Bwlimia Nerfosa

Logo Beat Eating Disorder
Darparwyd y wybodaeth isod gan Beat Eating Disorders
 

Beth yw Bwlimia?

Mae bwlimia (neu bwlimia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol. Gall effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu gefndir. Mae pobl gyda bwlimia wedi eu dal yn gaeth mewn cylch o fwyta gormod o fwyd ar y tro (‘glwth-fwyta’) ac yna ceisio gwneud yn iawn am y ‘glwth-fwyta’ drwy chwydu, cymryd tabledi lacsatif neu ddiwretig, ymprydio neu orwneud ymarfer corff. Trin y cyflwr cyn gynted â phosib sy’n cynnig y siawns orau o wella’n llwyr ac yn gyflym o fwlimia. 

Mae’n normal i bobl nad ydynt yn dioddef o anhwylder bwyta ddewis bwyta ychydig yn fwy neu ‘orfwyta’ ar adegau. Ni ddylid drysu rhwng hyn a ‘glwth-fwyta’. Mae glwth-fwyta’n aml yn ffordd o ymdopi ag emosiynau anodd; gall rhywun deimlo eu bod yn cael eu gyrru i lwth-fwyta os ydyn nhw’n teimlo dan straen, yn ypset neu’n flin, er enghraifft. Yn ystod glwth-fwyta, nid yw pobl gyda bwlimia’n teimlo bod ganddynt reolaeth o faint neu ba mor gyflym y maen nhw’n bwyta. Mae rhai hefyd yn dweud eu bod yn teimlo’n hollol ddigyswllt o’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Gall y bwydydd a fwyteir yn ystod glwth-fwyta gynnwys rhai y byddai’r person fel arfer yn eu hosgoi.

Mae glwth-fwyta’n aml yn drallodus iawn i’r person, sydd wedi eu dal yn gaeth mewn cylch o lwth-fwyta a gwagio’r stumog. Mae pobl gyda bwlimia’n rhoi pwyslais cryf ar eu pwysau a’u siâp ac yn gweld eu hunain yn llawer mwy nag y maen nhw. 

"Arferwn â mynd i’r cwpwrdd bwyd, y rhewgell neu’r oergell a bwyta gymaint ag y gallwn, mor gyflym â phosib, i geisio gwneud i mi fy hun deimlo’n hapusach a llenwi’r gwacter y tu mewn. Roeddwn wedyn yn teimlo’n gorfforol ac emosiynol ypset ac euog am yr holl fwyd a fwyteais ac yn gwneud i mi fy hun chwydu." 

Symptomau Bwlimia

Gall y cylch glwth-fwyta / gwagio’r stumog sy’n gysylltiedig â bwlimia amharu’n ddrwg ar fywyd pob dydd a chreu trafferthion perthynas a chymdeithasol. Gall bwlimia greu cymhlethdodau corfforol difrifol hefyd – gall chwydu’n aml arwain at broblemau dannedd a gall pobl fynd i bob math o drafferth i wneud i’w hunain chwydu gan achosi niwed iddynt eu hunain. Gall tabledi lacsatif gael effaith ddifrifol ar y galon a’r system treulio bwyd. Gall pobl gyda bwlimia hefyd brofi symptomau fel gorflino, stumog wedi chwyddo, teimlo’n rhwym, poen bol, misglwyf anghyson neu draed a dwylo wedi chwyddo. 

Fodd bynnag, oherwydd bod dioddefwyr yn aml gyda phwysau “normal” ac yn cuddio eu salwch oddi wrth eraill, gall fod yn anodd iawn sylwi arno o’r tu allan. Ac mae pobl gyda bwlimia’n aml yn gyndyn iawn o ofyn am help. Fel gydag anhwylderau bwyta eraill, bydd rhywun sydd o gwmpas person gyda bwlimia’n sylwi ar newid hwyliau a theimladau cyn gweld newid corfforol yn aml. Gall y dioddefwr hefyd orfeddwl a bod yn ddirgel am fwyd a theimlo’n ddihyder am fwyta o gwmpas pobl eraill. Mae hunan-werth isel, hwyliau anghyson, bod yn bigog a theimlo cywilydd, yn euog a gorbryderus, yn enwedig ar ôl glwth-fwyta, hefyd yn gyffredin. 

Os nad yw symptomau person yn cyfateb yn union i’r holl feini prawf a ddefnyddir i roi diagnosis o fwlimia – er enghraifft os nad yw’r glwth-fwyta / gwagio’r stumog yn digwydd mor aml ag y byddid yn ei ddisgwyl – gallai diagnosis o anhwylder bwyta penodedig o fath arall (OFSED) fod yn berthnasol iddynt. Mae OFSED yr un mor ddifrifol ag unrhyw anhwylder bwyta arall ac mae’r un mor bwysig bod dioddefwyr yn derbyn triniaeth mor gyflym â phosib ar ei gyfer. 

"Roedd pobl yn meddwl fy mod yn boblogaidd a hyderus iawn, ond doeddwn i ddim, roeddwn yn teimlo mor ffug. Meddyliais na fyddai pobl yn fy hoffi pe byddent yn gwybod sut berson oeddwn i go iawn."

