Canabis ac Iechyd Meddwl

Logo Royal College Psychology

Darparwyd y wybodaeth isod gan y Royal College of Psychiatrists 
 

Beth yw Canabis

Mae llawer o bobl ifanc eisiau gwybod am gyffuriau. 

Yn aml, bydd pobl o'ch cwmpas chi'n eu cymryd, ac efallai y byddwch chi'n meddwl tybed sut y byddan nhw'n gwneud ichi deimlo. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo dan bwysau i gymryd cyffuriau er mwyn bod fel pawb arall, neu i fod yn 'cŵl'. Efallai eich bod chi wedi clywed nad ydy canabis ddim gwaeth na sigaréts, neu ei fod yn ddiberygl.  

Mae'r planhigyn canabis yn aelod o deulu'r danadl, sydd wedi bod yn tyfu'n wyllt ledled y byd ers canrifoedd. Mae pobl wedi ei ddefnyddio am lawer o resymau, heblaw'r effaith ymlaciol boblogaidd. 

 

Mae i'w gael ar ddwy ffurf: 

 

  • resin, sef lwmp brownddu sydd hefyd yn cael ei alw'n bhang, ganja neu hashis 
  • canabis llysieuol, sydd wedi'i wneud o'r dail sych a'r pennau blodeuol, ac sy'n cael ei alw'n grass, marijuana, spliff, weed, ac ati. 


Mae canabis 'skunk' wedi'i wneud o blanhigyn canabis sydd â mwy o gemegau actif (THC) ynddo, ac mae'r effaith ar eich ymennydd yn gryfach. Oherwydd bod canabis 'stryd' yn amrywio cymaint o ran cryfder, ni fydd hi'n bosib ichi wybod sut yn union y bydd yn gwneud ichi deimlo ar adeg benodol. 


Ar hyn o bryd, mae canabis yn gyffur Dosbarth B o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Mae'r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau wedi argymell y dylid ei symud i Ddosbarth C, sy'n golygu na fyddai meddu ar ganabis yn cael ei drin fel trosedd wedi hynny. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae meddu ar ganabis yn dal i fod yn erbyn y gyfraith. 

Mae cynlluniau ar y gweill i gyfreithloni'r defnydd o ganabis at ddibenion meddyginiaethol, ac fe roddwyd caniatâd am drwydded frys am olew canabis am y tro cyntaf ar 18 Mehefin 2018 ar gyfer plentyn ag epilepsi difrifol. 

 

Beth mae'n ei wneud i chi?

Pan fyddwch chi'n ysmygu canabis, mae'r cyfansoddion actif yn cyrraedd eich ymennydd yn gyflym drwy eich llif gwaed. Yna, mae'n cydio/glynu wrth dderbynnydd arbennig yn eich ymennydd. Mae hyn yn achosi i'ch nerf gelloedd ryddhau gwahanol gemegau, ac yn achosi'r effeithiau rydych chi'n eu teimlo. Gall yr effeithiau hyn fod yn braf neu'n annymunol. 

Yn aml, mae'r effeithiau annymunol yn cymryd hirach i ddod i'r amlwg na'r rhai dymunol. 

  1. Effeithiau da/dymunol: Efallai y byddwch chi'n teimlo wedi ymlacio neu'n siaradus, ac efallai y bydd lliwiau neu gerddoriaeth yn ymddangos yn gryfach. 
  2. Effeithiau annymunol: Teimlo'n sâl/llawn panig, teimlo'n baranoiaidd neu'n clywed lleisiau, teimlo'n isel a digymell. 

Yn anffodus, mae rhai pobl yn mynd yn gaeth i ganabis, felly maen nhw'n cael trafferth rhoi'r gorau i'w ddefnyddio hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n ei fwynhau. 

 

Sut mae canabis yn effeithio ar eich iechyd meddwl?

Mae defnyddio canabis yn achosi problemau iechyd meddwl i bobl a oedd yn ymddangos yn iawn cyn hynny, neu gall waethygu problemau iechyd meddwl sydd gennych chi'n barod. Mae ymchwil wedi dangos bod pobl sydd eisoes mewn risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o ddechrau dangos symptomau salwch meddwl os ydyn nhw'n defnyddio canabis yn rheolaidd. Er enghraifft, os oes gan rywun yn eich teulu iselder neu sgitsoffrenia, mae'r risg y byddwch chi'n cael yr anhwylderau hyn yn uwch pan fyddwch chi'n defnyddio canabis. 

Yr ieuengaf ydych chi pan fyddwch chi'n dechrau ei ddefnyddio, yr uchaf ydy'r risg ichi. Mae hyn oherwydd bod eich ymennydd yn dal i ddatblygu ac mae'n haws iddo gael ei niweidio gan y cemegau actif mewn canabis. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ddefnyddio canabis ar ôl dechrau cael symptomau salwch meddwl, megis iselder, paranoia neu glywed lleisiau, mae'n bosib y bydd y symptomau'n mynd. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn gwella drwy roi'r gorau i ysmygu yn unig. 

