8 Tip ar gyfer ymdopi â straen neu mewn cyfnod o banig

Mae sawl un ohonom yn profi cyfnod o straen neu gyfnod o banic o dro i dro a gall fod yn anodd gwybod sut i ddelio gyda nhw yn y ffordd gywir. Felly, dyma gyngor defnyddiol gan Gwenllian o Brifysgol Aberystwyth ar sut i ymdawelu'r meddwl yn ystod y cyfnodau anodd yma.

  1. Gwneud rhestr o’r pethau sydd angen eu gwneud ond torrwch dasgau mawr mewn i dasgau sy’n haws i gwblhau e.e. torri tasg o ysgrifennu traethawd mewn i’r cyflwyniad, cynnwys a chlo.
  2. Anadlu’n araf ac yn ddwfn.
  3. Gwneud rhestr o’r pethau allwch chi eu rheoli a’r rhai sydd allan o’ch rheolaeth.
  4. Siarad â rhywun y gellir ymddiried ynddo.
  5. Cerddwch i ffwrdd o’r sefyllfa a chymryd egwyl o bopeth er mwyn ceisio ymdawelu gan gynnwys peidio edrych ar eich ffôn symudol am ychydig.
  6. Cadwch ddyddiadur meddyliau, nai llai i ysgrifennu pob dydd, y dyddiadau da, uchelgeisiau neu’r dyddiau gwael.
  7. Gwnewch unrhyw fath o fyfyrdod mewn lle tawel a phreifat, mae yna lawer o glipiau da ar-lein o fyfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar.
  8. Ymarferwch y dull anadlu 1+3+10; sef dywedwch ‘Ymlacia’, anadlwch yn ddwfn deirgwaith, a chyfrwch hyd at 10 yn araf.