8 peth i wneud i dawelu’r meddwl

Mae’n hawdd cael eich llethu gan holl heriau bywyd ar brydiau ac felly dyma 8 peth y gallech ei wneud i drio tawelu eich meddwl.

Myf stressed

 

  1. Ymwybyddiaeth ofalgar - ioga, myfyrio, ymarferion anadlu ac ymlaciol.

  2. Tacluso - tacluso desg, tacluso ystafell wely, golchi llestri, dileu hen ffeiliau neu apiau.

  3. Darllen ac ysgrifennu - cadw dyddiadur, ysgrifennu blog, ysgrifennu CV, darllen cylchgronau, nofelau neu lyfrau ffeithiol.

  4. Cerddoriaeth - gwrando ar gerddoriaeth, canu, chwarae offerynnau cerdd, gwrando ar y radio.

  5. Creu - arlunio, peintio, creu llyfr lloffion, collage, gwnïo, citiau crefft neu uwchgylchu

  6. Dysgu - dysgu iaith newydd, rhoi cynnig ar rysáit coginio, gwneud posau, cwis ar-lein.

  7. Ymarfer corff - cerdded, gwersi fideo ar YouTube, rhedeg.

  8. Siarad - Facetime neu Skype gyda ffrind, trefnu noson deuluol, gwirfoddoli, defnyddio apiau gyda chymuned ar-lein.