Ap llesiant

MOIMR logo

 

 

 

 

Ap rhad ac am ddim i gefnogi eich taith adfer o ddibyniaeth. 

Mae’r ap Moving On yn seiliedig ar raglen arloesol Moving On In My Recovery© (MOIMR), ac yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich taith adferiad.  Gall hefyd fod o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd.  Ariannwyd cyfieithiad Cymraeg o'r ap gan myf.cymru a CCAUC (HEFCW).  

Mae’r ap Moving On yn tynnu ar brofiad byw pobl sy’n gwella o ddibyniaeth ac mae hefyd wedi’i dan ategu gan ddamcaniaeth seicolegol ar ffurf Therapi Derbyn ac Ymrwymiad. Datblygwyd yr ap dan arweiniad Dr Lee Hogan, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol o fewn y GIG (NHS), sy'n arbenigo mewn triniaeth dibyniaeth a gyda phrofiad o gynorthwyo cannoedd o bobl gyda'u taith adferiad. 

Gydag offer rhyngweithiol hawdd eu dilyn, bydd yr ap Moving On yn eich helpu i gadw ffocws a bod yn rhagweithiol ynghylch eich adferiad parhaus. Bydd yn eich helpu i ddarganfod ffyrdd newydd o ofalu am eich iechyd meddwl a lles gan ddefnyddio sgiliau ymarferol ac offer sydd wedi gweithio i nifer o bobl eraill mewn adferiad.

Gyda'r ap Moving On byddwch yn gallu personoli eich taith wrth i chi osod heriau wythnosol i chi'ch hun a fydd yn rhoi ffocws dyddiol i chi ar y camau bach tuag at adferiad. Gosodwch ac olrhain eich nodau, cofnodwch eich hwyliau a sut rydych yn teimlo, dysgwch sgiliau newydd a dathlwch eich cerrig milltir. Darganfyddwch sesiynau wythnosol cynhwysfawr i'ch helpu i reoli straen, pryder a hwyliau isel. Ymunwch â'r miloedd o bobl eraill sy'n defnyddio MOIMR o fewn y GIG a sefydliadau trydydd sector eraill. Bydd yr ap yn eich ysgogi a'ch ysbrydoli wrth i chi ddewis ymgysylltu â llawer o'i nodweddion cynhwysfawr.

*Gellir defnyddio’r Ap Symud Ymlaen fel teclyn hunangymorth ac ar y cyd â rhaglen Moving On In My Recovery©, sydd ar gael o fewn nifer o wasanaethau trydydd sector a GIG

 

Prif Nodweddion:

- Archwiliwch y sesiynau wythnosol cynhwysfawr a all eich helpu i reoli gorbryder, iselder, hwyliau isel ac  amlinellu ffyrdd o amddiffyn eich iechyd meddwl a lles

- Dewch o hyd i sgiliau newydd ymarferol fel pwyntiau angori i'ch helpu i ymdopi â meddyliau digroeso a theimladau anodd.

- Darganfyddwch ac archwiliwch offer rhyngweithiol niferus y gellir cael mynediad atynt ar unwaith ac sy'n cyd-fynd â'ch amserlen brysur.

- Defnyddiwch ymarferion wedi'u recordio i adeiladu ar eich arfer o ollwng gafael, pwyso i mewn a chymryd safbwyntiau newydd.

- Traciwch ac aseswch eich taith trwy holiaduron asesu a ddilyswyd yn wyddonol.

- Gosod ac olrhain heriau wythnosol i'ch helpu i gadw ffocws a symud tuag at yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi

- Adlewyrchwch ar eich cynnydd gyda'r gallu i raddio eich hwyliau dyddiol.

- Cael eich ysbrydoli gan ddyfyniadau ysgogol dyddiol a datganiadau calonogol.

- Mynediad i ddolenni cyflym i rifau argyfwng os oes angen mwy o help arnoch.

Datblygwyd yr ap gan gwmni Helping Groups to Grow Developments Ltd, ac i ddarganfod mwy am y rhaglen Symud Ymlaen / Moving On ewch i:  www.moimr.com 

Gellir llawrlwytho'r ap o'r Apple App Store neu Google Play

 

Apple App Store Logo

Google Play logo