Byw gydag brawd sydd yn dioddef gydag iselder.

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i bawb. Mae wedi cael gymaint o effaith ar nifer iawn o bobl. Swyddi wedi cael ei golli, busnesau yn chwalu, perthnasau yn gorffen ac y tristaf – marwolaethau.

 

Ond mae o wedi bod yn her ychwanegol i bobl ifanc. Un funud roedd ein bywydau mor brysur, ac yn sydyn daeth popeth i ben. Mae dwysedd prysurdeb bywyd yn ein boddi ni pan mae’r byd yn ‘normal’. Os ydych yn brysur yn y coleg neu’n gweithio yn ystod yr wythnos ac wedyn yn mynychu digwyddiadau cymdeithasol fin nos neu dros y penwythnos, mae'r mwyafrif ohonom ni'n brysur gyda rhywbeth! Mae’r bywyd ‘bob dydd’ hynny wedi twyllo llawer ohonom ni a pan ti’n cymryd hynny i ffwrdd o rywun, mae’n gallu achosi dryswch, rhwystredigaeth a thristwch.

 

Rwyf wedi byw drwy’r cyfnod clo gyda rhywun sydd wedi teimlo ei fod wedi mynd trwy gyfnod ofnadwy o rwystredig ar hyd y misoedd. Mae pobl ifanc yn gallu bod yn greaduriaid cymdeithasol iawn yn enwedig pan yn y brifysgol. Wrth gael newid mor fawr i fywyd yn ystod y cyfnod yma, o gael ein torri i ffwrdd o gyswllt agos ffrindiau, cariad a theulu mae’n gallu arwain at iselder. Wrth gael amser mor hir o beidio gweld y bobl yma a bod yn styc adref mae’n ysgogi'r teimlad yma o unigrwydd a gorfod wynebu problemau ar eich pen eich hun. Teimlodd fy mrawd bod llawer o’i lwybrau bywyd yn dod i ben a bod hynny yn peri pryder ofnadwy iddo, mae’n galw’r hyn mae’n mynd trwyddo fel ‘isolation depression’. Wrth fyw gyda’m mrawd a gweld yr effaith hyn arno mi oedd yn anodd i bawb o'r teulu. Fy mrawd yw'r cymeriad mwyaf cryf dwi'n ei adnabod ac i weld rhywun fel 'na, nawr mor isel, mi oedd yn sioc. Nid oedd yn hawdd i ni chwaith fel teulu wrth gwrs. Ychydig bach o gymorth oeddem ni’n gallu ei roi gan oedd cyfyngiadau a cyn lleied o weithgareddau yr oedden ni gallu ei wneud a rheini yn ailadrodd bob diwrnod gan nad oedd dim byd arall i wneud.

 

Pan ddechreuodd y cyfnod clo roedd o’n teimlo fel seibiant, cwpl o wythnosau i roi traed fyny, bydd y bywyd ‘normal’ yn dod 'nôl cyn hir. Trodd yr wythnosau i mewn i fisoedd ac achosodd hyn gyfnod unig iawn iddo fo. Roedd yr iselder yn neud iddo deimlo’n anobeithiol ac yn gwneud iddo gwestiynu be neith o ar ôl diwedd y cyfnod clo gan ei fod yn gobeithio mynd i weithio os neith o ffeindio swydd. Yn aml, roedd fy mrawd yn gweld hi’n anodd mynd trwy’r diwrnod ac yn ddiegni. Dwi’n sicr bod llawer o bobl ifanc eraill yn gallu uniaethu gyda hyn i raddau. Bod yn styc o dan yr un tô yn gweld yr un wynebau bob dydd- mae’n gwneud i rywun deimlo’n fwy ynysig. Hefyd yr ansicrwydd yna o bryd oedd y cyfnod hwn am ddod i ben.

 

Er mwyn delio gyda’r teimladau annifyr yma, roeddwn i yn annog iddo ymuno gyda fi a mynd allan i wneud ymarfer corff boed jog neu dro bach. Manteisio ar y cefn gwlad oedd o’m hamgylch a gwneud y mwyaf o’r amser yn yr awyr iach sydd o fudd i unrhyw un sydd yn delio ac iselder. Rydym wedi bod yn lwcus iawn o ble rydym ni yn byw i allu manteisio ar hyn. Roedd hyn yn gwneud byd o les. Hefyd cael awyrgylch gwahanol o allu dianc o’r tŷ am gyfnod, ac er bod cerdded yr un llwybr yn ddiflas erbyn y diwedd, roedd yn gwneud lles meddyliol i fy mrawd a hyd yn oed i fi fy hun.

 

Mae byw gyda rhywun sydd gydag iselder wedi profi fy nghryfder i hefyd. Wrth fod yn gefn a gwrando a bod yn gwmni i’r person bob dydd pan rydych chi yn teimlo yn eithaf tebyg, mae'n gallu bod yn broses flinedig iawn. Ond heb os, mae'r cyfnod yma wedi profi i mi pa mor lwcus ydyn ni o’n gilydd.

 

Deall am salwch meddwl yn eraill

Edrych ar ôl dy hun