Torri’r cylch - alcohol a fy iechyd meddwl
Dyma flog gonest a graenus gan fyfyrwraig wrth iddi sôn am ei thaith o wynebu ei pherthynas gymhleth gyda alcohol. Darllenwch fwy am ei stori isod.
Mae cydnabod fod gen i berthynas gymhleth hefo alcohol yn uffernol o anodd. Beth sy’n anoddach fyth ydi trio gwynebu’r peth wrth fyw mewn cymdeithas a diwylliant sy’n gwneud i alcohol edrych fel rhan gwbl annatod o fwynhau ein hunain.
Nos Wener? Drinc.
Penwythnos? Sesh.
Gig? Sesh.
Cwblhau traethawd? Drinc.
Gêm rygbi? Sesh.
Noson gymdeithasol? Pyb.
Teimlo’n crap? Peint.
Teimlo’n dda? Peint.
Teimlo’n nerfus? Gwin.
Fel rhywun sydd wedi dioddef ers blynyddoedd gyda gorbryder cymdeithasol, ymysg problemau iechyd meddwl eraill, roedd yfed alcohol yn ffisig arbennig er mwyn lleddfu fy ofnau.
Ro’n i’n medru siarad.
Medru chwerthin.
Medru tynnu coes o flaen criw o bobl.
Ymlacio, a’r gofidio am beth oedd pawb yn ei feddwl ohona i yn diflannu wrth i’r diodydd lifo.
Roedd y gwydriad cyntaf yna yn sibrwd ‘fyddi di’n iawn’, ‘ymlacia’, ‘mwynha dy hun’. Ond erbyn y bore (neu’r prynhawn canlynol), roedd y llais bach na wedi troi’n annifyr. Yn bloeddio atgofion o ddweud a gwneud pethau oedd ddim yn fi o gwbl. Cywilydd yn fy nghlymu i i’r gwely. Ac wedyn oriau, diwrnodau weithiau, o fethu wynebu’r byd.
Dyma gychwyn y cylch erchyll o orbryder llethol, iselder dwys, a môr o hunan-gasineb. Roedd rhain i gyd yno yn barod, ond roeddent yn cael egni newydd gan y ffisig feddwol. A’r egni newydd hwnnw angen ei ryddhâu rywsut. Yn amlach na pheidio hunan-anafu i gyfeiliant brawychus meddyliau hunanladdol oedd y rhyddhâd.
Oherwydd bod yr iselder mor dywyll a dwys, roedd gen i’r tueddiad anffodus o gyffroi yn lân pan oni’n teimlo rhyw fymryn bach, bach yn well. Yn llamu am y llygedyn lleiaf o oleuni a’i gofleidio mor dynn. Roedd hynny wedyn yn arwain at awydd ysol i wneud y mwyaf o’r cyfnod bach yma o deimlo’n well. A fel arfer, roedd hynny’n golygu bod hefo fy ffrindiau. Ac hynny’n arwain at y cwestiwn anochel: “Drinc?”
Roedd o mor boenus o amlwg pa mor allweddol oedd rhan alcohol yn y patrwm tywyll yma. Ond am gyfnod hir, do’n i ddim yn gweld, neu efallai ddim eisiau gweld. Roedd hi’n haws cytuno, dewis beth i’w wisgo, newid, a theimlo’r wefr o deimlo’n ‘normal’ unwaith eto. A chysgod bore fory yn wincio arna i o bell.
***
Fedra i ddim rhoi fy llaw ar fy nghalon a dweud na fyddai byth yn yfed eto. Dwi hefyd yn ymwybodol iawn na allith newid un peth ddatrys popeth. Ond mae pethau wedi gwella yn aruthrol ers i mi stopio yfed.
Dwi’n gallu cysgu.
Dwi’n cael llai o byliau o banig a gorbryder.
Dwi wedi stopio hunan-anafu.
Er fy mod i dal i fyw gyda meddyliau hunanladdol, maen nhw wedi colli eu cryfder, yn un llais bach yn sibrwd, yn hytrach na chôr ohonyn nhw’n gweiddi.
Mae torri’r cylch yn anodd. A dydi fy mhroblemau iechyd meddwl ddim wedi diflannu. Mae’n waith caled. Uffernol o galed. Bob dydd. Ond dwi’n teimlo’n llawer cryfach i’w gwynebu nhw.
***
Ionawr y 1af 2020 oedd y Dydd Calan cyntaf dwi’n ei gofio yn iawn heb hangover. Roedd yna rywbeth hynod o braf am ddeffro hefo’r wawr ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn newydd, fy mhen yn hollol glir, loetran am y traeth hefo’r teulu a’r ci, a jesd anadlu. Yn gwybod fod pethau’n anodd weithiau, ond fod y cryfder a’r gwytnwch gen i i deimlo emosiynau anodd a chymhleth heb orfod troi at y ffisig sy’n eu gwneud yn llawer gwaeth.