Helpu ffrind sy’n teimlo’n hunanladdol

 

Mind out logo
Darparwyd y wybodaeth isod gan Mind Out 
 

  

Os yw rhywun rydych yn ei adnabod yn teimlo’n hunanladdol efallai eu bod nhw angen rhywun maen nhw’n teimlo’n ddiogel gydag i siarad gydag ef/hi ac i fynegi eu teimladau, ofnau a phryderon gyda, rhywun y gallant deimlo'n gartrefol yn eu cwmni.  


Beth allai rhywun sy'n teimlo’n hunanladdol fod ei angen?    

  • Clust i wrando. Rhywun a fydd yn cymryd amser i wir wrando arnyn nhw. Rhywun fydd ddim yn beirniadu nac yn gorfodi cyngor neu farn, ond a fydd yn rhoi ei holl sylw iddynt.  
  • Rhywun i ymddiried ynddynt. Rhywun a fydd yn eu parchu ac na fydd yn ceisio cymryd drosodd. Rhywun a fydd yn trin popeth yn gwbl gyfrinachol  
  • Rhywun i boeni amdanynt. Rhywun a fydd ar gael ac yn gwneud i’r person deimlo’n gartrefol a thawel. Rhywun a all gysuro, derbyn a chredu. Rhywun sy’n gallu dangos eu bod nhw’n poeni  

 
Beth nad yw rhywun sy'n teimlo’n hunanladdol ei eisiau?    

  • Bod ar ei ben ei hun. Gall cael eu gwrthod gwneud i’r broblem ymddangos yn llawer gwaeth. Mae cael rhywun i droi ato yn gwneud gwahaniaeth mawr
  • Rhywun sy’n pregethu. Nid yw pregethu yn helpu. Na chwaith awgrymu y dylai’r person “codi dy galon” neu sicrwydd gwag y bydd “popeth yn iawn”. Ceisiwch beidio dadansoddi, categoreiddio neu feirniadu. 
  • Cael ei holi’n dwll. Peidiwch â cheisio troi’r sgwrs, pitïo neu nawddogi. Gall siarad am deimladau fod yn anodd. Ni fydd rhywun sydd wedi magu plwc i siarad gyda chi am hunanladdiad eisiau cael ei ruthro neu orfod amddiffyn ei hun.