I gael cymorth iechyd meddwl ar frys ffoniwch 111 a phwyso rhif 2.
Gall Gwasanaethau Lles o fewn eich coleg neu brifysgol ddarparu cefnogaeth ar-lein, sesiynau grwp neu un i un.
Os ydych chi eisiau siarad gyda rhywun yn gyfrinachol, ffoniwch y Samariaid am ddim yn Gymraeg ar 0808 164 0123 bob nos rhwng 7yh a 11yh neu trwy eu llinell gyffredinol ar 116 123 ac mae rhywun ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Neu edrychwch ar wefan y Samariaid neu anfon neges e-bost at jo@samaritans.org.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru (C.A.L.L.) yn ddi-dâl ar 0808 132 737 neu tecstiwch 81066.
O dan 25 oed? Mae Meic Cymru yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud a iechyd meddwl ac lles.