o ganlyniad i hunanladdiad, mae’n well peidio gwneud cymariaethau â’ch profiadau eich hun.
Peidiwch â bod yn negyddol am y sawl sydd wedi marw na beirniadu eu gweithredoedd, yn enwedig os nad oeddech yn eu hadnabod
Mae pobl sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad yn aml yn profi teimladau cyferbyniol a chymhleth am y sawl sydd wedi marw. Nid eich lle chi yw dweud wrthynt sut y dylent deimlo. Dylech osgoi mynegi barn amdanynt fel pobl ac ni ddylech byth ddisgrifio hunanladdiad fel dewis positif.
Y Support After Suicide Partnership (SASP) yw mudiad ymbarél cenedlaethol y DU ar gyfer mudiadau ac unigolion ledled y DU sy’n gweithio i helpu pobl sydd mewn profedigaeth neu sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad. Mae’r wefan yn cynnwys amrywiaeth o gyngor a chymorth ynghyd â manylion am wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Mae Help is at Hand yn arweiniad ymarferol ac emosiynol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad. Mae hefyd yn cynnwys storïau personol. http://www.supportaftersuicide.org.uk/ support-guides/help-is-at-hand/ Gellir archebu copi print drwy ddyfynnu 2901502 yn http://www.orderline.dh.gov.uk neu 0300 123 1002.
Darparwyd y wybodaeth uchod gan Support After Suicide Partnership: https://supportaftersuicide.org.uk/resource/finding-the-words/
“Mi fuaswn yn gwerthfawrogi gwybod bod cyfle i siarad â rhywun os byddaf yn teimlo fel gwneud.”