Cymorth a Thriniaeth

Logo Beat Eating Disorder
Darparwyd y wybodaeth isod gan Beat Eating Disorders 

 

Mae'n bosib trin anhwylderau bwyta

Fel arfer mae’n anodd iawn i rai ag anhwylder bwyta wella ar ben eu hunain felly mae’n bwysig i chi neu’r person sy’n dioddef gael gafael ar gymorth a chefnogaeth broffesiynol cyn gynted â phosib. Cynta’n byd y bydd rhywun yn derbyn triniaeth am anhwylder bwyta, gorau’n byd eu siawns o wella’n llwyr. 

Gwyddom nad yw cael gafael ar driniaeth bob amser mor hawdd ag y byddem yn dymuno iddo fod, ac efallai y bydd angen i chi aros cyn derbyn triniaeth ar y GIG. Mewn sefyllfa o’r fath, cofiwch am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan Beat. Gallech gysylltu â’n grwpiau cymorth ar-lein, ffonio’r llinell gymorth sydd ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, neu ddefnyddio ein cyfeiriadur ar-lein HelpFinder i chwilio am wasanaethau sy’n lleol i chi, gan gynnwys triniaeth breifat. 

 

Ble i gael cymorth

Y person cyntaf i fynd atynt am gymorth yw eich meddyg teulu. Mae’n beth dewr iawn codi llais a gofyn am gymorth ond os ydych yn poeni am hyn, gallwch siarad â staff ein llinell gymorth am eich pryderon. Gallech hefyd siarad â ffrind, aelod o’r teulu neu rywun o’ch ysgol, prifysgol neu o’r gwaith. Gallech ofyn iddynt ddod gyda chi i weld y meddyg teulu os ydych yn poeni am fynd eich hun. Gallwch ddarllen mwy am ddweud wrth rywun bod gennych anhwylder bwyta yma. Bydd eich meddyg teulu (ac aelodau eraill o’r tîm gofal sylfaenol weithiau hefyd, fel eich nyrs bractis) yn chwarae rhan bwysig yn y cam cyntaf hwn o adnabod eich anhwylder bwyta. Os yw eich meddyg teulu’n amau bod gennych anhwylder bwyta, dylent eich cyfeirio’n syth i gael asesiad pellach neu driniaeth gan wasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol. Mae canllawiau NICE ar anhwylderau bwyta, sy’n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac y dylai eich meddyg eu hystyried wrth wneud unrhyw benderfyniad am eich triniaeth, yn glir iawn mai cyfeirio’n syth yw’r peth gorau i’w wneud. Mae ein taflen First Steps, y gallwch ei lawrlwytho drwy fynd i ‘adnoddau’, yn egluro sut i gael eich cyfeirio. 

Os na fydd eich meddyg teulu’n eich cyfeirio’n syth, da chi peidiwch â meddwl nad ydych yn haeddu cael triniaeth. Daliwch ati – gallwch ofyn am gael gweld meddyg teulu arall os nad ydych yn hapus â’r ymweliad cyntaf. 

 

Beth fydd yn digwydd yn yr apwyntiad? 

Yn yr apwyntiad, gall eich meddyg teulu weld a ydych yn pwyso’n iawn am eich oed a monitro unrhyw newid mawr yn eich pwysau, holi am unrhyw bryderon sydd gennych am eich pwysau neu siâp eich corff, siarad am ymddygiad sy’n gysylltiedig ag anhwylderau bwyta, a gall hefyd dynnu gwaed i wneud profion. Dylai edrych ar ffactorau seicolegol eich salwch, nid ar yr arwyddion corfforol yn unig. Os ydych yno i gefnogi rhywun arall i gael triniaeth, dylai’r meddyg teulu wrando ar eich pryderon chithau hefyd. Gallai gynnwys sut y mae’r anhwylder bwyta’n effeithio ar eich iechyd meddwl ac unrhyw gymorth a allai fod ei angen arnoch. 

Gall fod yn frawychus ond ceisiwch fod mor agored â’r meddyg â phosib am eich teimladau ac effaith eich trafferthion bwyta arnoch. Os ydych yn teimlo’n nerfus am beth a allai ddigwydd yn ystod yr apwyntiad, gallech sôn am hyn wrth eich meddyg ar y dechrau. Gallai fod yn syniad da i chi nodi ar bapur, cyn eich apwyntiad, y pethau y byddech yn hoffi siarad amdanynt ac unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Gallech hefyd ofyn i rywun arall ddod gyda chi i’r apwyntiad. Gallwch dal ofyn am gael siarad â’r meddyg teulu’n breifat ar gyfer rhannau o’r apwyntiad. Mae unrhyw beth y mae claf yn ei ddweud wrth eu meddyg yn aros yn gyfrinachol oni bai: 

- Maen nhw dan 16 oed a chredir nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau am eu triniaeth eu hunain. 

- Maen nhw’n gwrthod triniaeth ar gyfer salwch sy’n bygwth bywyd. 

Cofiwch, dylech fynd i gael triniaeth mor gyflym â phosib. Gallai fod yn syniad da i chi ddarllen canllawiau NICE, sy’n rhoi gwybodaeth glinigol am anhwylderau bwyta a sut y dylid eu trin. Maen nhw’n disgrifio’r ymarfer gorau y dylai gweithwyr gofal iechyd eu dilyn wrth drin anhwylderau bwyta. 

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl eich cyfeirio, gall arbenigwr asesu beth sydd ei angen arnoch a phenderfynu ar y cynllun triniaeth gorau i chi. Bydd eich symptomau a’ch diagnosis yn effeithio ar sut driniaeth a gynigir i chi a dylai eich triniaeth hefyd ystyried unrhyw gyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol eraill a allai fod gennych. Mae amryw byd o wahanol lwybrau triniaeth ac ni fydd pob un yn gweithio i bawb. Os nad ydych yn teimlo bod eich triniaeth yn gweithio i chi, dylech drafod hyn gyda’ch tîm gofal. 

 

Ceir gwybodaeth bellach a chynghorion ar beth i'w ddisgwyl a sut i baratoi am apwyntiad gyda'r meddyg teulu: 

Gweld eich meddyg teulu - Beat (https://www.beateatingdisorders.org.uk/get-information-and-support/get-help-for-myself/going-to-the-doctor/)