Ffilmiau sydd yn ymwneud a chyflyrau iechyd meddwl

Dyma awgrymiadau gan fyfyrwyr o ffilmiau pwerus sydd yn ymwneud a chyflyrau iechyd meddwl. Mae'r rhestr yn cynnwys sawl ffilm amrywiol sydd yn ymdrin â gwahanol gyflyrau iechyd meddwl megis PTSD, anhwylder rhithdybiol, anhwylder dau begwn a sawl cyflwr a sefyllfaoedd eraill. Yn aml mae'n haws deall cyflyrau ar ôl gweld y ffordd y maent yn cael eu portreadu mewn ffilmiau ac felly yn eich amser rhydd, byddwch yn siŵr i ymgolli yn un o'r ffilmiau gwych yma.

 

*RHYBUDD: os nad ydych chi wedi gwylio un o’r ffilmiau yma gall yr isod gynnwys ‘spoilers’!*

 

The Perks of being a Wallflower

Prif gymeriad y ffilm hon yw Charlie, sydd yn dioddef o PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) ar ôl i’w ffrind gorau gyflawni hunan laddiad. Mae Charlie hefyd yn delio ag iselder ers iddo fod yn ifanc. Mae Charlie yn adlewyrchu nôl at atgofion trafferthus yn ei fywyd fel hunan laddiad ei ffrind gorau ag hefyd yr holl gam-drin pan oedd yn blentyn ifanc sydd yn raddol yn ymddangos drwy gydol y ffilm. Mae yn llawer mwy i’r ffilm yma yn enwedig gan y cymeriadau eraill, er enghraifft ffrind Charlie, Sam, fe gafodd hi ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn, yn debyg i Charlie. Erbyn diwedd y ffilm rydym yn ffeindio allan cafodd Charlie ei gam-drin yn rhywiol hefyd gan ei Anti yn blentyn. Mae’r ffilm yn hynod o greadigol ac mae’n anodd esbonio popeth gan mae’n un o’r ffilmiau na sydd rhaid gwylio er mwyn ei deall. Mae ‘The Perks of Being a Wallflower’ yn portreadu symptomau ac effaith PTSD yn gywir yn enwedig gan bwysleisio ar ddioddefwyr sydd yn eu harddegau.

 

Shutter Island

Un o’r ffilmiau gorau wnewch chi fyth wylio! Mae’r cymeriad Marsial Teddy Daniels yn ymchwilydd a oedd wedi bod yn yr Ail Ryfel Byd. Yn y ffilm mae wedi cael ei benodi i ymchwilio diflaniad Rachel Solando o ysbyty salwch meddwl Ashecliffe sydd wedi cael ei leoli ar Shutter Island. Mae dryswch gan Teddy wrth iddo beidio deall pan nad yw’r swyddogion yn gadael iddo weld y dogfennau sydd yn berthnasol i ddiflaniad  Rachel. Rydym yn dysgu am gefndir Teddy hefyd wrth i ni ddeall bod ganddo dri o blant a gwraig sydd yn emosiynol o ansefydlog. Mae llawer yn digwydd yn y ffilm yma ac yn cymryd lot o ganolbwyntio. Mae diweddglo annisgwyl yn y ffilm wrth i Teddy fynd yn wallgof a siarad gyda seiciatrydd a ffeindio allan ei fod gydag anhwylder rhithdybiol (delusional disorder) ac wedi bod yn glaf yn yr ysbyty ers dwy flynedd. Mae’r seiciatrydd yn esbonio i Teddy ei fod wedi gwneud cymeriadau i fyny yn ei ben drwy ddefnyddio anagramau o’i enw i ddianc o realiti ei orffennol a hefyd yn dweud wrtho na fo lofruddiodd ei wraig ar ôl iddi foddi ei blant. Mae’r seiciatrydd yna yn esbonio mae therapi newydd chwarae rôl oedd y ffaith ei fod yn ymchwilydd i ddiflaniad Rachel Solando yn y gobaith i wneud i Teddy sylweddoli'r gwirionedd.

