OCD yn y Brifysgol

OCD Action
Darparwyd y wybodaeth isod gan OCD Action 
 

Mae’r brifysgol yn gallu ymddangos yn frawychus iawn i rywun sy’n dioddef o OCD. Efallai eich bod wrthi’n cynllunio i fynd i’r brifysgol neu wedi dechrau eich cwrs yn barod. Efallai eich bod wedi bod yn dioddef o OCD ers blynyddoedd? Neu efallai bod OCD wedi dod yn broblem nawr eich bod yn trefnu eich bywyd a’ch astudiaethau i ffwrdd o gefnogaeth eich teulu a’ch ysgol? 

Beth bynnag yw eich sefyllfa, gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi.