Ffug gredoau am ffobiâu

Dyma ddarn hynod ddefnyddiol gan Lois o Brifysgol Bangor sydd yn trechu'r stigma yma gan gyflwyno gwiredd byw efo ffobia.

Mae nifer o ffug gredoau am ffobiâu yn ein cymdeithas heddiw, ac maent angen eu hatgyweirio i leihau'r stigma am unigolion gydag anhwylder ffobiâu.

Ffobiâu yw’r anhwylder pryder fwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, gyda 10 miliwn o'r boblogaeth gyda rhyw fath o ffobia. Mae felly’n syndod mawr fod yna gynifer o ffug gredoau am ffobiâu sy’n cael eu derbyn fel ffeithiau gan ein cymdeithas. Mae’r stigma am iechyd meddwl wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag does dim llawer o sylw yn cael ei roi i ffobiâu, sy’n parhau i fod yn destun llawer o stigma negyddol. Dyma rhai ffug gredoau sydd angen eu hatgyweirio i leddfu'r stigma tuag at anhwylder ffobia.

  1. Mae ffobiâu wedi eu hetifeddu - nid oes unrhyw ymchwil yn awgrymu y gellir trosglwyddo ffobiâu i lawr trwy'r teulu. Fodd bynnag, mae gan seicoleg ymddygiadol gorff mawr o lenyddiaeth sy'n mynegi bod ffobiâu yn cael eu dysgu, ac felly gellir eu dysgu gan ein rhieni, ond dydi hyn ddim yn rheol o bell ffordd.

  2. Dim ond ofnau yw ffobiâu – er eu bod yn tarddu o’r un lle, mae’n bwysig cydnabod y gwhaniaeth rhwng ofnau ac ffobiau. Nid yw ofn mor heriol yn gorfforol nac yn emosiynol ac y mae ffobia. Nid yw ofnau'n cyfyngu ar yr hyn y gall ac na all rhywun ei wneud yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Er enghraifft, gallai rhywun sy'n ofni cŵn deimlo'n anghyfforddus wrth gerdded heibio ci o frîd maent yn ei ganfod fel un peryglus, ond byddai rhywun sydd â ffobia o gŵn yn osgoi cerdded heibio i barciau ac yn cael pwl o banig corfforol ac emosiynol wrth weld, clywed neu siarad am gi. Hefyd, gan amlaf mae ofnau yn ddefnyddiol i'n cadw ni'n ddiogel rhag sefyllfaoedd peryglus, megis ofn uchder, ond mae ffobiâu yn ofn afresymol heb fod o fudd i'n diogelwch.

  3. Yr unig ffordd i oresgyn ffobia yw gwynebu eich ofn – gall herio patrymau meddwl afresymol a negyddol mewn ffordd ysgafn a chefnogol fod o help i rywun gyda ffobia. Gall gorfodi rhywun i wynebu eu sbardunau fod yn hynod o niweidiol a gall achosi i’w ffobia waethygu. Mae'r gred ffug hon yn deillio o'r hyn y mae pobl yn ei wybod am therapi amlygiad (exposure therapy), lle mae’r unigolyn yn gwynebu beth sydd yn eu hofni. Ond, mae’r therapi hyn yn broses raddol iawn mewn amgylchedd tawel wedi ei rheoli, yn cael ei gynnal gan therapydd proffesiynol. Mae yn llinell denau rhwng gwella a gwaethygu gyda'r dechneg hon.

  4. Osgoi pethau sy'n sbarduno'ch pryder yw'r ffordd orau i ddelio â ffobia - mae llawer o bobl gyda ffobia yn gallu byw bywydau llawn, heb amharu ar eu bywyd o ddydd i ddydd o gwbl. Mae osgoi sbardun y ffobiâu yn gallu gweithio'n dda i rai, ond mae'n dibynnu ar natur y ffobia. Er enghraifft, ni fydd yn rhaid i rywun sydd â ffobia o'r môr, sy'n byw ymhell o’r traeth, ddod ar draws sbardun eu ffobia yn aml iawn os o gwbl. Ond, i lawer nid yw hynny'n opsiwn, gall rhywun â ffobia cymdeithasol eithafol fethu ymuno ac achlysuron cymdeithasol, methu â gweithio a cholli allan ar fod yn rhan o gymdeithas. Yn yr achos hwn, mae osgoi eich sbardun yn arwain at ansawdd bywyd gwael.

  5. Mae ffobiâu yn rhan o bersonoliaeth rhywun - Nid oes ymchwil sydd yn awgrymu fod yna gysylltiad cadarn rhwng unrhyw ffobia ag unrhyw agwedd benodol o bersonoliaeth. Mae personoliaeth rhywun yn sefydlog dros amser, sy'n golygu y bydd yr un peth mwy neu lai o pan fyddant yn blentyn i pan fyddant yn oedolyn, ac mae'n annhebygol iawn o newid. Ar y llaw arall, mae ffobiâu yn anhwylder pryder, sy'n fath o salwch meddwl, ac mae'n bosibl goresgyn unrhyw salwch meddwl gyda'r driniaeth a'r gefnogaeth gywir.

  6. Dylid goresgyn ffobia drwy ymresymu nad yw yn ofn real - mae ffobiâu yn ôl eu diffiniad yn ofn afresymol, a rhan fawr o’r salwch yw meddyliau afresymol a all arwain at deimladau o banig a cholli rheolaeth. Fodd bynnag, er y rhan amlaf fod rhywun gyda ffobia yn ymwybodol bod eu meddyliau'n afresymol, mae'n debyg y bydd yr unigolyn, heb fwriadu, wedi datblygu fframwaith cywrain i amddiffyn a rhesymoli eu meddyliau ymwthiol. Mae'n bwysig cofio bob amser bod profiad rhywun gyda’u ffobia yn real, drallodus iawn ac yn ymddangos yn llwyr resymegol iddyn nhw.

  7. Nid yw ffobiâu yn iechyd meddwl o ddifri - mae nifer yn profi ofnau a phryderon ar ryw gyfnod o’u bywyd, oherwydd hyn mae llawer o bobl yn credu mai dim ond rhan o fywyd beunyddiol yw ffobiâu ac nad ydyn nhw’n rhywbeth difrifol mewn unrhyw synnwyr. Fodd bynnag, gall byw gyda ffobia gael goblygiadau difrifol iawn megis arwahanrwydd cymdeithasol, osgoi amrywiaeth o sefyllfaoedd, pryder parhaus ac ymosodiadau o banig, anallu i weithio ac o bosib y gwaethaf ohonynt yw datblygu anhwylderau iechyd meddwl ychwanegol.

 

Ydi darllen hwn wedi neud i chi feddwl yn wahanol am ffobiâu?

Efallai gallwch yrru’r rhestr yma i addysgu rhywun am wirioneddau’r anhwylder. Mae’n bwysig cywiro ffug credoau gan y gall fod yn niweidiol i hunan hyder unigolion gyda ffobiâu a lliwio canfyddiad pobl o anhwylder ffobia.