Beth i chwilio amdano:

Arwyddion Ymddygiad

Os yw rhywun yn dechrau cael bwlimia, mae rhywun yn aml yn sylwi ar newidiadau ymddygiad cyn y newidiadau corfforol. Mae’r arwyddion yn cynnwys: 

  • Gwirio siâp neu bwysau’r corff yn aml neu osgoi edrych ar eu corff neu wirio eu pwysau 
  • Cymharu eu corff â chyrff pobl eraill 
  • Bwyta gormodedd o fwyd ar y tro (glwth-fwyta) 
  • Gwagio’r stumog drwy chwydu, gorwneud ymarfer corff, cymryd tabledi lacsatif neu ddiwretig, ymprydio 
  • Trefnu bywyd o gwmpas siopa, bwyta a gwagio’r stumog 
  • Bod yn ddirgel, yn enwedig am fwyta 
  • Gor-hel bwyd 
  • Hwyliau amrywiol 
  • Yn biwis / pigog 
  • Cilio’n gymdeithasol 
  • Camddefnyddio tabledi lacsatif a diwretig 
  • Camddefnyddio alcohol 
  • Hunan-niwed 
  • Rhoi eu cynlluniau addysg a chyflogaeth yn y fantol 
  • Diflannu yn ystod neu’n fuan ar ôl bwyta (er mwyn gwagio’r stumog) 
  • Gor-wneud ymarfer corff  
  • Diffyg diddordeb mewn rhyw.

 

Arwyddion Seicolegol

  • Treulio llawer neu’r rhan fwyaf o’u hamser yn meddwl am fwyd. 
  • Teimlo’n orbryderus a llawn tensiwn, yn enwedig o gwmpas amser bwyd neu wrth fwyta o flaen eraill 
  • Trafferth canolbwyntio 
  • Hunan-hyder a hunan-werth isel 
  • Poeni am bwysau a siâp eu corff 
  • Ofn magu pwysau 
  • Argraff wyrdroëdig o siâp a phwysau eu corff 
  • Teimlo diffyg rheolaeth dros fwyta 
  • Teimlo’n euog a chywilydd ar ôl glwth-fwyta a gwagio’r stumog  
  • Mathau eraill o salwch meddwl fel iselder neu orbryderu. 

 

Arwyddion Corfforol

  • Chwydu  
  • Trafferth cysgu 
  • Wedi blino o hyd 
  • Stumog wedi chwyddo 
  • Yn rhwym 
  • Poen bol 
  • Traed a dwylo wedi chwyddo 
  • Croen gwael 
  • Difrod dannedd 
  • Misglwyf anghyson neu wedi stopio 
  • Chwarennau poer wedi chwyddo 
  • Croen caled ar gefn y dwylo os defnyddir y bysedd i achosi chwydu  
  • Anghydbwysedd electrolytau (sylweddau hanfodol yn y gwaed) 
  • Problemau stumog  
  • Siwgr-gwaed i fyny a lawr, efallai’n achosi hwyliau anghyson a llewygu 
  • Pwysau’n amrywio’n rheolaidd, i fyny neu lawr, er yn aml yn aros o fewn y “normal” gan wneud bwlimia’n anoddach sylwi arno. 

 

Effeithiau Hirdymor

Gall bwlimia wneud difrod mawr i’r corff. Mae effeithiau hirdymor bwlimia’n cynnwys:

  • Difrod parhaol i’r dannedd 
  • Difrod i dannau’r llais a’r gwddf (llwnc)
  • Difrod i’r perfedd a’r stumog 
  • Risg uwch o broblemau’r galon 
  • Difrod i’r arennau. 

Heb ei drin, gall bwlimia nerfosa achosi niwed hirdymor i’r corff a gall hyd yn oed fod yn farwol. Fodd bynnag, gyda’r driniaeth iawn mae’n bosib gwrthdroi llawer o effeithiau corfforol bwlimia neu eu hatal rhag gwaethygu, a gellir trin anhwylderau bwyta a gwella’n llwyr ohonynt. 

 

Beth sy'n achosi Bwlimia?

Mae nifer o wahanol resymau dros ddatblygu bwlimia a gall amryw o ffactorau gyfrannu ato. Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd ei hun, a dylai triniaeth drafod y meddyliau a’r teimladau sydd wrth wraidd yr ymddygiad. 

 

Pwy sy'n gallu cael Bwlimia?

Gall bwlimia effeithio ar bobl o bob oed er ei fod yn aml yn datblygu yn ystod yr arddegau cynnar neu ymhlith oedolion ifanc. Mae hefyd yn bosib i rywun symud rhwng gwahanol ddiagnoses os yw eu symptomau’n newid ac mae gwahanol anhwylderau bwyta’n gorgyffwrdd yn aml. Gall bwlimia ddatblygu o anhwylder bwyta arall, neu gall y symptomau newid i fod yn debycach i symptomau anhwylder bwyta arall. Os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu rywun arall, hyd yn oed os oes ond rhai o’r arwyddion yn bresennol, dylech ofyn am gymorth yn syth i gael y siawns orau o wella’n llwyr. Y cam cyntaf fel arfer yw gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu. 

"Mwya’n byd yr oeddwn yn llwgu fy nghorff, mwya’n byd yr oeddwn eisiau bwyd a mwya’n byd o reolaeth dros y sefyllfa oedd gen i. Un diwrnod aeth y llwgu’n ormod i mi. Dechreuais chwydu’r bwyd yr oeddwn wedi’i fwyta. Datblygodd hyn i fod yn gylch peryglus o lwth-fwyta a chwydu."