Os byddwch chi'n parhau i ddefnyddio canabis, gall y symptomau waethygu. Hefyd, os bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am driniaeth ichi, mae'n bosib na fydd yn gweithio cystal os byddwch chi'n parhau. Mae'n bosib y bydd eich salwch yn dychwelyd yn gyflymach ac yn amlach os byddwch chi'n parhau i ddefnyddio canabis ar ôl gwella. Mae rhai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn teimlo'n well am ychydig os ydyn nhw'n defnyddio canabis. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn para nac yn gwneud dim i drin y salwch. Yn wir, efallai y byddwch chi'n hirach yn cael yr help sydd ei angen arnoch chi oherwydd hyn a gallai'r salwch waethygu yn y tymor hir. 

 

Beth allwch chi ei wneud?

Os oes gennych chi unrhyw bryder o gwbl am yr effaith y mae canabis yn ei chael, o bosib, ar eich iechyd meddwl, siaradwch gyda rhywun amdano. Gallech chi siarad gyda ffrindiau, teulu neu unrhyw weithiwr proffesiynol, er enghraifft:  

  • meddyg neu nyrs 
  • athro/athrawes neu gwnselydd ysgol/coleg 
  • cwnselydd pobl ifanc 

Ceir nifer fawr o bobl a allai eich helpu chi i benderfynu a oes gennych chi broblem, a beth i'w wneud yn ei gylch. Fodd bynnag, os na fyddwch chi'n siarad amdano, mae'n annhebygol y byddwch chi'n cael help. 

Yn gyffredinol, mae problemau iechyd meddwl yn gwella os ydych chi'n eu trin nhw'n gyflym. 

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn y cyfamser i'ch helpu chi eich hun: 

  • cael diwrnod heb ganabis 
  • osgoi swmp-brynu 
  • osgoi pobl, lleoedd a gweithgareddau rydych chi'n eu cysylltu â defnyddio canabis 
  • peidio â'i ddefnyddio os ydych chi'n teimlo'n drist neu'n isel 
  • STOPIO os ydych chi'n cael rhithweledigaethau 
  • gofyn am help.

 

Astudiaeth achos: Stori Louise, 16 oed

"Pan oeddwn i'n 16, fe ges i fy joint cyntaf. Fe wnes i ei gymryd i fy helpu i adolygu ar gyfer fy arholiadau. Dywedodd fy ffrind y buasai'n fy helpu i ymlacio, ac y buaswn i'n gallu adolygu'n well. Roedd yn gweithio yn y dechrau. Roeddwn i'n teimlo'n llai cynhyrfus ac wedi ymlacio. Ond yna dechreuais i anghofio pethau roeddwn i wedi'u hadolygu a mynd yn fwy pryderus. Fe ddechreuais i ysmygu mwy a mwy, ac yn y pen draw roeddwn i'n dibynnu ar 'weed' i ymdopi. Fe ddechreuais i ysmygu mwy a mwy bob dydd, ac ymhen amser dyna oedd yr unig ffordd yr oedwn i'n gallu mwynhau fy hun a chael hwyl. 

Fe sylwodd fy mam fod fy llygaid i bob amser yn goch, ond roedd hi'n meddwl mai sâl oeddwn i. Fe aeth hi â fi at y meddyg, a roddodd brawf gwaed imi - a ddangosodd fy mod i'n defnyddio cyffur. Fe wnaethon nhw drefnu fy mod i'n cael help, a dangos ffyrdd eraill o gael gwared ar fy straen. 

Fe lwyddais i leihau ar fy nefnydd o ganabis yn raddol, ac rydw i wedi rhoi'r gorau i'w ysmygu yn llwyr erbyn hyn. 

Wrth edrych yn ôl, dwi'n sylweddoli pa mor wirion oeddwn i - yn dechrau ysmygu mor agos at fy arholiadau. Roedd rhaid imi ail-wneud blwyddyn yn y chweched dosbarth, a dwi'n difaru f'enaid 'mod i wedi mynd mor ddibynnol ar ganabis. 

Er ei fod i weld yn fy helpu i ar y dechrau, doedd o ddim yn help yn y tymor hir. Dwi bellach yn gwybod nad cyffuriau ydy'r ateb os ydw i eisiau gwneud yn dda yn fy mywyd." 

 

Mwy o wybodaeth 

Dyma wefannau a allai fod yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau gwybod mwy am effeithiau canabis a chyffuriau eraill ar eich iechyd meddwl, a'r pethau y gallwch chi eu gwneud. 

Know cannabis - Gwefan sy'n gallu eich helpu chi i asesu eich defnydd o ganabis, ei effaith ar eich bywyd a sut i wneud newidiadau os ydych chi eisiau.

Talk to Frank - Llinell gymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim ynghylch cyffuriau. Ffôn 0800 77 66 00. 

YoungMinds - Elusen sy'n ymroi i wella iechyd meddwl pob plentyn a pherson ifanc.