Achosion - gorbryder

 

Logo Rethink Mental Illness
Darparwyd y wybodaeth isod gan Rethink Mental Illness 
 

B​eth sy'n achosi anhwylderau gorbryder?

Dydyn ni ddim yn deall yn llwyr beth sy'n achosi anhwylderau gorbryder. Ond credir bod y ffactorau canlynol yn gallu achosi gorbryder: 

  • Geneteg. Mae'n ymddangos bod rhai pobl yn fwy pryderus nag eraill yn enedigol. Mae'n bosib eich bod chi'n cael gorbryder drwy eich genynnau. 
  • Profiad bywyd. Gall hyn fod yn brofiadau drwg, megis cael eich bwlio neu golli rhywun agos. Gall hefyd gynnwys newidiadau mawr mewn bywyd, megis symud tŷ, colli swydd neu feichiogrwydd. 
  • Cyffuriau. Gall caffein mewn coffi ac alcohol wneud ichi deimlo'n orbryderus. Gall cyffuriau anghyfreithlon, sydd hefyd yn cael eu galw'n gyffuriau stryd, effeithio arnoch chi hefyd.
  • Amgylchiadau. Weithiau rydych chi'n gwybod beth sy'n achosi eich gorbryder. Pan fydd y broblem yn mynd, bydd eich gorbryder yn mynd hefyd.