Dysmorffia y corff

Mae anhwylder dysmorffia y corff yn anhwylder pryder. Y cyflwr anhwylder dysmorffig y corff yw pan mae unigolyn yn poeni yn gyson am y ffordd maent yn ei edrych ag hefyd yn poeni am edrychiad rhannau penodol o'u corff.  Mae’r meddylfryd hynny o’i ymddangosiad yn ei meddwl bob amser sydd yn ymyrryd a chael effaith ar ei bywydau yn gymdeithasol ac yn emosiynol ac yn cael effaith difrifol ar ei bywydau bob dydd, gan gynnwys ei gwaith, bywyd cymdeithasol a'r perthnasau gyda phobl. Nid yw’r symptomau yn diflannu heb driniaeth ac felly, yn gallu gwaethygu a datblygu’n waeth gydag amser.

Mae ystadegau yn dangos bod tua 0.5%-0.7% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn dioddef o dysmorffia y corff. Mae’r ystadegau yma yn cynnwys dynion a menywod ar hyd bob grŵp oedran. Mae plant a phobl ifanc yn dueddol o ddioddef o dysmorffia y corff wrth ddechrau eu glasoed sef tua 13 oed ac yn y cyfnod yma mae’r cyflwr fwyaf cyffredin.

Mae’r cyflwr dysmorffia y corff yr un mor gyffredin ag anhwylder obsesiynol (OCD) mae hefyd yn fwy cyffredin na’r cyflwr iechyd meddwl, anorecsia. Gan mae salwch meddwl sy’n seiliedig ar bryder yw’r cyflwr, ni ellir ei wella yn gyfan gwbl, dim ond ei drin. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng dysmorffia y corff ag unrhyw anhwylder bwyta fel anorecsia a bwlimia er bod llawer o bobl yn credu fel arall. Yn yr un modd a’i gilydd mae dysmorffia y corff a OCD yn rhannu llawer o debygrwydd fel profiadau meddyliol afreolus a meddyliau obsesiynol hefyd.

 

Beth yw’r symptomau o’r cyflwr dysmorffia y corff?

Mae unigolion sydd yn dioddef o’r cyflwr dysmorffia y corff yn dangos symptomau fel:

  1. Dangos pryder tuag at rannau penodol o’u cyrff yn enwedig eu gwyneb

  2. Unai yn gwerthuso eu hunain mewn drychau yn aml neu osgoi drychau yn gyfan gwbl

  3. Yn rhoi llawer o ymdrech mewn i guddio'r pethau nad ydynt yn hoffi am ei edrychiad

  4. Yn treulio llawer o amser yn cymharu'r ffordd maent yn eu hedrych â phobl eraill

 

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dysmorffia y corff a diffyg hunan-barch (low self esteem)?

Mae niferoedd o bobl yn drysu a ddim yn gweld y gwahanieth rhwng y ddau pan mae yna wahaniaeth mawr rhyngddyn nhw. Mae pobl sydd yn dioddef o dysmorffia y corff yn dioddef o iselder ac yn cysylltu'r ffordd maent yn edrych gyda hapusrwydd a hefyd yr ymdeimlad o les. Dyna sut mae’r linc yn cael ei gwneud gyda meddyliau hunanladdiad maent yn eu cael hefyd. Yn ôl ystadegau mae 45% i 70% o ddioddefwyr dysmorffia y corff wedi dweud eu bod yn dioddef o feddyliau hunanladdiad yn gyson.

Yr hyn sy'n gwneud dysmorffia y corff yn arbennig o beryglus, yw bod pobl sy'n dioddef ohono yn datblygu dibyniaethau ar ymddygiadau obsesiynol. Wrth wneud yr ymddygiad obsesiynol maent yn credu’n gryf mi fydd yn dod a rhyddhad iddyn nhw. Un enghraifft o ymddygiad obsesiynol yw ei bod yn edrych ar ei hunan mewn drych sawl gwaith y diwrnod i weld os ydyn nhw’n edrych yn dda neu i atgyfnerthu'r meddyliau negyddol am ei edrychiad hyd yn oed yn fwy, y pwynt yma yw’r achos fel arfer.

Yn fras, mae dysmorffia y corff yn llawer mwy difrifol na diffyg hunan-barch wrth gael effaith eithafol ar iechyd meddyliol rhywun wrth i’r unigolyn treulio oriau gyda meddylfryd obsesiynol a phryderus am y ffordd maent yn ei edrych sydd byth yn mynd i ffwrdd.

 

Beth yw’r driniaeth ar gyfer unigolion sydd yn dioddef o dysmorffia y corff?

Gan fod y salwch iechyd meddwl dysmorffia y corff yn seiliedig ar feddylfryd obsesiynol mae’n bwysig wrth drin claf yw cael nhw i ddeall bod rhaid iddynt sylweddoli bod y meddyliau yma am ddigwydd ac mae’n bwysig iddyn nhw ei derbyn. I wella’r cyflwr mae’n bwysig i’r cleifion ymarfer derbyn y meddyliau yma wrth fyw bywyd a gweithredu rownd y meddyliau gan ei bod yn amhosib dadwneud meddwl unwaith mae o yno. Mae’r driniaeth yma yn dangos pam nad yw dysmorffia y corff yn gallu cael ei wella yn gyfan gwbl, dim ond ei drin. Mae’r driniaeth yma yn helpu pobl sut i ddelio gyda'i meddyliau obsesiynol yn ddyddiol.

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yw’r therapi mwyaf cyffredin wrth ymdrin â dysmorffia y corff. Mae’r therapi yma yn helpu rheoli’r symptomau wrth newid y ffordd mae’r dioddefwr yn meddwl ac yn ymddwyn wrth ddeall a dysgu'r hyn sydd yn sbarduno'r symptomau ac yn dysgu gwahanol ffyrdd o sut i ddelio gyda nhw.

 Ffordd arall o helpu cleifion yw newid yr iaith maent yn ei defnyddio i ddisgrifio sut maent yn ei edrych gydag iaith fwy ffeithiol. Er enghraifft bydd y cleifion yn gwneud sylwadau ar siâp ei hwynebau sydd yna yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach na barn. Wrth wneud hyn, dros amser mae’r cleifion yn ymarfer y dull yma a dod i arfer gyda fo, sydd yna yn lleihau ei phryder am ei edrychiad.

Gan ei fod yn salwch sydd yn gysylltiedig â gorbryder mae llawer o bobl yn gweld bod gwneud ymarferion i gryfhau lles meddyliol fel ymlacio ac anadlu yn helpu teimladau o iselder neu bryder yn ogystal â lleihau straen.

Mae’n bwysig os ydych chi yn dioddef o dysmorffia y corff i siarad gydag unrhyw un gyda sut yr ydych chi’n teimlo. Mae’n gyflwr difrifol iawn sydd ddim yn cael ei adnabod digon ac yn effeithio mwy o bobl na beth mae’r ystadegau yn ei ddangos.