Cychwyn yn y brifysgol

Dyma gyngor Heledd am ddechrau yn y brifysgol. 

 

Mae bywyd prifysgol yn gallu bod yn newid mawr i unrhyw un. Mae byw i ffwrdd o adref yn gallu bod yn anodd i bawb am fod bywyd annibynnol yn dechrau ac mae gofyn dibynnu ar eich hunain yn hytrach ‘na ar riant neu warchodwr. Wrth fynd i'r brifysgol, mae llawer yn gwneud pwnc hollol wahanol i'r arfer, pwnc nad ydynt erioed wedi ei wneud o’r blaen, ac ar adegau gall y syniad o wneud hyn beri gofid i unrhyw fyfyriwr newydd. 

 

Wrth gychwyn y brifysgol, gall poen meddwl fod yn llethol wrth ddelio gyda’r holl newidiadau, ac ar adegau gall hyn gael y gorau o rywun. Ond mae’n bwysig cofio ei fod yn brofiad newydd i chi a phawb o’ch amgylch chi a bod pethau fel yma’n croesi meddwl pawb. Ac er ei fod yn hawdd gorfeddwl a theimlo nad oes ffordd allan, mae’n bwysig cofio fod bob dim yn cymryd amser ac efo amser mae pethau yn gwella. Ac os ddim, mae amryw o wasanaethau a’r gael o fewn y Brifysgol sydd yna i allu cynnig cymorth.

 

Gall bywyd coleg fod yn grêt, mae bod yn annibynnol yn gallu bod yn her ar adegau ond mae’n gyfle gwych i ddysgu pethau gwahanol- fel coginio! Mae newid yn beth da, mae gwneud pwnc gwahanol yn rhywbeth cyffrous ac yn her newydd i gael amrywiaeth mewn bywyd. Mae’n bwysig astudio pwnc sydd o ddiddordeb i chi, er ei fod yn gallu ymddangos yn frawychus ar y dechrau- cerwch amdani! 

 

Gall dod o hyd i ffrindiau gael ei weld fel problem i rai, ond peidiwch â phoeni mae’r brifysgol yn darparu cannoedd o gyfleoedd yn y coleg er mwyn rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau newydd sbon. Cymrwch y cyfle i ddod i adnabod y rhai sydd yn byw draws y ffordd i chi yn y llety, peidiwch â bod ofn cynnal sgwrs wrth fynd heibio cyd-fyfyriwr ar y coridor! 

 

Yndi, mae cychwyn coleg yn sicr yn cael ei weld fel rhywbeth brawychus, ond gallaf addo i chi mae digonedd o help a chymorth ar gael! Mwynhewch bob munud!

 

Merch yn darllen

Ymdopi ac wythnos gyntaf darlithoedd

Dyma fideo defnyddiol gan Catty Langford sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor gydag tips ar ymdopi yn ystod wythnos gyntaf darlithoedd.

Gwyliwch y fideo
Dyfyniad am gychwyn yn y brifysgol

Podlediad Cychwyn yn y Brifysgol

Cyffro? Pryder? Dim ond dau air i ddisgrifio rhai o’r teimladau mae rhywun yn eu cael cyn dechrau yn y brifysgol am y tro cynta’. Yn y bennod yma bydd Lleu Pryce a’r awdures Megan Angharad Hunter yn ymuno a Tara Bethan i sgwrsio efo Trystan ac Endaf.

Gwrandewch ar y podlediad