5 cam at lesiant meddwl

lightbulb

DARPARWYD GAN GIG Y DU

NHS logo

Awgryma tystiolaeth y gallwch gymryd 5 cam i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Gall rhoi cynnig ar y pethau hyn eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol ac abl i wneud y gorau o fywyd.

 

1. Cysylltwch â phobl eraill

Mae perthnasoedd da yn bwysig i’ch llesiant meddwl. Fe allan nhw:

  •  eich helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn a hunan-werth
  •  rhoi cyfle ichi rannu profiadau cadarnhaol
  •  cynnig cymorth emosiynol a’ch galluogi i gynorthwyo pobl eraill

Mae yna lu o bethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw er mwyn ceisio meithrin perthnasoedd cryfach ac agosach: 

Gwnewch y canlynol:

  • os oes modd, treuliwch amser bob diwrnod gyda’ch teulu, er enghraifft ceisio trefnu amser penodol i fwyta swper gyda’ch gilydd  
  • trefnwch ddiwrnod allan gyda chyfeillion nad ydych wedi eu gweld ers sbel
  • diffoddwch y teledu er mwyn cael sgwrs neu chwarae gêm gyda’ch plant, eich cyfeillion neu eich teulu 
  • ewch am ginio gydag un o’ch cydweithwyr
  • beth am ymweld â chyfaill neu aelod o’ch teulu sydd angen cymorth neu gwmni
  • gwirfoddolwch mewn ysgol, ysbyty neu grŵp cymunedol lleol. Cewch ragor o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan GOV.UK
  • gwnewch yn fawr o’r dechnoleg sydd ar gael er mwyn cadw mewn cysylltiad â’ch cyfeillion a’ch teulu. Mae apiau ‘sgyrsiau fideo’ fel Skype a FaceTime yn ddefnyddiol, yn enwedig os ydych yn byw ymhell oddi wrth eich gilydd
  • chwiliwch trwy lyfrgell apiau’r GIG am apiau cymunedol ar-lein, a lawrlwythwch nhw

 

Peidiwch â gwneud y canlynol:  

  • peidiwch â dibynnu gormod ar dechnoleg neu’r cyfryngau cymdeithasol ar eu pen eu hunain wrth feithrin perthnasoedd. Mae hi’n  - hawdd mynd i’r arfer o decstio, anfon negeseuon neu e-bostio ar draul ffyrdd eraill o gyfathrebu

 

2. Byddwch yn gorfforol egnïol

Mae bod yn egnïol yn wych i’ch iechyd corfforol a’ch ffitrwydd, ond mae tystiolaeth yn dangos y gall hefyd wella eich llesiant meddwl trwy: 

  • wella eich hunan-barch
  • eich helpu i osod targedau neu heriau i chi eich hun, a’u cyflawni
  • achosi newidiadau cemegol yn eich ymennydd a all helpu i arwain at newid cadarnhaol yn eich tymer

 

Gwnewch y canlynol:

Peidiwch â gwneud y canlynol: 
 

  • peidiwch â theimlo bod yn rhaid ichi dreulio oriau mewn campfa. Y peth gorau i’w wneud yw dod o hyd i weithgareddau rydych yn eu mwynhau, a’u gwneud yn rhan o’ch bywyd

 

3. Dysgwch sgiliau newydd

Dengys gwaith ymchwil y gall dysgu sgiliau newydd wella eich llesiant meddwl trwy:

  • roi hwb i’ch hunanhyder a gwella eich hunan-barch 
  • eich helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas 
  • eich helpu i gysylltu ag eraill 

Hyd yn oed os ydych yn teimlo eich bod yn brin o amser, neu os credwch nad oes angen ichi ddysgu pethau newydd, mae yna lu o wahanol ffyrdd o gyflwyno dysgu i’ch bywyd. Mae’r pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw yn cynnwys: 
 

Gwnewch y canlynol 

  • rhowch gynnig ar goginio rhywbeth newydd. Darllenwch awgrymiadau ynglŷn â choginio a bwyta’n iach
  • ceisiwch ysgwyddo cyfrifoldeb newydd yn y gwaith, fel mentora is-aelod o staff neu wella eich sgiliau cyflwyno
  • gweithiwch ar brosiect DIY, fel trwsio beic, giât neu rywbeth mwy. Mae yna lu o ddosbarthiadau tiwtorial ar-lein rhad ac am ddim i’w cael
  • ystyriwch gofrestru ar gwrs mewn coleg lleol. Beth am roi cynnig ar ddysgu iaith newydd neu sgìl ymarferol fel plymio?
  • rhowch gynnig ar ddiddordebau newydd a fydd yn eich herio, fel ysgrifennu blog, mynd i’r afael â chwaraeon newydd neu ddysgu sut i baentio
     

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • peidiwch â theimlo bod yn rhaid ichi ddysgu cymwysterau newydd neu sefyll arholiadau. Y peth gorau i’w wneud yw dod o hyd i weithgareddau rydych yn eu mwynhau, a’u gwneud yn rhan o’ch bywyd 

 

4. Rhowch i eraill

Awgryma gwaith ymchwil y gall gweithredoedd caredig a hael tuag at bobl eraill wella eich llesiant meddwl trwy:

  • greu teimladau cadarnhaol a gwneud ichi deimlo’n werth chweil
  • rhoi ymdeimlad o bwrpas a hunanwerth ichi
  • eich helpu i gysylltu â phobl eraill 

Beth am wneud gweithredoedd bach o garedigrwydd tuag at bobl eraill, neu weithredoedd mwy fel gwirfoddoli yn eich cymuned leol.

Dyma rai enghreifftiau o’r pethau y gallwch geisio eu cynnwys: 

  • diolch i rywun am wneud rhywbeth ichi
  • gofyn i’ch cyfeillion, eich teulu neu eich cydweithwyr sut hwyl sydd arnyn nhw a gwrando go iawn ar eu hateb
  • treulio amser gyda chyfeillion neu berthnasau sydd angen cymorth neu gwmni 
  • cynnig helpu rhywun gyda phrosiect DIY neu brosiect gwaith
  • gwirfoddoli yn eich cymuned, fel rhoi help llaw mewn ysgol, ysbyty neu gartref gofal

 

5. Rhowch sylw i’r presennol (Ymwybyddiaeth Ofalgar) 

Trwy roi mwy o sylw i’r presennol, bydd modd ichi wella eich llesiant meddwl. Mae hyn yn cynnwys eich meddyliau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch cwmpas. 

“Ymwybyddiaeth ofalgar” yw’r term y mae rhai pobl yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn. Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i fwynhau mwy ar fywyd a’ch helpu i’ch deall eich hun yn well. Gall effeithio’n gadarnhaol ar y ffordd y meddyliwch am fywyd a sut yr ewch i’r afael â heriau. 

Darllenwch ragor am ymwybyddiaeth ofalgar, yn cynnwys camau y gallwch eu cymryd i fod yn fwy ymwybodol yn eich bywyd bob dydd. 

Ffynhonnell:  NHS UK 
Yn cynnwys gwybodaeth y sector cyhoeddus a drwyddedwyd o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v.3.0 
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/  

 

Dyma grynodeb o'r 5 cam at les gan Kayley: 

5 ffordd at les gan Kayley