Cydbwysedd yn y Brifysgol: Astudio, ffrindiau a lles

 

 

Person yn eistedd i lawr o flaen cyfrifiadur hefo lot o bethau yn mynd ymlaen o'i chwmpas hi fel awyren, llyfrau, colur, graffiau.

 

Pan ddechreuais yn y Brifysgol, roeddwn i’n treulio rhan fwyaf o’r dydd yn astudio yn y llyfrgell a rhan fwyaf o’r nos mas yn dre yn cymdeithasu gyda fy ffrindiau. Ar y pryd roeddwn i’n teimlo roedd gen i gydbwysedd eithaf da ond roeddwn i’n tueddu anwybyddu’r peth fwyaf pwysig, fy lles.

Mae’n anodd iawn fel myfyriwr, yn enwedig yn y brifysgol, gan fod yna disgwyl i wneud popeth: ymuno â chlwb neu gymdeithas, treulio amser gyda ffrindiau, astudio’n galed a chwblhau gwaith cyn dyddiadau cau tra hefyd gwneud yn siŵr chi’n iach a chi ddim yn gorwneud pethau. 


Felly bwriad yr erthygl hon yw trafod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan ystyried yr effaith ar ein hiechyd meddwl a sut all llwyrlosgi neu ‘burnout’ ymddangos mewn myfyrwyr. Byddaf yn rhannu fy mhrofiad personol gan hefyd bwysleisio sut roeddwn i’n blaenoriaethu fy lles. 
 


Effaith diffyg cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar ein hiechyd meddwl 
Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn y brifysgol yn golygu ein bod yn trefnu amser ar gyfer astudio tra hefyd sicrhau bod gennym amser ar gyfer ymrwymiadau cymdeithasol ac allgyrsiol er eich lles. Er mwyn cynnal y cydbwysedd hwn, mae’n bwysig eich bod yn gosod nodau realistig gan sicrhau nad yw eich iechyd meddwl yn cael ei aberthu i’r straen academaidd neu’r pwysau cymdeithasol.

Os ydym yn gorlwytho ein hamserlenni, rydym yn fwy tueddol o wynebu gorbryder, cael trafferth cysgu a gwneud i ni deimlo’n fwy emosiynol sy’n effeithio ar ein gwytnwch ac ein gallu i gwblhau tasgau. Os nad ydym yn gwybod pryd i ddweud na, rydym ni’n mynd yn rhwystredig a methu canolbwyntio gan ein bod yn cael ein gorlethu gan ein hymrwymiadau. Mae hyn yn arwain at llwyrlosgi, sy’n gyffredin iawn mewn myfyrwyr.

 

Llwyrlosgi: Sut mae’n ymddangos a fy mhrofiad 
Mae’n bosib ni fydd burnout yn amlwg mewn myfyrwyr ar y dechrau, efallai’n anodd canolbwyntio, oedi cyn gwneud tasg (procrastination), wedi blino hyd yn oed ar ôl cysgu. Fodd bynnag, dros amser, mae’n effeithio ar ein cyflwr emosiynol. Er enghraifft, gall fyfyrwyr bod yn brin o amynedd, yn ddideimlad neu’n dueddol o hwyliau cyfnewidiol. Gall hyn arwain at ynysu eich hun a pheidio gofalu amdanoch chi’ch hun. Gall hefyd cael effaith wael ar eich iechyd corfforol gan fod rhai yn cael migrane wedi’i achosi gan straen.  

Roeddwn i’n sylwi yn fy ail flwyddyn pa mor ‘burnt out’ roeddwn i. Roedd y byd yn ‘normal’ eto ar ôl y cyfnod clo ac roeddwn i’n teimlo fel roedd rhaid i mi wneud popeth a byth dweud ‘na’ wrth bobl. Ar yr un pryd, roeddwn i eisiau rhoi fy ngorau mewn i fy ngwaith ar gyfer y brifysgol ond sylweddolais erbyn diwedd y flwyddyn doedd gen i ddim yr un cymhelliant nag ysbrydoliaeth ar gyfer astudio. Wrth i mi orlwytho f’amserlen, doeddwn i ddim yn mwynhau’r un pethau ag o blaen gan fethu blaenoriaethu fi fy hun a beth roedd angen arnaf.

 

Hunanofal: Gwneud y pethau bach ar gyfer eich lles
Dysgais fod y pethau bach yn gwneud y fwyaf o wahaniaeth ar gyfer eich lles. Roedd fy mhrofiad o llwyrlosgi a chael trafferth dweud na wrth bobl wedi gwneud i mi sylweddoli'r pwysigrwydd o fod yn bresennol pan mae gennych chi amser ar gyfer eich hun.

 

Cael seibiant effeithiol 
Yn yr oes hon, mae’n anodd iawn fod yn bresennol pan rydych chi’n cael seibiant. Mae rhan fwyaf ohonom ni, gan gynnwys fi, yn cymryd seibiant gan fynd ar ein ffonau. Dydy hyn ddim gwastad yn beth wael, weithiau mae’n ffordd o gyfathrebu gyda theulu neu ffrindiau. Ond mae’n bwysig ystyried beth rydych chi’n gwneud ar y ffôn. Ydych chi’n ‘sgrolio’ ar gyfryngau cymdeithasol ac yna’n teimlo’n waeth oherwydd mae’n gaethiwus ac yna’n anodd stopio gwneud.

Er mwyn cael seibiant mwy effeithiol, roeddwn i’n teimlo’r ffordd gorau i mi oedd mynd am dro, sydd efallai’n cliché ond mae’n wir yn helpu bod yn bresennol wrth i mi werthfawrogi natur. Roedd bod yn yr awyr iach hefyd yn galluogi mi brosesu pethau a rhoi pethau mewn i bersbectif gwell.

 

Gwrandewch ar yr hyn sydd ei angen arnoch 
Dim ond chi sy’n gwybod beth sy’n orau i chi felly os ydych chi eisiau bod ar ben eich hun pan rydych chi’n cael eich llethu gan waith, mae hynny’n hollol iawn. Os oes well gennych chi dreulio amser gyda ffrindiau neu deulu, mae hynny’n iawn hefyd. Mae rhai pobl yn fwy allblyg nag eraill ac felly mae eich lles emosiynol yn bersonol i chi. Gwnewch beth sy’n orau gennych gan sicrhau rydych chi’n bresennol. Chi, nid eraill, sy’n penderfynu beth hoffech chi wneud wrth flaenoriaethu eich lles. 
 

 

gan Carys Davies

Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth