Beth yw anhwylder deubegwn?

Darparwyd y wybodaeth isod gan NHS.UK
Darparwyd y wybodaeth isod gan NHS.UK

 

Mae anhwylder deubegwn yn gyflwr iechyd meddwl sy'n effeithio ar eich hwyliau, ac sy'n gallu amrywio o un pegwn eithaf i'r llall. Roedd yn arfer cael ei alw'n iselder manig. 

Symptomau anhwylder deubegwn 

Bydd pobl sydd ag anhwylder deubegwn yn cael cyfnodau o: 

  • Iselder - teimlo'n isel iawn ac yn swrth 
  • Mania – teimlo'n dda iawn ac yn orfywiog

Mae symptomau anhwylder deubegwn yn newid wrth i'ch hwyliau newid.  Yn wahanol i amrywiadau syml yn eich hwyliau, gall bob cyfnod eithafol o anhwylder deubegwn bara sawl wythnos (neu fwy hyd yn oed). 
 

Iselder

I ddechrau, efallai y cewch chi ddiagnosis o iselder clinigol cyn ichi gael cyfnod manig (weithiau blynyddoedd yn ddiweddarach), ac wedi hynny, efallai y cewch chi ddiagnosis o gyflwr deubegwn

Yn ystod cyfnod o iselder, efallai y cewch chi deimladau llethol o ddiffyg hunan-werth, a allai arwain at feddyliau am hunanladdiad

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi eisiau eich lladd eich hun, darllenwch yma i gael gwybod ble i gael help brys ar gyfer iechyd meddwl

Os ydych chi'n teimlo'n isel iawn, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich cydlynydd gofal, neu siaradwch â thîm argyfwng iechyd meddwl lleol cyn gynted â phosib. 

 

Mania 

Yn ystod cyfnod manig o anhwylder deubegwn, efallai y byddwch chi'n: 

  • Teimlo'n hapus iawn 
  • Llawn egni, cynlluniau uchelgeisiol a syniadau
  • Gwario llawer o arian ar bethau na allwch chi eu fforddio ac na fyddech chi eu heisiau fel arfer

Profiadau cyffredin eraill: 

  • Ddim eisiau bwyta na chysgu 
  • Siarad yn gyflym
  • Pethau'n mynd ar eich nerfau'n hawdd

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n greadigol iawn ac yn teimlo bod cyfnod manig anhwylder deubegwn yn brofiad cadarnhaol. 
Ond, gallech chi gael symptomau seicosis hefyd, pan fyddwch chi'n gweld neu'n clywed pethau sydd ddim yno neu'n credu pethau sydd ddim yn wir. 

 

Triniaethau ar gyfer anhwylder deubegwn 

Mae cyfnodau uchel ac isel anhwylder deubegwn yn aml mor eithafol nes eu bod nhw'n amharu ar fywyd bob dydd.

Ond ceir sawl opsiwn ar gyfer trin anhwylder deubegwn sy'n gallu gwneud gwahaniaeth. 

Maen nhw'n ceisio rheoli effeithiau cyfnod a helpu rhywun sydd ag anhwylder deubegwn i fyw bywyd mor normal â phosib. Mae'r opsiynau triniaeth canlynol ar gael: 

  • Meddyginiaeth i atal cyfnodau o fania ac iselder - sefydlogyddion hwyliau ydy'r enw ar y rhain, ac rydych chi'n eu cymryd bob dydd am gyfnod hir 
  • Meddyginiaeth i drin prif symptomau iselder a mania pan fyddan nhw'n digwydd 
  • Dysgu adnabod y pethau sy'n sbarduno cyfnod o iselder neu fania 
  • Triniaeth seicolegol - megis therapi siarad, sy'n gallu eich helpu chi i ddelio ag iselder a rhoi cyngor ar sut i wella eich perthnasoedd 
  • Cyngor ar ffordd o fyw – megis gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cynllunio gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau sy'n rhoi teimlad o gyflawniad ichi, yn ogystal â chyngor ar wella eich deiet a chael mwy o gwsg 


Y farn ydy mai defnyddio cyfuniad o driniaethau ydy'r ffordd orau o reoli anhwylder deubegwn. 

Mae cymorth a chyngor ar gyfer pobl sydd â chyflwr hirdymor, neu eu gofalwyr, ar gael gan elusennau, grwpiau cymorth a chymdeithasau. 

Mae hyn yn cynnwys hunangymorth a dysgu delio ag agweddau ymarferol cyflwr hirdymor. 

Dysgwch fwy am fyw gydag anhwylder deubegwn 

 

Anhwylder deubegwn a beichiogrwydd 

Fel bob problem iechyd meddwl arall, gall anhwylder deubegwn waethygu yn ystod beichiogrwydd. Ond mae cymorth arbenigol ar gael os oes arnoch chi ei angen. 

Dysgwch fwy am anhwylder deubegwn yn ystod beichiogrwydd 
 

Beth sy'n achosi anhwylder deubegwn? 

Nid ydy union achos anhwylder deubegwn yn hysbys, ond credir bod nifer o bethau'n gallu sbarduno cyfnod.   Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Straen eithafol 
  • Problemau difrifol 
  • Digwyddiadau sy'n newid bywyd 
  • Ffactorau genetig a chemegol. 

 

Ar bwy mae'n effeithio? 

Mae anhwylder deubegwn yn eithaf cyffredin, a bydd un o bob 100 o bobl yn cael diagnosis ohono rywbryd yn eu bywyd. 

Gall anhwylder deubegwn ddigwydd i bobl o unrhyw oed, ond mae'n aml yn datblygu rhwng 15 a 19 mlwydd oed ac anaml y bydd yn datblygu ar ôl 40 mlwydd oed. 

Mae dynion a merched o bob cefndir yr un mor debygol o gael anhwylder deubegwn. 

Mae patrwm yr amrywiadau mewn hwyliau a ddaw gydag anhwylder deubegwn yn amrywio'n sylweddol. Er enghraifft, dim ond cwpwl o gyfnodau deubegynol y bydd rhai pobl yn eu cael yn ystod eu hoes, ac maen nhw'n sefydlog rhyngddyn nhw, ond bydd pobl eraill yn cael nifer fawr o gyfnodau. 

 

Anhwylder deubegwn a gyrru  

Os oes gennych chi anhwylder deubegwn, gallai effeithio ar eich gyrru. Mae'n rhaid ichi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
 

Os ydych chi: 

Eisiau help gyda'ch bywyd o ddydd i ddydd oherwydd anhwylder deubegwn ac yn gofalu am rywun yn rheolaidd oherwydd bod ganddyn nhw anhwylder deubegwn (gan gynnwys aelodau o'ch teulu), mae ein canllaw gofal a chymorth yn egluro beth ydy eich opsiynau a ble i gael cymorth. 

 

Ffynhonnell:  NHS UK  
Mae'r uchod yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f.3.0. 
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/