Goresgyn meddyliau negyddol

Mae pawb yn profi meddyliau negyddol o bryd i’w gilydd, gall fod mor syml a bod yn siomedig ynoch eich hunain ar ôl cael marc drwg mewn arholiad, neu fod yn ddihyder yn eich gallu wrth ymgeisio am swydd newydd. Fodd bynnag mi all meddyliau negyddol ddatblygu i fod yn llethol ac amharu ar fywyd o ddydd i ddydd yr unigolyn. Mae meddyliau negyddol yn ystumiad meddwl, sy’n golygu eu bod nhw yn feddyliad sydd yn anghynrychiolaethol o’r gwirionedd. 

Un camsyniad poblogaidd iawn am feddyliau negatif yw eu bod nhw yn gyfyngedig i unigolion gydag anhwylderau iechyd meddwl megis pryder ac iselder. Tra maent yn gyffredin iawn i’r anhwylderau hyn, mi all unrhyw un gael anhawster gyda meddyliau negyddol. Gall meddyliau negyddol amlygu eu hunain mewn nifer o wahanol ffyrdd yn aml iawn heb eu canfod fel patrwm negyddol gan y meddyliwr, ond mae yna rhai cyffredin.

Un patrwm cyffredin yw meddwl yn ddu a gwyn, golyga hyn eich bod yn meddwl am rywbeth i un pegwn yn hytrach na gweld y ddwy ochr ac ystyried yr holl gynnwys rhyngddynt, enghraifft o feddwl du a gwyn fyddai; “fedrai ddim gwneud y dasg gwaith cartref yma, fedrai byth wneud unrhyw beth yn iawn!” 

Patrwm arall yw darllen meddyliau, “mae fy ffrindiau i yn meddwl fy mod i yn ddiflas, tydi nhw ddim isio treulio amser efo fi go iawn.” Yma mae’r unigolyn yn gwneud canfyddiad niweidiol a negyddol anghywir o beth mae rhywun arall yn ei feddwl. Patrwm negyddol cyffredin iawn yw i or-gyffredinoli, er enghraifft “mae fy mherthynas efo fy nghariad wedi darfod, dydw i byth am ddod o hyd i bartner arall eto!” ​Dyma pan mae rhywun yn cymryd profiad negyddol ac yn disgwyl ei fod o am ddigwydd eto ac eto neu mewn gwahanol gyd-destun. 

Un arall yw trychinebu, dyma pan mae unigolyn yn chwyddo rhywbeth bach i fod yn broblem fawr, er enghraifft “dwi wedi anghofio fy llyfr, rŵan fyddi ddim yn deall y cynnwys ac yn methu’r dosbarth ac yn gadael y brifysgol heb radd ac yn methu cael swydd a fyddai’n ddigartref!”

Patrwm cyffredin arall yw anwybyddu’r positif, “do mi nes i’n dda i ennill y gystadleuaeth, ond gall rhywun fod wedi gwneud hynny”. Dyma pan mae rhywun yn tanseilio neu yn chwarae i lawr pethau positif maent yn eu cyflawni. 

Mae nifer hefyd yn galw enwau neu yn beio nhw’u hunain, er enghraifft “mae’r athrawes yn edrych yn flin heddiw, mae rhaid na rhywbeth dwi wedi ei wneud yw’r bai, dwi mor ddwl!” 

Patrwm arall negyddol o feddwl yw disgwyliadau afreolaidd, er enghraifft “mi fyddai cwblhau fy holl aseiniadau heddiw a glanhau fy ystafell a mynd am dro a gweld fy ffrindiau a ffonio nain, unrhyw beth llai a tydi o ddim digon da ohona'i”. Mae gosod nodau anghyraeddadwy yn golygu na allwch chi byth lwyddo, a phan nad ydych chi wedi cwblhau'ch tasgau neu'r hyn yr oeddech chi'n bwriadu ei wneud, byddwch chi'n teimlo'n siomedig ynoch chi'ch hun yn anghyfiawn.

Mae cael meddyliau negyddol yn naturiol, ac os maent yn digwydd yn achlysurol a ddim yn boendod ar yr unigolyn does dim lle i bryderu. Fodd bynnag, mi all meddyliau negyddol parhaol ddod â hwyliau i lawr, lleihau hunan-barch, difetha hyder, a ffurfio hunanddelwedd atgas. Gall y sgil effeithiau yma i gyd gael dylanwadu ar yr hunan, fywyd cymdeithasol, gyrfa neu goleg ac iechyd ffisegol. Mae felly yn bwysig i allu trin a rheoli patrymau negyddol o feddwl ac mae yna nifer o ffyrdd i wneud hyn.

Yn gyntaf rhaid dod yn ymwybodol o’r patrymau meddwl negyddol, mae hyn yn golygu i sylweddoli pam fyddwch yn ymgymryd â phatrwm meddwl negyddol. Gall fod yn anodd sylweddoli yn y dechrau, ond wrth i amser basio byddwch yn dwad yn ymwybodol pan maen nhw yn digwydd. Un ffordd o wneud hyn yw ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, cymryd amser i wrando ar eich meddyliau, cydnabod y meddyliad negyddol a gadael iddo basio. Tra rydych yn cymryd seibio gyda’r meddyliad, yn ei gydnabod, mae’n bwysig ei ddadansoddi’n heriol. 

Mae’n bwysig herio’r meddyliad i sylweddoli ei fod yn anghywir, ystyriwch beth yw eich tystiolaeth i gefnogi’r syniad negyddol, pam ‘rydych chi’n meddwl fel hyn, fuasai eich ffrind yn meddwl fel hyn amdanoch. Mae’n bwysig hefyd i ystyried ydi’r meddyliad yma yn fuddiol, os nad ydyw yn fuddiol ac yn achosi niwed neu boen i chi, mae’n bwysig i adael iddo basio. 

I ymladd yn erbyn y meddyliau negyddol mae hefyd yn hynod o bwysig i wneud ymdrech gydwybodol i feddwl yn bositif. Mi all hyn deimlo’n rhyfedd ac yn wirion i gychwyn, ond wrth i amser basio mi ddaw yn naturiol i feddwl yn bositif. Craidd meddwl yn bositif yw bod yn glên gyda chi’ch hunan, yn hytrach na galw’ch hunan yn enwau siarad gyda chi’ch hun fel y buasech yn siarad gyda ffrind neu rywun rydych yn malio amdanynt ac yn ei barchu.

Os yw meddyliau negyddol yn gwaethygu neu eich bod yn teimlo fel eu bod nhw allan o’ch rheolaeth mae’n bwysig i chwilio am gymorth, mae nifer o adnoddau defnyddiol ar y we gyda mwy o dechnegau ar ymdrin â phatrymau negyddol o feddwl ond mi all fod o fudd siarad gyda meddyg neu weithiwr proffesiynol.

Gall meddyliau negyddol deimlo'n annirnadwy, ond mae'n bosibl meddwl yn bositif drwy herio'r meddyliau hyn a gwneud newidiadau gweithredol er gwell.