 

Silver Linings

Pat Solianto yw prif gymeriad y ffilm ‘Silver Linings’. Mae Pat newydd gael ei ryddhau o ysbyty salwch meddwl ar ôl wyth mis o fod yno oherwydd ei fod yn dioddef o anhwylder bipolar ar ôl curo dyn oedd yn cael carwriaeth gyda'i wraig. Buan yn y ffilm mae Pat yn cwrdd â merch o’r enw Tiffany sydd newydd golli gŵr ac yn delio ag iselder. Mae’r ddau yn tyfu’n agos at ei gilydd yn ystod y ffilm.  Mae’r ffilm yn portreadu anhwylder bipolar yn drylwyr iawn. Yn y ffilm gwelwn Pat yn dioddef o gyfnodau lle mae’n colli cwsg a pharanoia ag hefyd yn dweud beth sydd ar ei feddwl allan yn uchel a rhithwelediadau. Mae’r ffilm yma yn dangos nad oes angen bod ofn bod yn agored am salwch meddwl ac i beidio eu cuddio achos mae’n bosib helpu eraill sydd yn dioddef o salwch meddwl ac i ddelio gyda’r symptomau.

 

Inside Out

Mae’r ffilm ‘Inside Out’ yn ffilm sydd yn cyffwrdd a dangos pwysigrwydd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc. Mae'r ffilm yn dilyn merch 11 oed o'r enw Riley, a'i hemosiynau sy'n rheoli ei chydwybod, yn ogystal ag ateb i’w byd o’i chwmpas hefyd. Oll yn oll, mae’r emosiynau i gyd yn sicrhau bod Riley yn hapus a bod yr holl atgofion hapus yna yn gorbwyso ei atgofion negyddol tan i rieni Riley ddweud wrthi ei bod yn symud i San Francisco sydd yn arwain at lawer o sefyllfaoedd newydd a dryslyd yn ei phen mae hi yn trio ei datrys. Dyna pryd mae ei holl emosiynau sef Hapusrwydd, Tristwch, Dicter a Ffieidd-dod yn ceisio helpu Riley drwy hyn i gyd. Mae’r ffilm yma yn ffilm glyfar a modern wrth roi pwysigrwydd iechyd meddwl allan i’r byd mewn cynnwys hynod o greadigol.

 

The Breakfast Club

Yn y ffilm yma mae grŵp o blant ysgol uwchradd yn gorfod mynd i’r ysgol ar brynhawn Sadwrn fel cosb am gamfihafio. Mae pum cymeriad sydd yn stereoteipio'r mathau o blant a’r cymeriadau cryf sydd i’w gael yn yr ysgol sef y rebel, nerd, athletwr, y ferch boblogaidd ar un od. Wrth i’r ffilm fynd yn ei flaen rydym yn dysgu mwy am gefndir y cymeriadau yma ac am ei iechyd meddwl. Mae’r cymeriad John yn byw mewn cartref llawn camdriniaeth, ceisiodd Brian gyflawni hunan laddiad ac mae ymddygiad o fwlio a cham-drin eraill gan y cymeriad Andrew yn adlewyrchiad o gam-drin emosiynol ei Dad. Mae’r ffilm yn ceisio dangos ag archwilio'r gwahaniaeth rhwng y cymeriadau sydd yn cael ei ymddangos yn berffaith iawn o ran cyflwr iechyd meddwl ar gymeriadau sydd yn dioddef. Wrth wylio’r ffilm, rydw i yn bersonol a llawer o bobl eraill sydd wedi ei wylio wedi cael amser i feddwl wrth i’r llinell yma dynnu sylw yn y ffilm ac yn aros yn y meddwl, “We’re all pretty bizarre. Some of us are just better at hiding it, that’s all”.