Y cylch mislif: Effaith ar iechyd meddwl

Calendar with blood drops

 

Heb os, mae yna ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â’r cylch mislif a’r effaith ar iechyd meddwl menywod. Gall yr hormonau sy’n amrywio trwy gydol y cylch mislif, sy’n tueddu para rhwng 21-35 diwrnod, gael effaith enfawr ar emosiynau ac ar lesiant meddyliol. Mae’n hollbwysig fod myfyrwyr sy’n cael eu heffeithio gan hyn yn deall y pwnc er mwyn ceisio rheoli symptomau ac er mwyn bod yn fwy caredig i’w hun. Felly bwriad yr erthygl hon yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r effaith ar iechyd meddwl menywod gan ystyried yr effaith ar egni a’r iechyd meddwl. Wedyn, byddaf yn trafod y cyflyrau mwy difrifol fel Syndrom Cyn Mislif (PMS) ac Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a’r effaith ar iechyd meddwl. Yn olaf, byddaf yn trafod beth all helpu yn ystod y syndrom cyn mislif.


Beth yw’r cylch mislif?
Mae’r cylch mislif yn para rhwng 21-35 diwrnod a’r diwrnod cyntaf yw pan mae’r mislif yn cychwyn. Mae’r cylch mislif yn cynnwys pedwar cam, sy’n weithiau cael eu cymharu â’r tymhorau, sef y canlynol :


Y cyfnod mislif (dyddiau 1-5, y gaeaf): 
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n hollol normal i deimlo’r symptomau ffisegol fel poen yn y corff. Mae llawer o bobl hefyd yn sylwi bod ganddyn nhw lai o egni ac efallai’n fwy emosiynol ac yn blino’n fwy. Gall pryder a theimlo’n isel bod yn fwy amlwg yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Cymera ofal o dy hun, mae’n bwysig i ddim gorwneud pethau yn ystod y dyddiau hyn gan fod y corff yn mynd trwy gymaint ac mae’n bwysig gorffwys a chael cwsg da. 


Y cyfnod folecwlar (ar ôl y mislif dyddiau 6-13, y gwanwyn): 
Dyma pryd bydd lefelau estrogen yn codi ac mae’n debyg bydd mwyafrif o bobl sy’n cael mislif yn teimlo’n fwy egnïol ac yn fwy gweithgar. Ond os nad yw pobl yn arafu ac yn gorffwys yn ystod y mislif, mae’n bosib bydd rhai methu cyrraedd eu potensial nhw wrth efallai llwyrlosgi (burnout).


Ofyliad / Ovulation (Dyddiau rhwng 13-16, gall amrywio, yr haf): 
Dyma pryd mae estrogen ar ei huchaf ac felly mae’n debyg bydd hwyliau gwell arnat ti a gyda mwy o awydd i wneud tasgau heb flino cymaint. 


Y cyfnod lwteal / luteal phase (Dyddiau 16-28, gall fod yn fyrrach neu’n hirach yn dibynnu ar hyd dy gylch mislif):
Mae’n siŵr dyma’r cyfnod sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr iechyd meddwl wrth i estrogen gostwng a phrogesteron codi. Bydd rhai yn dioddef o symptomau PMS sy’n tueddi gychwyn wythnos neu ddwy cyn y mislif. Gall symptomau fod yn wahanol i bawb ond mae nifer wedi nodi'r canlynol: 

•    Hwyliau cyfnewidiol 
•    Teimlo’n isel 
•    Teimladau o orbryder 
•    Blinder a chael trafferth cysgu 
•    Poen ffisegol sy’n effeithio’r iechyd meddwl 
•    Diffyg amynedd 
•    Ansicrwydd 
•    Gorfeddwl 
•    Anodd canolbwyntio 
•    Llai o awydd i fod yn gymdeithasol 


Gall y symptomau hyn effeithio ar dy hunan werth sy’n effeithio ar dy waith neu astudiaethau. Gall y symptomau hefyd cael effaith negyddol ar adrannau eraill yn dy fywyd fel yn dy fywyd cymdeithasol gan fod rhai yn tueddu ynysu eu hun yn ystod y cyfnod hwn.

 

Cyflwr Anhwylder Dysfforig cyn Mislif (PMDD)
Mae’r cyflwr Anhwylder Dysfforig cyn Mislif yn debyg i’r Syndrom cyn Mislif ond mae’n fwy eithafol. Yn ôl ymchwil, mae tua 5% o fenywod Cymru yn dioddef o PMDD. 
Mae menywod sy’n dioddef o’r syndrom yn dweud eu bod nhw’n teimlo fel person gwahanol yn ystod y cyfnod hwn. Maen nhw’n cael trafferth gwneud pethau fel arfer maen nhw’n fodlon gwneud a dydyn nhw ddim yn gwybod pam maen nhw’n teimlo fel hyn. Yn aml mae’r symptomau yn mynd i ffwrdd pan mae’r mislif yn cychwyn sy’n gwneud hi’n anodd i fenywod deall pam mae’r newid mor eithafol. Mewn achosion mwy difrifol, mae menywod yn cael profiad o deimladau hunanladdol. 
Mae diffyg ymchwil ynglŷn â PMDD ac felly mae’n hollbwysig siarad â rhywun os wyt ti’n cael y symptomau hyn, yn enwedig os mae’n amharu ar dy fywyd. 


Camau i gymryd 
Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n dioddef o PMDD, cysyllta â’r meddyg yn syth er mwyn trafod y symptomau.


Pethau i wneud er mwyn ceisio gwella symptomau’r Syndrom cyn Mislif 
Tracio’r cylch mislif: Mae aps fel Flo, Stardust, Musa yn effeithiol iawn er mwyn tracio ac er mwyn cadw cofnod o’r teimladau sydd efallai’n ymddangos yn ystod y cyfnod hwn 
Gwrando ar dy gorff: Fel dwedais ar ddechrau, mae’n bwysig cymryd seibiant os wyt ti wedi blino, yn enwedig yn ystod y mislif 
Cadw cofnod: Gall ysgrifennu dy deimladau a symptomau dy helpu di i ryddhau tensiwn a deall y sefyllfa yn well 
Bwyta bwyd sy’n effeithiol yn ystod pob cyfnod : Mae rhai bwydydd yn cael eu hargymell yn ystod y cylch mislif a allet ti ddod o hyd i ragor o wybodaeth : Foods to eat for each stage of your menstrual cycle -
Siarad â rhywun: Mae siarad am dy symptomau neu broblemau yn gwneud gwahaniaeth. Os wyt ti’n teimlo bod y symptomau yn effeithio ar dy waith yn y brifysgol, cysyllta â Gwasanaeth Lles ar gyfer myfyrwyr sydd ar gael yn y brifysgol. 


Gall problemau gyda’r corff a’r iechyd meddwl yn ystod y cylch mislif fod yn anodd iawn i ddeall felly bydda’n amyneddgar gyda dy hun. Cofia bod gennyt ti’r hawl i fynegi’r problemau sydd gennyt ti ac mae yna wastad cymorth ar gael. Cymera ofal. 

 

gan Carys Davies

Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth