Cynghorion ar Gefnogi Adferiad

Darparwyd gan 


beat logo

 

Adferiad 

Mae gwella neu ‘adferiad’ o anhwylder bwyta’n wahanol i bob unigolyn sy’n dioddef. I rai pobl, gall olygu peidio â meddwl byth eto am unrhyw ymddygiad anhwylder bwyta. I eraill bydd yn golygu, er bod y meddyliau hyn yn dal i fod yno, eu bod yn digwydd yn llai aml ac mae’r unigolyn yn gallu eu rheoli drwy ddulliau a thechnegau ymdopi fel nad ydynt mwyach yn cael yr un effaith ar eu bywyd beunyddiol. 

Mae adferiad o anhwylder bwyta yn debyg i reidio beic am y tro cyntaf erioed. Gallwch ddisgyn ar unrhyw adeg, mae’n brifo os gwnewch, a gall roi ysgytiad i’ch hyder. Ond drwy fynd yn ôl ar gefn y beic, byddwch yn dangos i’ch ‘beic’ pwy yw’r bos a dysgu sut i reidio fel unrhyw blentyn ‘normal’. 

Mae’n bwysig cofio nad yw adferiad o anhwylder bwyta byth bron yn broses ddidramgwydd. Oherwydd bod anhwylder bwyta’n aml yn ffordd o ymdopi gyda, neu o deimlo mewn rheolaeth o emosiynau neu sefyllfa anodd, gall y syniad o fyw hebddo fod yn frawychus iawn a gallech fod rhwng dau feddwl ynghylch eich adferiad. Ni fydd neb yn disgwyl i chi ymlwybro’n ddidrafferth tuag at adferiad – mae’n hollol normal i chi ddod ar draws rhwystrau ar y ffordd. Mae cymorth wastad ar gael, ble bynnag yr ydych ar eich siwrne. 

Isod ceisiwn ateb rai o’r cwestiynau am adferiad a ofynnir i ni amlaf gan ddisgrifio rhai o hanesion pobl a rannodd eu profiadau gyda ni. 

 

Cwestiynau a phryderon am adferiad 

Ydy adferiad yn bosib? 

Rydym yn clywed hanesion pob dydd bod adferiad o anhwylder bwyta'n bosib. Mae rhai pobl yn credu y bydd wastad angen iddynt ganfod sut i ymdopi â meddyliau bwyta di-drefn ond yn sicrhau na fydd yn effeithio ar eu hymddygiad. Bydd eraill yn darganfod nad ydynt yn cael y meddyliau hyn ar ôl gwella. 

 

Beth yw’r cam cyntaf i sicrhau adferiad? 

Y cam cyntaf yw siarad gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddynt – aelod o’ch teulu, ffrind, athro neu athrawes efallai, ond yn bwysicach na dim dylai fod yn rhywun y teimlwch yn gyffyrddus â nhw. Gwyddom fod angen bod yn ddewr i wneud hyn ac mae’n gwbl normal poeni am gael eich gwrthod, edrych yn wirion neu beidio â chael eich credu. Ond bydd mygu eich teimladau ond yn ‘bwydo’ eich anhwylder bwyta a chynta’n byd y dechreuwch dderbyn triniaeth, gorau’n byd eich siawns o wella’n llwyr. Y cam nesaf efallai fydd mynd i weld eich meddyg teulu neu nyrs bractis i drafod trin eich anhwylder dysgu. 

 

Ydy adferiad ar ben fy hun yn bosib? 

Gall adferiad o anhwylder bwyta fod yn anodd heb rywfaint o gymorth. Mae’r driniaeth a’r rhwydwaith cymorth iawn yn bwysig i’ch helpu i wella. Cofiwch nad oes unrhyw gywilydd mewn gofyn am help – mae’n gam dewr iawn a brawychus ond bydd llawer mwy o fanteision nag anfanteision.  

Mae anhwylderau bwyta’n gyflyrau sy’n ynysu pobl a bydd rhwydwaith cymorth o’ch cwmpas yn helpu i dorri llwybr drwy’r unigrwydd. 

 

Dwi’n poeni am fagu pwysau 

Yn aml iawn mae pobl sy’n dioddef o anorecsia neu fwlimia’n dweud wrthym eu bod eisiau gwella ond yn poeni am fagu pwysau. Un rhan o’ch adferiad yw na fyddwch mwyach yn teimlo bod magu pwysau’n rhywbeth i’w ofni neu y bydd eich bywyd yn gwella o bwyso’n isel. Os cawsoch gynllun diet, ni fyddwch yn magu pwysau’n rhy gyflym, ond cofiwch y dylai eich triniaeth hefyd fod yn eich helpu gyda’r meddyliau a’r teimladau am fagu pwysau. 

Oherwydd bod eich ffocws wedi bod mor hir ar eich ‘maint’, mae’n anodd gadael i’ch corff dyfu i fod y siâp y ‘dylech fod’ yn hytrach na siâp y salwch. I mi roedd yn bwysig peidio â gwybod faint yr oeddwn yn bwyso, meddwl am bethau eraill a chofio pam fod angen i mi fagu pwysau. P’un ai ydy o’n rhywbeth mor ddibwys â gallu eistedd yn gyffyrddus i allu dod o hyd i ddillad ffasiynol sy’n fy ffitio! 
 
