Iaith yr ymennydd

happy person

DARPARWYD GAN

logo


Dysgu sut i siarad â’ch hun yn y ffordd gywir

Os gwelwch arwydd yn dweud, 'Peidiwch â cherdded ar y glaswellt', y peth cyntaf a ddaw i’ch meddwl yw cerdded ar y glaswellt, byddwch wedyn yn prosesu’r rhan negyddol o’r frawddeg 'peidiwch'. Mae hyn am ein bod yn meddwl am y cyfarwyddyd ar ôl y gwrthrych, (y gwrthrych yw’r hyn rydym yn ei weld neu ei deimlo). Byddai ‘Cerddwch ar y palmant’ yn arwydd mwy effeithiol, gan y byddai eich meddwl yn gweld y palmant yn gyntaf.

Yn awr gadewch inni gysylltu’r broses hon â gorbryder. Os byddwch yn dweud wrth eich hun 'Ni fyddaf yn bryderus heddiw' y peth cyntaf a welwch yn eich meddwl yw bod yn bryderus, a allai sbarduno symptomau gorbryder ar unwaith, Byddai’n fwy priodol i ddefnyddio’r ymadrodd ‘Mi wna i ymlacio heddiw’ gan y bydd eich meddwl yn canolbwyntio ar y gair ymlacio.

Y peth pwysig yw sut mae eich meddwl yn gweld neu’n meddwl am rywbeth cyn y gall symud ymlaen i’r cam nesaf.

Dyma yw hanfod iaith yr ymennydd, osgoi defnyddio negydd.

Fel y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mi allwch edrych ar sut yr ydych yn meddwl mewn dwy ffordd:


‘Rydw i wedi ymlacio’ neu ‘Nid wyf yn bryderus’

‘Rwyf yn bwyta pryd iach’ neu ‘Nid wyf yn bwyta bwyd afiach’

‘Rwyf yn ddiwyd’ neu ‘Nid wyf yn ddiog’

Mae ystyr pob un o’r enghreifftiau uchod yn union yr un fath ond mae gan bob un syniad positif a syniad negyddol.

Bydd ymadroddion positif yn gweithio’n well â’ch ymennydd bob amser, gan roi gwedd fwy positif ar fywyd a’ch helpu i reoli eich pryderon.