Pan oeddwn yn cael diwrnod drwg, roeddwn yn teimlo’n dew fel mwdwl ac yn ffieiddio at fy nghorff, ond ar ddiwrnod da roeddwn yn teimlo’n hyderus a hapus bod y ‘fi go iawn’ yn dod nôl, er yn pwyso mwy! Sylweddolais y gallwn deimlo’n hollol ddigalon ac anfodlon wrth bwyso ar fy lleiaf a mwyaf trwm; nid oedd â wnelo fy hapusrwydd ddim â’r rhif ar y glorian. Mae’n bwysig cofio bod gymaint yn fwy i fywyd na faint yr ydych yn ei bwyso ac nad yw bywyd ag anhwylder bwyta’n fywyd o gwbl. 

 

Llysgennad Beat 

Sut y mae pobl yn ymdopi ag adferiad? 

Mae pawb yn wahanol felly mae pawb yn ymdopi’n wahanol. Gall siarad a mynegi eich meddyliau a theimladau fod yn ffordd dda iawn o ymdopi. Gallech siarad â rhywun y gallwch ymddiried ynddynt neu ysgrifennu neu dynnu lluniau mewn dyddiadur, er enghraifft.  

Ond cofiwch fod yn ddigon dewr i godi llais os bydd pethau’n anodd – nid oes raid i chi feddwl bod angen cogio bach eich bod yn iawn. Mae eich rhwydwaith cymorth yno i’ch helpu. 

 

Ai fi sydd ar fai am fy anhwylder bwyta? 

Mae anhwylderau bwyta’n gyflyrau salwch meddwl difrifol. Nid dewis yw hyn ac yn sicr nid oes bai o gwbl arnoch. Mae ymchwilwyr yn dal i drafod pam fod pobl yn cael anhwylderau bwyta ond gwyddom fod mwy o resymau genetig a biolegol nag y tybiwyd yn flaenorol ac y gallai eich amgylchedd, pwysau cymdeithasol neu ddigwyddiadau eraill sy’n effeithio ar eich bywyd fod yn sbardun. Nid yw’n beth gwirion gofyn am help.  

Gallai fod yn syniad da cysylltu ag unigolion eraill sy’n mynd drwy rywbeth tebyg, drwy ein grwpiau cymorth ar-lein

 

Ydw i’n fethiant os byddaf yn ail-waelu? 

Yn ôl bron i bawb y siaradwn â nhw, nid oedd eu hadferiad yn ddidramgwydd – roedden nhw’n dod ar draws rhwystrau ac weithiau’n cymryd cam neu ddau’n ôl cyn symud ymlaen eto. Y peth pwysig i’w gofio yw’r strategaethau ymdopi a ddysgoch a’u defnyddio i neidio dros unrhyw rwystrau ar y ffordd.  

Cofiwch, mae croeso i chi ddefnyddio gwasanaethau cymorth Beat os yw pethau’n anodd ar y funud, a gallwch hefyd siarad â’ch meddyg teulu. P’un ai y cawsoch driniaeth o’r blaen neu beidio, rydych yn haeddu derbyn pob cefnogaeth os byddwch yn ail-waelu. 

 

Dw i’n poeni na fydd pobl yn cymryd fy mhryderon o ddifrif 

Gall anhwylderau bwyta fod yn anodd iawn i bobl ei ddeall os na chawsant brofiad tebyg eu hunain. Gallai helpu i chi fynd drwy lyfrgell adnoddau Beat am adnoddau y gallwch eu pasio i bobl eraill i’w helpu i ddeall beth yr ydych yn mynd trwyddo, neu eu cyfeirio at ein gwefan am fwy o wybodaeth i bobl sy’n poeni am eraill. 

Os teimlwch nad yw eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd arall yn cymryd eich pryderon o ddifrif, gallai fod yn syniad i chi ddarllen canllawiau NICE sy’n egluro beth i’w ddisgwyl o’ch triniaeth, neu gallech siarad â gwasaneth fel y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS). Mae gan Cyngor ar Bopeth hefyd wybodaeth am beth i’w wneud os ydych yn anfodlon â’ch triniaeth. 

 

Cyngor ar adferiad 

  • Cofiwch fynegi eich teimladau a pheidiwch â bod ofn gofyn am help. Weithiau rydym yn clywed bod pobl yn ei chael yn haws ysgrifennu eu teimladau ar ddu a gwyn a’u dangos i rywun, yn lle siarad amdanynt. 
  • Os ydych yn teimlo’n isel, meddyliwch am ffyrdd o dawelu eich hun. Gallech gael bath, ffonio ffrind, peintio llun, gwrando ar fiwsig, mynd am dro, ysgrifennu cerdd – rhowch gynnig ar wahanol bethau i weld beth sy’n gweithio. 
  • Nodwch bethau da amdanoch eich hun ar bapur. 
  • Dysgwch rywbeth newydd i fynd â’ch meddwl oddi ar eich anhwylder bwyta. 
  • Cadwch yn brysur ar ôl bwyta. 
  • Ceisiwch beidio â chymharu eich hun â ffrindiau eraill sydd ar ganol eu hadferiad. Gall fod yn syniad defnyddio straeon i’ch ysbrydoli, ond rydych yn unigolyn a byddwch yn darganfod eich llwybr eich hun. 
  • Meddyliwch am eich teimladau pan fyddwch yn teimlo’n ddrwg, a hefyd pan fyddwch yn teimlo’n dda. Gwnewch restr o’r teimladau hyn – yna pan fyddwch yn teimlo’n isel, darllenwch drwy’r meddyliau positif.  
  • Gall fod yn syniad da dysgu mwy am faeth a sut y mae bwyd yn ‘danwydd’ i’r corff – gallai taflenni bwyd Cymdeithas Dieteteg Prydain gynnwys ffeithiau defnyddiol.